Dach chi’n hoffi cael hwyl gyda geiriau? Dach chi’n mwynhau iaith? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog. Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.

Dyma’r dasg ar gyfer lefel Uwch. Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Mynediad.

Mwynhewch!

Uwch

Un peth dw i’n ei gasáu ydy pan mae’n rhaid ysgrifennu/ rhywbeth sy’n rhyw faint arbennig. Eich tasg y tro hwn/ ydy ysgrifennu rant mewn 100 gair union. Ddim 99 gair./ Ddim 101 gair. Mae geiriau gyda chollnod (nhw’n, mae’n, sy’n) / yn cyfri fel un gair. Felly ysgrifennwch am rywbeth dach/ chi ddim yn ei hoffi o gwbl. Gwaith? Treigladau? Tywydd?/

Croeso i chi ysgrifennu am unrhyw beth. Ond peidiwch â/ mynd dros, neu dan 100 gair. Dw i’n defnyddio blaenslaes (/) i/ helpu cyfrif. Mae rhif (fel 100) yn cyfrif fel un / gair. Beth dach chi’n eu casáu? Pob lwc gyda’r dasg!/