Mae Ffair Iaith yn cael ei chynnal yn Llanbed fis nesaf. Dyma’r ffair iaith gyntaf o’i math.
Mae’r Ffair Iaith ar gyfer pobl sy’n dysgu Cymraeg. Mi fydd yn cael ei chynnal dros benwythnos 7-9 Gorffennaf. Bydd 20 o stondinau yno.
Nia Llywelyn ydy un o drefnwyr y Ffair Iaith. Yma mae hi’n ateb cwestiynau Lingo360.
Nia, pam dych chi wedi trefnu’r Ffair Iaith?
“Pwrpas y diwrnod yw cyflwyno’r Gymraeg i gymaint o bobl sy’n dysgu’r iaith â phosib. Rydan ni hefyd yn rhoi gwybodaeth i siaradwyr Cymraeg. Dyma pam ry’n ni’n estyn gwahoddiad i siaradwyr Cymraeg a siaradwyr newydd am eu bod yn gwneud cyfraniad mawr i hyrwyddo’r iaith yn yr ardal. Ry’n ni eisiau cydnabod a dathlu hyn.
Beth fydd pobl yn gallu gwneud yn y Ffair Iaith?
Y syniad ydy cyfeirio pobl at bethau o ddiddordeb iddyn nhw o fewn y byd Cymraeg. Bydd y prif ddigwyddiadau yn y Brifysgol a bydd digwyddiadau gwahanol o gwmpas y dref gan dynnu pobl mewn i’r siopau a lleoliadau amrywiol fel Llyfrgell y Dref.
Ry’n ni’n cydweithio’n agos iawn gyda Phrifysgol Y Drindod Dewi Sant, Cyngor Tref Llanbed, Lingo Newydd a Cered er mwyn cael diwrnod llwyddiannus.
Dych chi hefyd yn dathlu rhywbeth arall…
Ydyn. Un o’r prif resymau dros drefnu’r diwrnod yw dathlu blwyddyn ers agor adeilad Garth Newydd. Mae’n llety Codi Hyder yn y Gymraeg ynghanol Llanbed. Mae cefnogaeth yr ardal wedi bod yn bwysig iawn i lwyddiant y prosiect. R’yn ni hefyd yn trio ymestyn allan i fwy o bobl a dysgwyr Ceredigion a thu hwnt.
‘Fersiwn fach o’r Eisteddfod’
Marcus Whitfield ydy perchennog Garth Newydd. Dyma beth mae e’n dweud: “Roedd fy mhrofiad cyntaf o fynd i Eisteddfod yn Llanrwst yn 2019. Roedd e’n brofiad diddorol ond doedd gen i ddim llawer o syniad beth i ddisgwyl a lle i droi fel dysgwr – roedd gymaint yn digwydd yno. Bydd y diwrnod yma fel dod â fersiwn fach o’r Eisteddfod i Lanbed am un penwythnos. Bydd yn gyfle i ysbrydoli eraill i ddod yn siaradwyr Cymraeg a chymryd rhan mewn digwyddiadau Cymraeg yn eu hardaloedd.”
Dyma fydd trefn y penwythnos:
- Nos Wener: Y Cwis Mawr – O gwmpas canol Ceredigion, Tafarn yn Y Vale. 7yh. Am ddim. Bydd cyfle i’r tîm buddugol fynd i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni (tocyn mynediad am ddim!).
- Bore Dydd Sadwrn: Helfa Drysor yn dechrau am 10:30yb tu allan i Garth Newydd.
- Prynhawn Dydd Sadwrn: 2-5 o’r gloch, stondinau a llawer o hwyl y ‘Ffair Iaith’ yng Nghampws y Brifysgol ac yn y dre. Llwyfan perfformio fydd yn cynnwys y grŵp Pwdin Reis am 3:30pm.
- Nos Sadwrn: Twmpath Dawns a’r grŵp Bwca yn Neuadd Fictoria, Llanbed. Noson i ddechrau am 7:30yh. £5, £2 plant.
- Dydd Sul: Prynhawn hwyl yn y Clwb Bowlio – dewch a’ch tîm! £5 y person yn cynnwys te a choffi. 2yp.
Beth am gymryd rhan yng Nghystadleuaeth y Ffair Iaith i Lingo360?
Mi fedrwch chi gael mwy o fanylion am y Ffair Iaith gan Nia ar codihyder@gmail.com neu dudalen Facebook Ffair Iaith (Llanbed)
Dyma’r stondinau sy’n cymryd rhan…
Clwb Cardiau Post/Gwenllian Beynon
Clwb Mynydda Cymru
Cymdeithas Edward Llwyd/Y wennol
Lingo Newydd
Siop y Smotyn Du/Cyngor Llyfrau
Cymdeithas Enwau Lleoedd
Cered
Clonc
Comisiynydd Iaith
Urdd
Ffermwyr Ifanc
Côr Pam Lai/Cwmann/Bytholwyrdd
Clwb Darllen
Dysgu Cymraeg
Llyfrgell
Merched y Wawr
Bwyd Bendigedig/Garddio
Peniarth
Cornel Plant