Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn 40 oed eleni. Mae dysgwyr Cymraeg o bob rhan o Gymru a thu hwnt yn cael eu hannog i gystadlu yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 1 Mai. Bob wythnos hyd at 1 Mai, fe fydd Lingo360 yn cyhoeddi cyfweliad gydag un o gyn-enillwyr Dysgwr y Flwyddyn. Y tro yma Jo Knell sy’n ateb cwestiynau Lingo360.

Enillodd Jo wobr Dysgwr y Flwyddyn yn 1991. Mae hi’n rhedeg siop lyfrau Cant a Mil yng Nghaerdydd nawr.

Dyma ei stori hi yn dysgu’r iaith.

O ble dych chi’n dod? 

Ces i fy ngeni ym Mryste ond symudon ni i Penzance yng Nghernyw pan o’n i’n 12 oed.

Pryd wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg? 

Dechreuais i ddysgu Cymraeg pan o’n i yn fy ugeiniau ac yn byw yng Nghaerdydd.

Pryd wnaethoch chi ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn? 

Gwnes i ennill y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug yn 1991.

Beth ydych chi’n ei gofio am y diwrnod?  

Dw i’n cofio mwynhau noson gyda ffrindiau cefnogol iawn. Doedd hi wir ddim yn teimlo fel cystadleuaeth o gwbl.

Beth oedd eich hanes yn siarad Cymraeg ar ôl hynny?  

Es i’n ôl i’r coleg i astudio’r Gymraeg a hyfforddi fel athrawes. Bues i’n dysgu’r Gymraeg mewn ysgolion uwchradd, gweithio fel ymgynghorydd ac ysgrifennu llyfrau i blant sy’n dysgu’r Gymraeg.  Dw i erbyn hyn yn rhedeg siop lyfrau Gymraeg, Siop Cant a Mil yn Mynydd Bychan, Caerdydd.

Beth yw eich cyngor i bobl sy wrthi’n dysgu Cymraeg? 

Y peth pwysicaf yw siarad Cymraeg ar bob cyfle ac i ddefnyddio faint bynnag o’r iaith sy gyda chi.

Beth, yn eich barn chi, yw’r peth pwysicaf wrth wobrwyo Dysgwr y Flwyddyn? 

Dw i’n credu taw’r cyfraniad mae rhywun yn ei wneud yn ei gymuned yw elfen bwysica’r gystadleuaeth.