Dach chi’n hoffi bwyta llysiau? Dach chi’n hoffi bwyta llysiau a ffrwythau sydd wedi cael eu tyfu heb gemegau? Mae Chris a Liz Kameen yn rhedeg cynllun bocs llysiau yn ardal Dinbych.

Wnaethon nhw ddechrau’r busnes The Vale Grocer bum mlynedd yn ôl. Mae ganddyn nhw siop sy’n agor ar fore Iau a Gwener lle maen nhw’n gwerthu’r llysiau a ffrwythau.

Rŵan maen nhw am ddechrau marchnad ffermwyr ar ddydd Sadwrn unwaith y mis. Mi fyddan nhw’n cael cynhyrchwyr lleol eraill i ddod i werthu eu cynnyrch hefyd.

Y llysiau’n tyfu yn y cae

Yma maen nhw’n dweud mwy am y fenter.

Pam dach chi wedi penderfynu dechrau marchnad ffermwyr?

Dan ni wedi bod yn gwerthu cynnyrch lleol a thymhorol sy’n cael ei dyfu heb gemegau ers pum mlynedd. Dan ni’n gwerthu i bobl yn Ninbych, Rhuthun ac ar draws yr ardal. Dan ni’n gwybod bod rhai cwsmeriaid ddim eisiau cael bocs llysiau i’w cartrefi neu ddim yn gallu dod i’r siop yn ystod yr wythnos. Dan ni hefyd yn gwybod bod llawer o gwsmeriaid eisiau prynu cynnyrch lleol a chefnogi busnesau bach yn lle mynd i’r archfarchnad. Does dim marchnad ffermwyr rheolaidd yn Nyffryn Clwyd. Dan ni’n credu ein bod ni wedi creu cymuned o bobl a fydd yn cefnogi’r fenter yma.

Beth fydd yn cael ei werthu yn y farchnad ffermwyr?

Dan ni am gael cynhyrchwyr a ffermwyr lleol sydd hefyd yn tyfu heb gemegau, a rhai crefftwyr a gwneuthurwyr hefyd. Mae’n rhoi cyfle iddyn nhw farchnata eu hunain a dangos beth maen nhw’n gwneud. Maen nhw’n gallu gwneud hyn unwaith y mis heb deithio’n rhy bell neu dreulio drwy’r dydd yno.

Dan ni’n bwriadu cael pob math o stondinaucig, bara, cacennau, wyau, planhigion micro-wyrdd, siytni, seidr a llawer o bethau eraill. Fe fydd pob mis ychydig yn wahanol. Os oes digon o gwsmeriaid yn dod yna fe fydd y cynhyrchwyr eisiau bod yno. Felly dewch draw!

Y llysiau sydd ar werth yn y siop

Ydy’n anodd trio cael pobl i brynu bwyd lleol yn lle mynd i’r archfarchnad?

Un o’r pethau anoddaf ydy cael pobl i feddwl am le mae eu bwyd yn dod, a’r buddion o brynu bwyd tymhorol. Dan ni’n brwydro yn erbyn yr archfarchnadoedd. Maen nhw’n gallu hysbysebu a dweud wrth bobl eu bod nhw’n gallu arbed arian drwy siopa gyda nhw. Ond dydy pethau ddim bob amser yn rhatach.

Mae rhai cwsmeriaid yn dod yma gyda £5 ac yn prynu eu llysiau am yr wythnos. Maen nhw’n gwybod bod y pethau maen nhw’n bwyta wedi cael eu tyfu heb gemegau. Maen nhw’n gwybod bydd y llysiau yn para’n hirach ac yn blasu’n well felly mae’n ddewis hawdd iddyn nhw. Dydy llysiau ddim bob amser yn cael eu gweld fel rhywbeth cyffrous i’w paratoi. Ond mae llawer ohonon ni eisiau bwyta mwy o ffrwythau a llysiau ac eisiau i’n plant fwyta’n iach. Ry’n ni eisiau i bobl feddwl llai am faint mae’n costio a meddwl fel hyn:

  • Mae’r llysiau/ffrwythau yn costio rhywbeth tebyg ond yn blasu’n well;
  • yn para’n hirach;
  • heb gael eu tyfu efo cemegau;
  • yn llawn maetholion;
  • heb eu cludo ar draws cyfandiroedd.
Chris Kameen

Bydden ni’n annog unrhyw un – beth bynnag yw eu cyllideb a’u sgiliau coginio – i ddod i’n gweld ni a chael sgwrs ac fe allwn ni eich helpu chi.

Mae mwy o wybodaeth ar eu gwefan: www.thevalegrocer.co.uk

Mae gan The Vale Grocer gylchlythyr wythnosol sy’n dweud beth maen nhw’n tyfu ac yn coginio.

Gallwch chi ddilyn nhw ar @thevalegrocer ar Instagram a Facebook.

Fe fydd marchnad ffermwyr The Valer Grocer ar ddydd Sadwrn cyntaf pob mis. Bydd yn dechrau ddydd Sadwrn, 4 Tachwedd rhwng 9yb-12. Bydd y farchnad yn siop The Vale Grocer, Uned 9, Vale Park, Stad Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych LL16 5TA