Dach chi’n hoffi cael hwyl gyda geiriau? Dach chi’n mwynhau iaith? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.

Mae Pegi Talfryn yn awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion. Mae hi wedi gosod tasg arall i chi wythnos yma.

Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Uwch.

Mwynhewch!

Mae bocs wedi cyrraedd eich tŷ yn edrych fel hyn.

Mae’r person sydd wedi cludo’r bocs yn rhoi esgusodion am pam mae e yn y cyflwr yma.

Beth sydd wedi digwydd?

Dych chi’n gallu ysgrifennu rhywbeth i ni? Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.

Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.