Dach chi’n hoffi cael hwyl gyda geiriau? Dach chi’n mwynhau iaith? Dyma syniadau i chi ddefnyddio Cymraeg mewn ffordd hwyliog.
Pegi Talfryn sydd wedi gosod y tasgau yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion.
Wythnos nesaf, fe fydd tasg ar gyfer lefel Uwch.
Mwynhewch!
Dach chi’n cerdded i mewn i’ch ystafell wely ac yn gweld rhywun dach chi ddim yn nabod yn mynd trwy’ch droriau chi. Be dach chi’n ddweud? Croeso i chi ysgrifennu deialog os dach chi eisiau.
Geirfa berthnasol:
eiddo
torri’r gyfraith
preifat
Dych chi’n gallu ysgrifennu rhywbeth i ni? Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi. Mi fedrwch chi rannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.
Eisiau gair sy’n odli? Ewch i Odliadur Cymru neu Odliadur Roy Stephens.