Dw i ddim yn gwybod amdanoch chi, ond mae mis Medi yn teimlo fel chwyrlwynt. Mae’n adeg o’r flwyddyn lle mae popeth yn dechrau prysuro ar ôl yr haf. Prosiectau cyffrous yn mynd ymlaen yn y gwaith, paratoi gwersi Cymraeg ar gyfer y tymor newydd, a’r tywydd yn dechrau troi.

Ond wedi dweud hynny, dan ni wedi cael ambell ddiwrnod o haul hyfryd y mis yma – digon hawdd i anghofio am rheiny ymysg y gwynt a’r glaw yr wythnos hon!  Mae’r haul wedi trio ei orau i ddisgleirio am fymryn hirach (dim cwynion genna’i!).

A chyn i ni droi rownd mae bron yn ddiwedd mis Medi yn barod, a’r hydref yn sicr ar ei ffordd! Dw i ddim cweit yn barod i groesawu’r tymor newydd – mae lot gwell genna’i dymor yr haf a’r gwanwyn –  felly dw i wedi bod yn meddwl am yr holl lyfrau hafaidd dw i wedi darllen yn ddiweddar i gadw ysbryd yr haf yn fyw.

Dw i’n lwcus fy mod i’n gweithio yn Aberystwyth, er fy mod i’n byw yn y gogledd, ac yn cael y cyfle  i fynd yno’n aml. Mae hynny hefyd yn golygu bod gennai’r cyfle i ymweld â’r traeth ar ôl gwaith bob hyn a hyn: rhywbeth dw i wedi gwirioni gwneud dros yr haf yma.

Y llecyn yn y marina lle mae Francesca yn hoffi darllen

Fel arfer, dw i’n ymweld â fy hoff lecyn darllen wrth ymyl y marina ac yn diflannu rhwng cloriau llyfr. Es i’n syth i’r traeth i wneud y gorau o’r tywydd braf bythefnos yn ôl, ac mi nesh i hyd yn oed mentro i mewn i’r môr, ond dim am hir, roedd y llyfr yn fy ngalw’n ôl – ac ro’n i eisiau mynd nôl i’r cynhesrwydd!

Ond nol i’r llyfrau… mae’n rhaid i mi ddweud wrthoch chi am rai o’r nofelau gwych dw i wedi darganfod yn ddiweddar. Y math o lyfrau dach chi ddim yn gallu rhoi i lawr ac sydd ar eich meddwl am amser hir ar ôl i chi droi’r dudalen olaf.

Yn gyntaf, enillydd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni: Hallt gan Meleri Wyn James. Roedd edrych ar y clawr yn ddigon i wneud i mi isio ei darllen yn syth pan welais i bentwr o gopïau yn yr Eisteddfod.

Dydy’r cynnwys heb siomi chwaith – mae’n wir werth ei ddarllen. Mae’r llyfr yn symud rhwng safbwyntiau mam a merch ac mewn ffordd deimladwy iawn. Mae’r ffaith bod y llyfr wedi’i osod yn Aberystwyth wedi gwneud y profiad o’i ddarllen hyd yn oed yn well gan fy mod i’n dechrau dod yn gyfarwydd efo’r dref.

Ymlaen nesaf i Y Gwyliau gan Sioned Wiliam. Roedd rhaid i mi gael copi o’r llyfr yma (un arall efo clawr prydferth) ar ôl i sawl person awgrymu i mi ei ddarllen. Mae’r llyfr wedi’i osod yn yr Eidal ac roeddwn i wrth fy modd yn gweld dipyn o Eidaleg yn cael ei phlethu i mewn i’r stori, yn ogystal ag ambell rysáit.

Dw i’n dallt pam bod pobol wedi’i disgrifio fel y llyfr perffaith i ddarllen ar wyliau. Doeddwn i ddim ar fy ngwyliau pan o’n i’n ei ddarllen ond mae’r awdures yn darlunio golygfeydd a’r bobol mor glir, ro’n i’n teimlo’n ddigon agos. Yn sicr, mae’r lleoliad bron â theimlo fel cymeriad ac roeddwn i’n awchu i fynd yn ôl i Italia ar ôl ei ddarllen!

Hallt a Y Gwyliau

Ac yn olaf, darllenais lyfr newydd gan yr awdures Americanaidd, Ann Patchett, sef nofel o’r enw Tom Lake. Yn amlwg mae ‘na thema efo’r tri llyfr dw i wedi dewis – mae ganddyn nhw gyd gloriau hyfryd dros ben!

Roedd y llyfr yma wedi fy nenu’n llwyr o’r bennod gyntaf: stori mam yn adrodd hanes ei bywyd hi cyn cael ei phlant, a pherthynas dros un haf yn ei hieuenctid efo seren y sgrin cyn iddo ddod yn enwog.  Stori sy’n llawn dop o gariad yw hon.

Felly os dach yn trio eich gorau i gadw’r haf yn fyw am ‘chydig yn hirach, dw i’n awgrymu’r cwmni o lyfrau hafaidd yma i’ch cynhesu. Ac i’r rhai ohonoch sy’n hoff o weld y dail yn disgyn a’r nosweithiau tywyll, bydd rhaid i mi ddechrau meddwl am lyfrau mwy hydrefol!