Gwenwch, mae’n ddydd Gwener! Ac wythnos yma, dw i’n ffodus o ddweud fy mod i efo rheswm mawr i wenu.  Dw i wedi dechrau swydd newydd ac wedi cael fy nghroesawu gan gydweithwyr hyfryd. Felly, dw i’n teimlo’n ffodus iawn yn barod.

Wythnos yma, dan ni fel cenedl wedi dathlu Dydd Gŵyl Dewi, a dan ni fel dysgwyr a siaradwyr newydd i’r iaith Gymraeg hefyd wedi dathlu Gŵyl Ddarllen Amdani, sy’n digwydd yn yr un wythnos a Diwrnod y Llyfr. Dw i ddim fel arfer yn berson ofergoelus, ond hoffwn feddwl bod o’n arwydd da i ddechrau swydd efo Cyngor Llyfrau Cymru yn yr un wythnos a’r digwyddiadau yma i gyd.

Ers dechrau dysgu Cymraeg, mae llyfrau Cymraeg wedi bod yn ganolog i fy nealltwriaeth a mwynhad o’r broses dysgu. Fel dw i wedi son sawl gwaith o’r blaen yn fy ngholofnau (ymddiheuriadau ymlaen llaw am ailadrodd eto yma!), mi fyswn i ar goll heb ddarllen a llyfrau. Dw i hapusaf pan mae genna’i lyfr yn fy llaw. Felly, mae’r swydd newydd yn cynrychioli pennod newydd yn fy ngyrfa ac ar fy nhaith i’r iaith Gymraeg.

Yn y swydd hon, dw i’n defnyddio Cymraeg bob dydd – siarad, gwrando ac ysgrifennu – a dw i wrth fy modd. Ond cyn dechrau, roeddwn i’n poeni am wneud ffŵl o fy hun. “Beth os ydy rhywun yn dweud rhywbeth a dw i ddim yn dallt? Be os dw i’n defnyddio’r gair anghywir ac mae pawb yn chwerthin?” Dw i ddim wedi cael y teimladau yma ers dechrau dysgu Cymraeg blynyddoedd yn ôl.

Wel, ar ôl yr wythnos gyntaf, dw i’n falch o ddweud bod neb wedi chwerthin arna’i, a doedd dim rhaid i fi boeni. Yn lle poeni byswn i ddim yn dallt bob gair, dw i wedi dysgu sut mae’n well i weld hynny fel cyfle i ofyn cwestiynau a dysgu geiriau newydd.

Felly, er bod o’n anodd, dw i’n trio osgoi bod yn rhy galed arna’i fy hun wrth ddechrau yn y rôl newydd.  Wrth gwrs, efo unrhyw swydd newydd, mae’n cymryd amser i ymgyfarwyddo efo gweithle a gwaith newydd.  A dw i’n lwcus oherwydd fy mod i wedi cael croeso cynnes iawn gan bawb.

Ac os dw i’n teimlo’r hunan-amheuaeth yn dod drosta’i, dw i’n trio atgoffa fy hun o’r pethau pwysig: mae’n iawn i wneud camgymeriadau neu ofyn cwestiynau. Ac yn bwysicach oll: dw i’n trio gwella fy Nghymraeg bob dydd.

Mi fyswn i’n licio mynd yn ôl mewn amser a dweud wrth fy hun – yn enwedig pan o’n i’n dechrau dysgu Cymraeg – y bysa’n bosib ffeindio swydd lle dwi’n gallu defnyddio fy iaith yn y dyfodol. A gwell fyth, mae’n swydd sydd yn cyfuno cariad tuag at ddarllen a llyfrau â chariad at y Gymraeg, hefyd. Felly, dw i isio cymryd y cyfle yma i annog unrhyw un sydd yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd i wneud yr un peth!