Wythnos yma, ac am y tro cyntaf ers pum mlynedd, mi fydda i’n mynd yn ôl i ddinas sydd yn agos iawn at fy nghalon i a fy nheulu. A’r ddinas arbennig hon yw Roma! Neu Rhufain fel dan ni’n dweud yn y Gymraeg.
Mae fy nheulu ar ochr fy Nhad yn dod yn wreiddiol o Ariano Irpino yn ne’r Eidal. Serch hynny, mae Rhufain – yn ogystal ag Ariano Irpino – yn ddinas arbennig iawn i ni gyd hyd heddiw. Dyma le ganwyd fy Nhad, mewn ardal o’r enw Trastevere: “calon y ddinas” neu “cuore di Roma” fel mae fy Nhad yn hoff o ddweud.
Yn ystod y trip, mi fydda i’n mynd i weld gig Bob Dylan – prif reswm y gwyliau mewn gwirionedd. Dw i’n gobeithio y bydd yn gwneud y profiad o fod yn ôl yn yr Eidal hyd yn oed yn fwy arbennig, gan mai dyma’r tro cyntaf i fi fynd i gyngerdd dramor. I fod yn onest, mae’n anodd rhoi mewn geiriau pa mor gyffrous (ac emosiynol!) dw i’n teimlo wrth feddwl am ddychwelyd i Rufain, a’r syniad o weld un o fy hoff artistiaid yn y byd yn chwarae gig yna.
Ac, wrth gwrs, ar ben yr holl bethau pwysig fel pasbort ac eli haul – a het Cymru, wrth gwrs – dwi wedi bod yn meddwl am y llyfrau sydd am gadw cwmni i fi ar fy ngwyliau.
Cymysgedd o lyfrau o’r Eidal a Chymru sydd ar fy rhestr ddarllen. Yn gyntaf, un o fy hoff lyfrau: cyfieithiad o lyfr Eidaleg o’r enw: L’ultima Estate in Città, neu Last Summer in the City gan Gianfranco Calligarich. Mi wnes i ddarllen y llyfr yma y llynedd ac, ar y pryd, dwi’n cofio meddwl pa mor hyfryd bysa ei ddarllen yn Rhufain, lle mae’r llyfr wedi cael ei osod.
Nesaf ar y rhestr, sydd hefyd yn gyfieithiad Saesneg o lyfr Eidaleg yw: L’isola di Arturo, neu Arturo’s Island, gan Elsa Morante. Dw i’n gobeithio ryw ddydd fydda i’n gallu darllen y llyfr hwn, a’r un uchod, yn yr iaith wreiddiol!
Dwi hefyd am fynd â chasgliad o farddoniaeth sy’n ddigon bach i ffitio yn fy mag ac sydd ddim am effeithio ar bwysau’r cês. Perffaith! Gwawrio gan Tegwen Bruce-Deans yw’r gyfrol ac mae wedi bod yn dod gyda fi ers lansiad y llyfr wythnos ddiwethaf ym Mangor. Ond nid maint y llyfr sydd wedi fy mherswadio, ond y cynnwys rhwng y cloriau hyfryd. Mae pob un gerdd yn werthfawr ac arbennig: dwi’n edrych ymlaen at eu darllen i deimlo’n agos at y Gymraeg tra fy mod i dramor.
Ac yn olaf, nofel o’r enw Bwrw Dail gan Elen Wyn. Dyma un o’r dewisiadau ar gyfer clwb darllen fy llyfrgell leol sydd yn cwrdd y mis yma. Croesi bysedd fy mod i’n gorffen mewn amser i fynd i’r cyfarfod nesaf.
Dwi’n gwybod – efallai bod pedwar llyfr yn ormod am drip pum diwrnod. Ond fyddai ddim yn teimlo fel gwyliau iawn heb lawer o lyfrau o nghwmpas – a llawer o basta a phitsa, wrth gwrs. Lwcus bod genna’i flynyddoedd o brofiad yn bwyta pasta a darllen ar yr un pryd!
Mae’r holl ysgrifennu a breuddwydio am ddarllen yn y ddinas wedi tynnu fy sylw o’r pacio – a’r cês yn wag! Felly well i mi ddechrau pacio. Ciao ciao am y tro!