Yn ei cholofn y tro yma, mae’r fferyllydd Irram Irshad yn edrych ar effaith mewnanadlyddion ar yr amgylchedd a sut gallwn ni helpu’r blaned. Mae Irram wedi bod yn fferyllydd ers dros 20 mlynedd. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n gweithio mewn meddygfeydd yng Nghymoedd y de. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 10 mlynedd…

Dyn ni’n clywed llawer am newid yn yr hinsawdd a’r effaith mae hyn yn cael ar draws y byd.  Mae’n effeithio ar bob rhan o fywyd, ac mae hynny’n cynnwys sut mae’r Gwasnaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn gofalu am gleifion.  Mae Llywodraeth Cymru eisiau lleihau allyriadau carbon ar draws Cymru. Y targed ydy eu lleihau o leiaf 80% erbyn 2050. Mae gan y GIG lawer o dargedau datgarboneiddio gan Lywodraeth Cymru. Dw i’n gweithio ar un ohonyn nhw sef lleihau’r effaith mae mewnanadlyddion yn eu cael ar yr amgylchedd.

Mae mewnanadlyddion yn cyfrif am tua 3% o ôl troed carbon y GIG.

Mae mewnanadlydd yn ddyfais fach sy’n helpu pobl efo cyflyrau fel asthma, COPD a ffibrosis systig, i anadlu meddyginiaethau. Mae gwahanol fathau o fewnanadlyddion. Y prif fathau ydy:

  • mewnanadlyddion ataliol sy’n cael eu defnyddio bob dydd i atal symptomau asthma rhag digwydd;
  • mewnanadlyddion lleddfol sy’n cael eu defnyddio pan fyddwch yn brin o anadl ac angen lleddfu symptomau asthma’n gyflym

Mae mewnanadlyddion ‘puffertraddodiadol hefyd, sy’n rhoi dos mesuredig, sef MDIs (metered-dose inhalers). Dyma’r rhai sydd wedi bod fwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig ers blynyddoedd.  Ond mae gan y rhain yr ôl troed carbon waethaf. Mae hyn oherwydd beth sy’n cael ei ddefnyddio yn y canisters. Un o’r pethau sy’n cael eu defnyddio yw Hydrofluorocarbon (HFA) sy’n niweidiol iawn i’r amgylchedd.

Mewnanadlyddion ‘mwy gwyrdd

Efallai bod rhai ohonoch wedi sylwi’n barod bod eich meddygfeydd yn newid eich mewnanadlyddion.  Yn y GIG, dyn ni wedi bod yn cyflwyno mewnanadlyddion mwy gwyrdd ers rhai blynyddoedd.  Dyn ni’n newid o’r MDIs i fewnanadlyddion powdr sych (DPIs).  Mae’r rhain yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd.

Cefais ddiagnosis o asthma yn 21 oed, a dw i wedi defnyddio’r MDI ers blynyddoedd. Ond ers dechrau gweithio ar y rhaglen ddatgarboneiddio, dw i wedi newid i DPI. Wnes i ofyn i nyrs y practis yn y feddygfa am gael gwneud hyn. Dw i’n defnyddio’r mewnanadlydd ataliol unwaith y dydd i gadw fy asthma yn sefydlog. Dylech chi ddefnyddio’r mewnanadlyddion lleddfol (glas) dim ond os oes gennych symptomau annwyd neu yn yr haf pan mae’r cyfrif paill yn uchel.

Y broblem dyn ni’n gweld yw bod cleifion yn dibynnu gormod ar eu mewnanadlyddion glas. Weithiau dydyn nhw ddim yn defnyddio eu mewnanadlydd ataliol. Mae hyn yn golygu bod cyflwr eu hysgyfaint yn gwaethygu ac maen nhw’n fwy tebygol o fynd i’r ysbyty.  Os dych chi’n defnyddio’ch mewnanadlydd glas fwy na 2-3 gwaith yr wythnos, mae angen i chi gael adolygiad yn eich meddygfa.  Dim ond unwaith yn y flwyddyn ddiwethaf dw i wedi defnyddio fy mewnanadlydd glas, felly dw i’n dilyn cyngor fy hun!

Gallai mewnanadlyddion glas ddod i ben yn y dyfodol. Mae mewnanadlyddion newydd gallwch chi ddefnyddio. Yn lle defnyddio dau neu dri math o fewnanadlydd, dych chi’n defnyddio un. Byddai hynny’n sicr yn helpu i leihau’r ôl troed carbon!

Dw i’n gwybod bod llawer ohonon ni ddim yn hoffi newid ond mae angen helpu’r blaned a chenedlaethau’r dyfodol.  Mae’n rhaid i ni wneud newidiadau nawr i amddiffyn ein plant a’n hwyrion.

Felly yn eich adolygiad nesaf, gofynnwch am fewnanadlyddion newydd sy’n gallu rhoi gwell triniaethau i’ch helpu, ond hefyd helpu’r amgylched ar yr un pryd.

Gadewch i ni wneud Syr David Attenborough yn falch!