Weithiau mae angen bod yn y lle iawn ar yr amser iawn. A dyna’r teimlad ges i wythnos diwethaf pan, tua 10 o’r gloch y nos, chwiliais trwy’r sianeli teledu a gweld y gair ‘Curadur’.

I rai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd efo’r rhaglen Curadur, mae’n edrych ar y sin gerddoriaeth Gymraeg amrywiol – ac yn werth ei gwylio.

Fel ffan o Datblygu, roeddwn i mor hapus i weld bod y bennod yn edrych ar hanes y band drwy lygaid un o’i aelodau, Pat Morgan. Ac yn y rhaglen wnaeth ambell artist arall ymuno â Pat i sôn am Datblygu er cof am Dave R Edwards.

Dw i’n cofio’r tro cyntaf i mi glywed cân Datblygu. Dw i’n cofio lle’r oeddwn i, pa gân oedd hi, a’r argraff wnaeth aros efo fi ar ôl y gwrandawiad cyntaf. A dw i’n siŵr fy mod i ddim yr unig un sydd wedi cael y profiad hwn. Casserole Efeilliaid oedd y gân gyntaf glywais i, ac roeddwn i wedi mesmereiddio gan bopeth – y geiriau, y sŵn, y llais. Doeddwn i erioed wedi clywed rhywbeth tebyg – hyd yn oed ar ôl blynyddoedd o wrando, mae dal yn cael yr un effaith. Dyna un o’r pethau mwyaf anhygoel am y band Datblygu i mi: mae pob cân yn gallu denu’r gwrandawr i mewn ac aros efo nhw am byth.

CD Datblygu

Casserole Efeilliaid oedd y dechrau, a rŵan, ar ôl ychydig o flynyddoedd o gasglu recordiau a CDs, mae gan y band bresenoldeb mawr yn fy mywyd, a dw i’n troi at eu cerddoriaeth nhw’n aml iawn.

Roeddwn i mor hapus i weld rhai o fy hoff ganeuon yn cael sylw ar Curadur, gan gynnwys fy hoff gân gan Datblygu sef Cyn Symud i Ddim wedi’i pherfformio gan y band Hap a Damwain (fersiwn mor dda!).

Mor ddiddorol oedd clywed straeon y gwahanol gyfranwyr am sut mae’r band wedi dylanwadu ar eu cerddoriaeth nhw neu hyd yn oed eu penderfyniad i ddysgu Cymraeg. Ac wrth gwrs, dyna oedd fy hoff ran o’r rhaglen.

Fel dw i wedi sôn yn fy ngholofnau o’r blaen, dw i wir yn meddwl bod cerddoriaeth yn ychwanegu cymaint at y broses o ddysgu Cymraeg. A braf iawn oedd clywed pobol eraill – gan gynnwys yr artist Ffos Goch – yn trafod y rhesymau pam mae cerddoriaeth yn gallu helpu pobol wrth ddysgu’r iaith.

Felly, os dach chi neu rywun chi’n nabod yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd, beth am eu cyflwyno i gerddoriaeth Datblygu? Mae casgliad o gerddoriaeth y band (gan gynnwys 60 o draciau) wedi cael ei ryddhau yn ddiweddar, felly, efallai dyma’r amser i ddarganfod un o fandiau mwyaf dylanwadol a phwysig Cymru os dach chi heb yn barod. Ond byddwch yn ofalus, unwaith y byddwch chi’n dechrau gwrando, does gennych chi ddim siawns o stopio!