Mae Sean Fletcher yn gyflwynydd teledu. Mae’n cyflwyno rhaglenni Countryfile a Good Morning Britain. Roedd e wedi dysgu Cymraeg tua 20 mlynedd yn ôl. Nawr, mae e eisiau annog mwy o bobl i ddysgu’r iaith, a pheidio “bod ofn gwneud camgymeriadau”. Mae’n falch ei fod wedi dysgu’r iaith ac wedi magu ei blant i siarad Cymraeg hefyd.
Sean Fletcher ydy un o gyflwynwyr y gyfres ddogfen newydd Stori’r Iaith ar S4C. Mae’r gyfres yn edrych ar stori’r Gymraeg ar hyd y canrifoedd.
Mae Sean wedi bod yn siarad efo lingo newydd. Mae’n dweud ei fod wedi dysgu llawer o bethau am y Gymraeg, Cymru, a’i hun yn ystod ffilmio Stori’r Iaith.
“Fel rhywun oedd wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn, dw i’n aml wedi teimlo fel rhywun o’r tu allan sydd ar gyrion clwb neu gymuned o siaradwyr. Ond trwy wneud Stori’r Iaith dw i wedi dechrau deall fod yr iaith yn perthyn i fi gymaint ag unrhyw un arall, ac nad ydw i’n ‘ddysgwr’, dw i’n ‘siaradwr’ a dylwn i ddefnyddio’r iaith heb fod ofn gwneud camgymeriadau. Tasai pawb yn teimlo fel hyn, byddai’r iaith yn tyfu’n gyflym.”
Roedd e wedi dysgu Cymraeg ar ôl cwrdd â’i wraig, Luned Tonderai, yn y brifysgol a chael eu merch.
“Es i ati i ddysgu’r iaith a’i charu. Y rheswm pam wnes i ddysgu Cymraeg oedd oherwydd fy mod yn gallu gweld ei fod yn rhan bwysig o hunaniaeth teulu fy ngwraig. A nawr dw i’n teimlo ei fod yn rhan bwysig o fy hunaniaeth i.”
Mae e eisiau annog mwy o bobl i ddysgu’r iaith. Mae’n dweud ei fod yn “anobeithiol” yn trio dysgu ieithoedd yn yr ysgol. Mae’n dweud does dim rhaid i chi fod yn dda gydag ieithoedd i ddysgu Cymraeg.
Ond mae’n rhybuddio – “bydd yn cymryd llawer o waith ac mae’n ymrwymiad dros amser hir.”
Mae hefyd yn dweud ei fod yn helpu i gael rhywun y gallwch chi ymarfer siarad Cymraeg gyda nhw gartref.
“Mae’n gallu bod yn anodd dechrau siarad Cymraeg efo rhywun dych chi ond wedi siarad Saesneg efo nhw o’r blaen. Pan ddechreuais i ddysgu roedd fy merch yn rhy ifanc i siarad, ond wrth iddi ddysgu geiriau newydd, wnes i ddysgu gyda hi. Yn y diwedd fe wnaeth hi ddysgu’n gyflymach na fi a chywiro fy nhreigladau – un o anfanteision dysgu Cymraeg gyda’ch plant!”
Ond mae Sean yn dweud ei fod yn werth yr holl waith caled a bod dysgu Cymraeg wedi newid ei fywyd.
Mae Sean Fletcher yn un o bedwar cyflwynydd sy’n siarad am eu perthynas nhw gyda’r iaith yn Stori’r Iaith. Y tri arall ydy Lisa Jên, Alex Jones ac Elis James.
Stori’r Iaith, S4C, Nos Fercher, 8 Chwefror, 9pm
Mae’r cyfweliad llawn efo Sean Fletcher yn lingo newydd rhifyn Chwefror/Mawrth.