Dyma’r gyntaf mewn cyfres o dair colofn gan y fferyllydd Irram Irshad. Yn y golofn yma, mae hi’n trafod symptomau Covid Hir a’r gefnogaeth sydd ar gael…


Yn 2020, daeth y byd i stop oherwydd y Coronafeirws. Er bod y sefyllfa wedi gwella erbyn hyn a llai o bobl yn marw diolch i’r brechiadau, mae Covid-19 yn dal i fod o gwmpas a bydd gyda ni yn y tymor hir, fel y ffliw.

Does dim un wythnos yn mynd heibio pan nad oes gen i glaf, cydweithiwr neu ffrind yn cael prawf positif am Covid.  Gobeithio, os ydyn ni i gyd yn synhwyrol gyda hylendid, bydd e ddim yn lledaenu mor hawdd.  Mae rhai pobl fregus yn dal i wisgo mygydau – dyma’r normal newydd iddyn nhw bellach.

Brechlyn Covid-19

Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n cael Covid-19 yn cael symptomau am ychydig ddyddiau, ac yn teimlo’n flinedig am ychydig wythnosau wrth iddyn nhw wella.

Ond mae llawer o bobl yn dioddef gyda Covid Hir. Wrth i fwy o ymchwil gael ei wneud i’r cyflwr, dyn ni’n gobeithio, yn y dyfodol, byddwn yn gallu helpu’r bobl sy’n byw gydag ef.

Symptomau Covid Hir

Mae o leiaf 65 miliwn o bobl ledled y byd yn byw gyda Covid Hir, gyda’r niferoedd yn cynyddu bob dydd.  Os dych chi wedi cael symptomau Covid am fwy na 12 wythnos, dych chi’n cael eich ystyried o fod â Covid Hir.

Mae’r symptomau mwyaf cyffredin yn cynnwys:

  • Blinder eithafol
  • Teimlo’n fyr o anadl
  • Colli arogl
  • Poenau yn y cyhyrau.

Ond mae cleifion wedi nodi llawer o symptomau eraill.  Mewn gwirionedd, mae mwy na 200 o symptomau wedi’u nodi, gan gynnwys:

  • Problemau gyda’r cof a chanolbwyntio
  • Poen yn y frest, y galon yn curo’n gyflym, a phroblemau eraill gyda’r galon
  • Problemau cysgu
  • Pendro
  • Pinnau bach
  • Iselder a phryder
  • Canu yn y glust
  • Cur pen
  • Cyfog, dolur rhydd, poen stumog, colli archwaeth
  • Diabetes
  • Problemau system imiwnedd
  • Problemau gyda’r arennau a’r iau
  • Mwy o risg o glotiau gwaed a strôc.

Llawer i ddysgu am Covid Hir

Er mwyn cael diagnosis cywir, byddai meddyg teulu yn cynnal profion gwaed, gwirio pwysedd gwaed a chyfradd y galon, gofyn am belydr-x o’r frest, a mesur lefelau ocsigen. Ond gan fod Covid Hir yn gyflwr newydd mae gennym lawer i ddysgu amdano. Nid oes profion penodol ar ei gyfer ar hyn o bryd.

Y ffordd mae Covid Hir yn cael ei drin ar hyn o bryd yw rheoli’r symptomau.  Efallai y cewch eich cyfeirio at wasanaeth arbenigol i ddelio â nhw (e.e. arbenigwr ar y galon) neu gael meddyginiaeth ar bresgripsiwn (e.e. ar gyfer pendro, iselder, pryder).  Nid oes neb yn gwybod mewn gwirionedd pa mor hir y bydd y symptomau hyn yn para. Does dim ots pa mor ddifrifol oedd eich haint. Mae hyd yn oed pobl oedd heb gael symptomau difrifol yn gallu cael Covid Hir yn y pen draw.

Covid Hir mewn plant

Gall Covid hir effeithio plant o bob oed.  Y symptomau mwyaf cyffredin mewn plant hŷn (15-19 oed) yw blinder, cur pen, pendro, diffyg anadl, poen yn y frest, llai o archwaeth, anhawster canolbwyntio a phroblemau cof, yn ogystal ag anhwylderau cysgu.  Gall hefyd achosi niwed i’r iau a’r galon, yn ogystal â cheuladau gwaed (coesau, ysgyfaint) a datblygu diabetes math 1.  Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o gael ADHD.

Pa gefnogaeth sydd ar gael i bobl sy’n byw gyda Covid Hir?

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) wedi creu gwefan “Eich Adferiad Covid” ar gyfer gwybodaeth a chyngor.  Ewch i https://yourcovidrecovery.nhs.uk.

Mae yna Ap Adfer Covid-19 yn yr App Store Google Play ac Apple.  Os nad ydych chi’n hoffi defnyddio apiau, mae dolenni ar gael ar wefan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC):

Mae yna amryw o astudiaethau’n cael eu cynnal ledled y Deyrnas Unedig i ddysgu mwy am Covid Hir.  Os dych chi’n cael gwahoddiad gan y GIG neu eich meddygfa i gymryd rhan, mae’n werth ystyried gwneud.  Ar hyn o bryd, mae o leiaf 15 astudiaeth ledled y DU. Roedd £20m wedi ei roi ar gyfer y prosiectau ymchwil hyn, ac mae’r un mwyaf yn cynnwys 4,500 o bobl.  Ar hyn o bryd mae astudiaethau’n cael eu cynnal gan lawer o brifysgolion gan gynnwys yn Llundain, Caerwysg, Birmingham, Rhydychen, Leeds, a Glasgow.

Yn wahanol i fy erthyglau iechyd arferol, yn anffodus alla’i ddim rhoi cyngor penodol i chi am sut i reoli Covid Hir. Ond os dych chi’n meddwl bod gennych chi Covid Hir, ewch i weld eich meddyg teulu.

Yn yr erthygl nesaf, byddaf yn siarad â ffrind annwyl i mi sy’n byw gyda Covid Hir. Byddwch yn dysgu am ei frwydrau a’r gwaith anhygoel y mae bellach yn ei wneud gyda’r elusen Long Covid Support.