Mis Hydref ydy Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron. Canser y fron ydy’r math mwyaf cyffredin o ganser ymhlith menywod yn y Deyrnas Unedig. Mae’n effeithio un o bob saith menyw yn ystod eu hoes. Mae dynion yn gallu cael diagnosis o ganser y fron hefyd ond mae hyn yn brin iawn.

Beth sy’n achosi canser y fron?

Dyn ni ddim yn deall yn llawn be sy’n achosi canser y fron ond mae rhai ffactorau yn gallu cynyddu’r risg:

  • Oedran – mae’r risg yn cynyddu wrth i chi fynd yn hŷn
  • Hanes teulu o ganser y fron
  • Os dych chi wedi cael canser y fron o’r blaen
  • Bod dros eich pwysau neu’n ordew
  • Yfed gormod o alcohol –  dylech chi ddim yfed mwy na 14 uned yr wythnos

Beth yw symptomau canser y fron?

Nid yw’r rhan fwyaf o lympiau yn ganseraidd, ond ewch i weld eich meddyg teulu os:

  • Mae un neu’r ddau fron wedi newid o ran maint neu siâp.
  • Rhedlif o unrhyw un o’ch tethi, gan gynnwys gwaed.
  • Lwmp neu chwydd yn unrhyw un o’ch ceseiliau.
  • Crych ar groen eich bronnau.
  • Brech ar neu o gwmpas eich teth.
  • Newid yng ngolwg eich teth.

Nid yw poen yn y fron fel arfer yn symptom.

Sut mae gwneud diagnosis o ganser y fron?

Bydd eich meddyg teulu yn eich anfon at arbenigwr ar gyfer rhagor o brofion fel mamogram neu biopsi.

Mae pob menyw 50-70 oed yn cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio canser y fron bob tair blynedd – gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd pan gewch eich galw.

Sut mae canser y fron yn cael ei drin?

Mae canser y fron fel arfer yn cael ei drin drwy gyfuniad o:

  • Lawdriniaeth
  • Cemotherapi
  • Radiotherapi

Sut ydych chi’n atal canser y fron?

Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl ei atal, ond gallwch leihau eich risgiau drwy:

  • Cadw at bwysau iach.
  • Ymarfer corff yn rheolaidd.
  • Peidiwch ag yfed gormod o alcohol.
  • Bwyta llai o fraster dirlawn (rhestr isod).

Os oes gennych unrhyw un o’r symptomau uchod, peidiwch ag oedi, ewch i weld eich meddyg teulu cyn gynted â phosibl.  Mae llawer o ganserau yn gallu cael eu trin os ydyn nhw’n cael eu dal yn gynnar.

Bwydydd sy’n cynnwys braster dirlawn: 

  • Menyn, ghee, siwet, lard, olew cnau coco, olew palmwydd
  • Cacennau, bisgedi
  • Bacwn, selsig
  • Cigoedd wedi’u halltu fel salami, chorizo, pancetta
  • Caws
  • Pasteiod, quiches, rholiau selsig, croissants
  • Hufen, crème fraiche, hufen sur
  • Hufen ia
  • Llaeth cnau coco a hufen cnau coco
  • Ysgytlaeth
  • Siocled

Adnoddau:

Gwefan y GIG:                    www.nhs.uk/conditions/breast-cancer/

Breast Cancer UK:            www.breastcancer.org.uk