Mae hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta rhwng 25 Chwefror a 2 Mawrth. Yma, mae’r fferyllydd o Gaerdydd Irram Irshad yn dweud mwy am y cyflwr…
Mae anhwylder bwyta yn gyflwr iechyd meddwl. Mae pobl yn bwyta gormod neu rhy ychydig i ymdopi â theimladau a sefyllfaoedd.
Mae tri phrif fath o anhwylderau bwyta:
- Anorecsia Nervosa – ceisio rheoli eich pwysau drwy beidio â bwyta digon o fwyd ac ymarfer gormod.
- Bwlimia – colli rheolaeth dros faint rydych chi’n ei fwyta ac yna cymryd camau llym, fel gorfodi eich hun i chwydu, er mwyn osgoi magu pwysau.
- Anhwylder Gorfwyta mewn Pyliau – bwyta llawer iawn o fwyd nes eich bod yn teimlo’n anghyfforddus o lawn.
Mae dioddefwyr yn poeni’n gyson am eu pwysau a siâp y corff. Yn aml iawn, byddan nhw’n cymryd gormod o garthyddion. Mae ganddyn nhw arferion llym o amgylch bwyd. Byddan nhw’n aml yn gwrthod mynd i ddigwyddiadau cymdeithasol sy’n ymwneud â bwyd. Efallai bod newidiadau yn eu hwyliau, e.e. bod yn bryderus, neu’n ddigalon. Efallai eu bod yn teimlo cywilydd.
Mae symptomau eraill yn cynnwys:
- Blinder
- Pendro
- Poenau, goglais neu ddiffyg teimlad yn y breichiau a’r coesau oherwydd cylchrediad gwael.
- Pwls cyflym
- Nid yw menywod yn cael eu mislif.
Pam mae pobl yn datblygu anhwylderau bwyta?
- Gallai fod hanes teuluol o anhwylderau bwyta, iselder, neu gamddefnyddio alcohol neu gyffuriau.
- Pwysau cyfoedion, pwysau yn yr ysgol neu’r gwaith, e.e. dawnswyr bale, modelau, athletwyr.
- Maen nhw wedi cael eu beirniadu am eu pwysau neu siâp eu corff.
- Hanes o gam-drin rhywiol.
- Mae gan y person bryder a hunan-barch isel.
Yn aml, bydd pobl ag anhwylderau bwyta yn gwadu bod ganddyn nhw’r cyflwr, felly beth ddylai teulu a ffrindiau edrych amdano?
- Colli pwysau dramatig.
- Gwneud gormod o ymarfer corff.
- Gwisgo dillad llac i guddio colli pwysau.
- Bwyta llawer o fwyd yn gyflym iawn neu dorri bwyd yn ddarnau bach, a bwyta’n araf iawn.
- Mynd i’r ystafell ymolchi llawer ar ôl bwyta.
- Osgoi bwyta gydag eraill.
- Dweud celwydd am faint a phryd maen nhw wedi bwyta.
Sut mae anhwylderau bwyta’n cael eu rheoli?
Mae’n rhaid i’r person gael ei annog/cynghori i weld ei feddyg teulu cyn gynted â phosibl. Bydd y meddyg teulu yn gallu eu cyfeirio at wasanaethau arbenigol a fydd hefyd yn darparu cwnsela a Therapi Ymddygiad Gwybyddol. Bydd hyn yn helpu i ymdopi â theimladau a gwneud dewisiadau iach o ran bwyd.
Mae nifer o sefydliadau ac elusennau ar gael i roi cefnogaeth:
Beat – www.beateatingdisorders.org.uk
Mind – www.mind.org.uk
Mae gan bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru wasanaethau anhwylderau bwyta, felly mae cymorth ar gael ym mhob cornel o Gymru. Os ydych chi’n dioddef eich hun neu’n adnabod rhywun sydd yn, cysylltwch â’r gweithwyr proffesiynol.