Efallai dw i’n deud hyn fel Eidales ystrydebol, ond does dim llawer iawn o bethau sy’n curo bwyd da mewn cwmni da. A dyna pam dw i, fel miloedd o bobl eraill, yn mwynhau mynd i Ŵyl Fwyd Caernarfon bob mis Mai.
Erbyn hyn, mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn adnabyddus iawn. Ac am reswm da! Mae pobol yn teithio o bell i ymuno yn y dathliadau sy’n cynnwys detholiad o fwyd a diodydd hyfryd a cherddoriaeth wych.
Wrth gwrs, mae tywydd braf yn helpu, a dros y blynyddoedd dan ni wedi bod yn ffodus iawn o weld yr haul yn disgleirio i lawr ar y stondinau, y Castell a’i waliau, a’r harbwr. Doedd eleni ddim yn eithriad chwaith!
Mae wedi dod yn draddodiad i fynd i’r Ŵyl bob blwyddyn ers i mi gyfarfod fy nghariad Harri sy’n dod o Gaernarfon. Iddo fo mae’r diolch am lawer iawn o bethau – yn enwedig ei holl gefnogaeth ar fy nhaith i ddysgu Cymraeg – ond hefyd am fy nghyflwyno i stondin Cwrw Llyn yn ystod fy Ngŵyl Fwyd gyntaf tua phum mlynedd yn ôl. Mae potel o Birre Moretti bellach yn ail agos i beint o Largo o canlyniad!
Rheswm arall pam dwi wrth fy modd efo’r Ŵyl Fwyd blynyddol yw’r esgus mae’n rhoi i ymweld ag un o fy hoff siopau yn y byd, sef siop lyfrau Palas Print. Gadewais efo copi o Salem gan Haf Llewelyn a Vulcana gan Rebecca F John – dau lyfr sydd wedi cael eu cyhoeddi yn ddiweddar. Dwi wrth fy modd efo cloriau’r ddau lyfr a dwi heb wastraffu fy amser i fynd ati i ddechrau darllen. Salem yn gyntaf a dwi bellach tua hanner ffordd. Mae’r cynnwys yn gweddu’r clawr hyfryd yn berffaith efo elfennau o hanes yn cyffwrdd â Chymru gyfoes. Mae hefyd wedi bod yn gwmni da’r wythnos hon wrth i mi fod yn Aberystwyth ar gyfer fy ngwaith.
Ac wrth gwrs, un o’r pethau mwyaf hyfryd am yr Ŵyl Fwyd hon yw’r cyfle mae’n rhoi i siaradwyr Cymraeg newydd ddefnyddio eu Cymraeg. Wrth feddwl yn ôl i fy ymweliad cyntaf â’r Ŵyl Fwyd, dwi’n teimlo’n eithaf balch ohonof i fy hun. Y tro cyntaf, pum mlynedd yn ôl, roeddwn i’n nerfus iawn i ddefnyddio fy Nghymraeg ac yn poeni am wneud camgymeriadau. Hyd yn oed ar ôl cwrw neu ddau! Ond efo amser a chefnogaeth gan eraill, mae fy hyder wedi tyfu – er fy mod i dal yn gwneud camgymeriadau – a’r nerfusrwydd wedi diflannu.
Felly, hoffwn argymell ymweld â digwyddiadau fel hyn i unrhyw un sy’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd. Mae’n gyfle perffaith i ymarfer ac adeiladu hyder ymysg cymuned o siaradwyr eraill sydd eisiau eich cefnogi. Ar ben bod yn gyfle gwych i fwynhau bwyd da mewn cwmni da!