Mae 10 Hydref yn Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Mae’r diwrnod yn cael ei gynnal bob blwyddyn. Y nod ydy codi ymwybyddiaeth a chefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl.

Y thema eleni ydy, ”Mae iechyd meddwl yn hawl ddynol gyffredinol‘.

Mae problemau iechyd meddwl yn gallu effeithio unrhyw un, unrhyw amser.

Yn y Deyrnas Unedig, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf roedd 37% o fenywod a 30% o ddynion wedi dweud bod ganddyn nhw symptomau gorbryder.  Mae un o bob chwe oedolyn yn cael profiad o iselder. Mae menywod ddwywaith yn fwy tebygol na dynion o brofi iselder.

Mae angen i bob un ohonom ni gael gwared â’r stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl.  Mae pawb yn dioddef gyda’u hiechyd meddwl ar ryw adeg yn eu bywyd, waeth beth fo’u cefndir, rhyw, hil, crefydd, oedran ac iechyd corfforol.

Profiad personol

Dw i wedi cael problemau gyda fy iechyd meddwl ers mynd trwy menopos cynnar.  Dw i wedi cael symptomau fel blinder cronig a diffyg canolbwyntio – neu ‘niwl yr ymennydd’.  Gwnaeth i mi deimlo mor isel, mor ddiwerth, a hynny er fy mod i’n dda yn fy swydd ac mae gen i gylch gwych o ffrindiau dw i’n hoffi cymdeithasu â nhw. Mae cymryd cyffuriau gwrth-iselder, cael cwnsela a rhoi cynnig ar feddwlgarwch wedi fy helpu i barhau i fyw fy mywyd i’r eithaf.

Symptomau cyffredin

Mae ‘iechyd meddwl’ yn cwmpasu llawer iawn o gyflyrau – o hwyliau isel a phryder, i iselder a phyliau o banig – a chyflyrau sy’n newid bywyd fel anhwylder deubegynol a sgitsoffrenia.  Mae gan bob cyflwr ei set ei hun o symptomau ac maen nhw’n cael eu trin yn wahanol, ond mae rhai symptomau yn gyffredin:

  • Hwyliau isel, teimlo’n ddiwerth
  • Problemau cysgu
  • Newid mewn arferion bwyta, sy’n arwain at golli pwysau neu fagu pwysau
  • Rhoi’r gorau i edrych ar ôl eich hun neu sut dych chi’n edrych
  • Ynysu eich hun oddi wrth deulu a ffrindiau, llai o gyswllt cymdeithasol
  • Methu canolbwyntio

Os oes gennych unrhyw un o’r symptomau hyn, dylech ofyn am gyngor a chymorth meddygol pellach.

Mae’n bwysig gwybod lle i fynd am help, a sut i siarad efo rhywun am eich iechyd meddwl. Mae hefyd yn bwysig gwybod sut i siarad efo, a gwrando ar rywun sy’n cael problemau iechyd meddwl.

Felly dyma rai pethau i’ch helpu chi…

 Sut dych chi’n siarad â rhywun am eich iechyd meddwl?

  • Dewiswch rywun rydych chi’n ymddiried ynddo ac yn teimlo’n gyfforddus i siarad â nhw.  Gall fod yn ffrind, aelod o’r teulu neu gydweithiwr.  Os ydy’n well gennych siarad â rhywun nad ydych yn ei adnabod, defnyddiwch linell gymorth.
  • Dewiswch rhywle sy’n ddigon cyfforddus i chi siarad yn agored.  Gallwch ddewis rhywle preifat, neu fynd am dro gyda’ch gilydd.
  • Mae angen paratoi eich hun ar gyfer ymateb y person dych chi’n siarad efo nhw.  Gobeithio y cewch yr ymateb rydych chi ei eisiau. Byddwch yn barod os na gewch chi hynny.  Dydy hyn ddim yn adlewyrchiad ohonoch chi. Efallai eu bod yn poeni amdanoch chi neu ddim yn deall yn iawn ar y dechrau.  Rhowch amser iddyn nhw brosesu beth dych chi wedi dweud wrthyn nhw.

Sut dych chi’n cefnogi rhywun arall gyda’u hiechyd meddwl?

  • Dewch o hyd i le da i siarad heb dynnu sylw, diffoddwch eich ffôn, rhowch eich sylw llawn iddyn nhw.
  • Gwrandewch, edrychwch arnyn nhw, a pheidiwch â thorri ar eu traws.  Gofynnwch gwestiynau perthnasol ond peidiwch â newid y pwnc.
  • Peidiwch â dweud wrthyn nhw beth i’w wneud, gofynnwch sut y gallwch eu helpu.

Lle gallwch chi ddod o hyd i gymorth iechyd meddwl?

  • Meddyg teulu
  • Sefydliadau fel MIND, CRUSE (ar gyfer profedigaeth), Y Samariaid, ac ati.
  • Gwefan y GIG: www.nhs.uk/mental-health/   Mae hyn yn dweud sut i gael cymorth brys, dod o hyd i therapïau siarad y GIG, cyngor ar symptomau a theimladau, cyngor ar hunangymorth, meddyginiaethau a chymaint mwy.
  • Y Sefydliad Iechyd Meddwl [Mental Health Foundation]: www.mentalhealth.org.uk.  Y Sefydliad yw’r brif elusen yn y DU ar gyfer iechyd meddwl pawb.  Mae’r wefan yn rhoi cefnogaeth i lawer o grwpiau gan gynnwys teuluoedd, pobl ifanc, pobl â chyflyrau iechyd hirdymor a ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Sut allwch chi godi ymwybyddiaeth ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd?

  • Gwisgwch y pin rhuban gwyrdd.
  • Cynnal ‘Te a Sgwrs’ gyda ffrindiau, teulu, cydweithwyr – gallwch gofrestru ar-lein gyda’r Sefydliad Iechyd Meddwl i dderbyn eich pecyn adnoddau. Dych chi’n gallu eu lawrlwytho am ddim.
  • Rhannwch ar y cyfryngau cymdeithasol.  Gallwch lawrlwytho lluniau a phosteri o wefan y Sefydliad Iechyd Meddwl ar gyfer Instagram a X (Trydar).