Yn ei cholofn y tro yma, mae’r fferyllydd Irram Irshad yn dweud pam ei bod yn syniad da cael brechlyn ffliw bob blwyddyn. Mae Irram wedi bod yn fferyllydd ers dros 20 mlynedd. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n gweithio mewn meddygfeydd yng Nghymoedd y de. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 10 mlynedd. Mae ei cholofnau yn edrych ar bethau fel diet, ymarfer corff, afiechydon tymhorol fel ffliw, ac iechyd meddwl

Brechiadau

Gall y brechlyn ffliw helpu i atal y ffliw, neu leddfu’r symptomau os dych chi’n ei gael.

Prif bwrpas y brechlyn ffliw yw eich atal rhag gorfod mynd i’r ysbyty os ydy’r symptomau’n gwaethygu.

Mae’r brechlyn ffliw yn cael ei ddiweddaru bob blwyddyn wrth i’r firws newid, a dyna pam mae’n bwysig cael y brechlyn bob blwyddyn.

Dyma restr o bwy sy’n gymwys i gael brechiad.

 

Oedolion sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw:

  • 65 oed a throsodd
  • sydd â chyflyrau iechyd penodol (e.e. ysgyfaint, calon, aren, diabetes)
  • yn feichiog
  • mewn gofal preswyl arhosiad hir
  • prif ofalwr i berson hŷn neu anabl
  • yn byw gyda rhywun sydd â diffyg imiwnedd (e.e. HIV, trawsblaniad, canser, lwpws, arthritis).

Plant sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw:

  • 2-3 oed
  • Pob plentyn ysgol gynradd (dosbarth derbyn i Flwyddyn 6)
  • Rhai plant ysgol uwchradd (Blynyddoedd 7-11)
  • Plant 2-17 oed sydd â chyflyrau hirdymor penodol (gofynnwch i’ch Nyrs Practis).

Mae cael brechiad hefyd yn berthnasol i Covid.

Wrth i fi ysgrifennu’r golofn hon, mae amrywiad newydd yn lledaenu, a brechlyn atgyfnerthu newydd yn cael ei gyflwyno.  Mae cleifion yn aml yn gofyn: “Beth yw’r pwynt o gael y brechlyn os ydw i’n dal i gael Covid?” Y pwynt yw, mae’r siawns o orfod mynd i’r uned gofal dwys yn yr ysbyty neu farw o Covid yn lleihau’n sylweddol gyda brechiad. Heb y brechiad, byddai’r cyfraddau marwolaeth yn ystod ton gyntaf Covid yn 2020 yn ôl.

Rydych hefyd yn gymwys i gael y brechlyn niwmonia o 65 oed, a brechiad yr eryr o 70 oed.

Pryd ddylech chi weld meddyg teulu os oes gennych annwyd/ffliw? 

  • Os na fydd eich symptomau’n gwella ar ôl 3 wythnos.
  • Mae eich symptomau’n gwaethygu’n sydyn.
  • Mae gennych wres uchel iawn.
  • Rydych chi’n fyr eich anadl neu’n datblygu poen yn y frest.
  • Mae gennych gyflwr hirdymor e.e. ysgyfaint/calon/aren/diabetes.
  • Mae gennych system imiwnedd wan.
  • Rydych chi’n poeni am symptomau eich babi/plentyn.

Hefyd gyda’r ffliw, ewch i gael cyngor meddyg teulu os ydych yn 65 oed neu’n hŷn neu os ydych yn feichiog.

Ffoniwch 999 neu ewch i adran ddamweiniau ac achosion brys os ydych yn:

  • Cael poen sydyn yn y frest.
  • Cael trafferth anadlu.
  • Dechrau pesychu llawer o waed (nid yw ychydig o waed oherwydd y straen o besychu fel arfer yn achos pryder).

Cofiwch gadw llygad ar ffrindiau a chymdogion oedrannus sy’n byw ar eu pen eu hunain.

Mae hefyd yn bwysig cadw’n gynnes. Dw i’n gwybod bod hyn yn anodd iawn gyda’r cynnydd mewn biliau ynni, ond mae gwresogi yn cynhesu ein cyrff ac yn lleihau lleithder yn ein cartrefi.  Gall lleithder achosi problemau iechyd eraill, yn enwedig gyda’n hysgyfaint.

Mae’n bwysig cadw’n gynnes

Gallwch ffonio’r GIG ar 111 am gyngor, a dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan y GIG www.nhs.uk.

Felly gwnewch yn siwr bod gennych chi ddigon o hancesi papur, golchwch eich dwylo yn dda, a chadwch yn ddiogel y gaeaf hwn.