Dych chi’n hoffi mynd i’r theatr? Dych chi’n hoffi dramâu sydd ychydig yn wahanol? Mae Imrie yn ddrama ffantasïol. Mae’n mynd a ni o dan y môr.
Mae’n dilyn stori dwy hanner-chwaer yn eu harddegau. Rebecca Wilson ac Elan Davies sy’n chwarae’r ddwy chwaer yn y ddrama.
Mae’r sioe yn addas i ddysgwyr a phobl ddi-Gymraeg.
Mae Imrie yn gyd-gynhyrchiad gan Frân Wen a Theatr y Sherman. Mae perfformiad cyntaf y ddrama yn dechrau yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd heddiw (11 Mai) cyn mynd ar daith o gwmpas Cymru.
Nia Morais, yr awdur o Gaerdydd, sydd wedi ysgrifennu’r ddrama. Yma mae Nia yn ateb cwestiynau Lingo360.
Nia, mae’r ddrama yn swnio’n wahanol iawn. Beth oedd wedi ei hysbrydoli?
Cefais i fy ysbrydoli gan freuddwyd am drio helpu fy chwaer. Roedd hi wedi cwrdd â rhywun o’r enw Imrie Sallow. Mae’r stori wedi newid ers hynny, ond mae’r enw a’r elfennau am y môr wedi aros yr un peth. Roeddwn i eisiau sgwennu stori am be sy’n digwydd i ddwy chwaer pan mae un yn darganfod pŵer hudolus ac yn trio ei guddio rhag y llall.
Sut fysech chi’n disgrifio’r ddrama?
Mae’n ddrama hudolus sy’n trafod themâu mawr fel trawma, hunaniaeth, hanes a chymuned. Mae hefyd yn cynnwys stwff doniol am y first times lletchwith sy’n dod gyda bod yn eich arddegau a cheisio ffitio mewn. Dwi’n gobeithio ei bod hi’n stori obeithiol am ffeindio’ch hun!
Mae’r ddrama ar gyfer pobl ifanc. Pa fath o bethau sy’n cael eu trafod?
Mae’r ddrama’n trafod pynciau fel hunaniaeth LHDTC+, trawma, hunanddelwedd, hiliaeth, perthnasau teuluol… a hefyd partis, frenemies, a thyfu lan.
Ym mha ffordd mae’r sioe yn addas i ddysgwyr a phobl ddi-Gymraeg – sut ydach chi wedi llwyddo i wneud hyn?
Mae’r sgript wedi ei chyfieithu i Saesneg gan Hanna Jarman, ac fe fydd capsiynau Saesneg a Chymraeg uwchben y llwyfan ar gyfer pob sioe. Dwi’n rili hapus fod hyn yn bosib achos dwi ddim eisiau i fy ngwaith i (ac unrhyw waith Cymraeg) fod yn ecsgliwsif i siaradwyr Cymraeg.
Bydd Imrie yn mynd ar daith o gwmpas Cymru ar ôl perfformiadau yn Theatr y Sherman (11-20 Mai).
Am fwy o fanylion ewch i: www.franwen.com