Wel, lle i ddechrau? Am wythnos arbennig ym Moduan ar faes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd!

Cefais i’r pleser o fod ar y maes eleni yn gweithio ar stondin Cyngor Llyfrau – er doedd hynny ddim yn teimlo fel gwaith o gwbl – a dathlu efo ffrindiau hen a newydd.

Roedd yr wythnos wedi dechrau mewn ffordd hyfryd efo dathliad arbennig yn Maes D ar gyfer pawb sydd wedi cwblhau cymhwyster i fod yn diwtor Cymraeg dros y cwpl o flynyddoedd ddiwethaf.

Cyn i ni dderbyn ein tystysgrifau, wnaethon ni glywed gan Helen Prosser – rhywun dw i wedi bod yn edmygu ers blynyddoedd – yn canmol pawb sy’n gweithio o fewn y maes dysgu ac, wrth gwrs, pawb sydd yn, neu wedi, dysgu Cymraeg fel oedolion.

Francesca gyda Helen Prosser

Wedyn, fues i’n gweithio ar y stondin a galla’i ddeud yn hyderus fy mod i erioed wedi bod mor gyffrous! Mor braf oedd siarad efo gymaint o siaradwyr newydd am lyfrau posib a fydd, gobeithio, yn eu helpu i fagu hyder i ddarllen yn y Gymraeg, a gweld cymaint o bobol yn gyffrous am ddarllen yn gyffredinol.

Ac, wrth gwrs, ges i fy nhemtio gan yr holl lyfrau hyfryd, felly roedd rhaid i mi ddewis un neu ddau (neu dri) o lyfrau i fynd adra efo fi.

Nesh i fynd efo enillydd y Fedal Ryddiaith, Hallt gan Meleri Wyn James (wedi dechrau yn barod ac wrth fy modd!), Porth y Byddar gan Manon Eames a Y Gwyliau gan Sioned Wiliam. Roedd cymaint o bobl wedi ei argymell i fi gan fod y llyfr wedi cael ei osod yn yr Eidal. A’r teitl yn addas iawn gan fy mod i’n mynd ar fy ngwyliau wythnos yma!

Pan ges i seibiant bach ar ôl gorffen gweithio ar y stondin, roeddwn i wrth fy modd yn mynd o gwmpas y maes ac, fel sy’n digwydd ym mhob Eisteddfod, cwrdd â ffrindiau oedd wedi teithio o bob cornel o Gymru.

Un uchafbwynt o’r wythnos oedd cael sgwrs fach ar y radio efo’r hyfryd Nia Parry. Mae Nia, fel Helen, wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i gymaint o bobol sydd wedi darganfod y Gymraeg. Roeddwn i mor hapus i gael y cyfle i siarad efo hi am fy ngwaith efo’r Cyngor Llyfrau, lingo newydd, a phrosiect cyffrous dw i wedi bod yn gwneud efo Boom Cymru dros y misoedd diwethaf.

Francesca a Nia Parry

A sôn am y prosiect cyffrous yma, ges i gyfle i ddal i fyny efo fy ffrind Joe Healy, enillydd Dysgwr y Flwyddyn y llynedd. Mae’r ddau ohonom ni wedi bod yn brysur iawn eleni yn ffilmio rhaglen newydd efo Boom Cymru o’r enw Y Sîn.

Mae’r rhaglen yn dathlu’r byd celfyddydol a’r sîn creadigol ymysg pobol ifanc, ac mi gawson ni’r cyfle i sôn ‘chydig bach am y rhaglen ar y maes wrth grwydro o gwmpas a sgwrsio efo pobol fel Nia a Helen.

Bydd mwy o wybodaeth am Y Sîn i ddilyn yn rhifyn nesaf lingo newydd ac yn fan hyn ar Lingo360 dros y misoedd nesaf felly cadwch lygad allan os dach chi eisiau clywed mwy!