Rhybudd cynnwys: Mae’r erthygl yma’n trafod pynciau a allai beri pryder.
Mae Medi 10 yn Ddiwrnod Atal Hunanladdiadau’r Byd. Mae Neville Eden yn gwirfoddoli gydag elusen atal hunanladdiad Papyrus. Mae’r elusen yn agos iawn at ei galon.
Mae Neville yn dod o Swydd Nottingham yn wreiddiol a rŵan yn byw yn Abergele yn Sir Conwy. Mae o wedi dysgu Cymraeg ac yn trio annog pobl eraill i ddefnyddio’r iaith. Mae Neville wedi ysgrifennu cerdd i gyd-fynd efo Diwrnod Atal Hunanladdiadau’r Byd.
Yma mae’n ateb cwestiynau Lingo360…
Neville, beth ydy’r elusen Papyrus?
Mae Papyrus yn elusen sy’n ceisio atal hunanladdiad ymysg pobol ifanc dan 35 oed ar draws y Deyrnas Unedig.
Pam mae’r elusen mor bwysig i chi?
Pan o’n i yn fy nhridegau cynnar, wnes i geisio lladd fy hun. Dw i’n hapus iawn i fod yma o hyd.
Roeddwn i’n lwcus iawn, ac mae hynny’n un o’r rhesymau roeddwn i’n dewis gweithio fel gwirfoddolwr efo Papyrus. Mae’n achos pwysig i fi, ac yn bersonol i fi hefyd.
Dw i’n hapus i fod yn agored am fy mhrofiad i achos mae’n bwysig i annog pobol i siarad yn fwy agored am hunanladdiad. Yn anffodus mae’r gair yn tabŵ.
Mae Papyrus eisiau chwalu’r stigma o gwmpas hunanladdiad. Maen nhw eisiau rhoi sgiliau i bobol i adnabod ac ymateb i ymddygiad hunanladdol.
Dach chi’n credu bod llawer o gamddealltwriaeth am hunanladdiad?
Mae llawer o bobol sy’n meddwl ‘rhaid bod pobol sy’n trio lladd eu hunain â phroblem iechyd meddwl’. Dydy hynny ddim yn gywir. Does gan ddau o bob tri achos o hunanladdiad ifanc ddim byd i wneud ag unrhyw hanes blaenorol o iechyd meddwl gwael.
Mae llawer o bwysau ar bobol ifanc. Mae’r argyfwng costau byw, bwlio ar-lein ac yn yr ysgol a’r colegau, materion yn ymwneud â hunaniaeth rhywedd – y math yna o bethau sydd ddim yn faterion iechyd meddwl yn eu hunain.
Dach chi wedi cael hyfforddiant ar gyfer gweithio efo Papyrus?
Ges i hyfforddiant ar-lein yn ystod y cyfnod clo. Erbyn hyn dw i’n gwirfoddoli gyda’r elusen yn ystod ffeiriau Wythnos y Glas ym mhrifysgolion y gogledd. Dw i’n rhoi cyflwyniadau lefel mynediad i sefydliadau sydd eisiau dysgu mwy am waith Papyrus.
Bob Hydref, dan ni’n cynnal ‘Hopewalks’ er mwyn codi arian a thynnu sylw at ein gwaith.
Mae Papyrus Hopeline247 ar 0800 0684141 neu ewch i’r wefan, papyrus-uk.org, neu gysylltu â’r Samariaid ar 116 123.
Dyma gerdd Neville Eden…
Dewisiadau…
Pan dw i’n cau fy llygaid i
A gadael i’m pen wagu
Daw dim sain i’m clustiau i
Dim byd, dim hyd yn oed fi
Dim rhyfel a dim llwgu
Dim straen nag angen poeni
Dim salwch a dim tlodi
Dim byd, dim hyd yn oed fi
Dim byd o dan fy nghroen i
Dim dadlau gyda’m teulu
Dim addewid i dorri
Dim byd, dim hyd yn oed fi
Ond, pa fath o hedd bydd hi?
Dim sain chwerthin gan fabi
Dim cwtsh gan ffrind dw i’n garu
Dim gwres o’r haul arna i
Dim byd, dim hyd yn oed fi
Dim noswaith haf a pharti
Dim dawnsio a dim canu
Dim boreau hir yn y gwely
Dim byd, dim hyd yn oed fi
Gall y byd ein dallu ni
O bopeth dyn ni’n hoffi
A meddwl ‘Does dim i golli’
Dim byd, dim hyd yn oed fi
Mae dewis mawr i’w wynebu
Mae rhaid i ni ofalu
Un dewis heb ddim ar ôl hi
Dim byd, dim hyd yn oed fi
Mae’r dewis yn glir i fi
Caru bywyd; dal ati
Mae’r heddwch yma i ni
Yn wir, i hyd yn oed fi
© Y Bardd Drwg
Neville Eden
Gwirfoddolwr Papyrus (https://www.papyrus-uk.org)
(Ar gyfer Diwrnod Atal Hunanladdiad Y Byd, 10 Medi 2024)