Does dim llawer o bobl yn licio mis Ionawr. Wel, yn fy mhrofiad i beth bynnag. Mi ges i fy ngeni ym mis Ionawr ac yn dallt yn iawn pam bod pobol yn dweud ei bod hi’n amser gwael i ddathlu pen-blwydd. Yn y gorffennol, mi fyswn i wedi cytuno, ond mae mis Ionawr 2023 wedi newid fy meddwl. Tipyn bach o leiaf.

Y prif reswm ydy oherwydd fy Mam, sydd hefyd yn dathlu ei phen-blwydd ym mis Ionawr. Roedd hi’n ben-blwydd arbennig iddi hi eleni (mae pob un yn arbennig wrth gwrs, ond dw i’n siŵr eich bod chi’n gwybod be’ dw i’n meddwl!). Fyddai hi ddim yn hapus efo fi os dw i’n dweud ei hoed, felly wna’i jyst dweud bod hi’n dechrau degawd newydd!

I ddathlu, wnaeth fy Nhad, fy chwaer fawr, Cristina, a fi drefnu gwyliau bach fel syrpreis iddi hi mewn bwthyn yn y Rhiw, pentref y tu allan i Aberdaron. Ar y ffordd yna, wnes i stopio yng Nghaernarfon er mwyn mynd i un o fy hoff siopau llyfrau – Palas Print.

Mi ges i docyn rhodd fel anrheg Nadolig ac roeddwn i mor gyffrous i fynd yna i bori trwy’r silffoedd. Yn y diwedd – ar ôl o leiaf awr o bori – prynais gopi o Te yn y Grug a Traed Mewn Cyffion gan Kate Roberts.

Fel rhywun sydd wedi dysgu’r Gymraeg fel oedolyn, dw i weithiau yn teimlo fel fy mod i’n trio dal i fyny efo pethau diwylliannol – mynd i’r Eisteddfod, er enghraifft – a darllen y clasuron yw un o’r pethau eraill sydd ar fy rhestr ‘dal i fyny’. Astudiais yr addasiad Saesneg o Traed Mewn Cyffion yn y brifysgol ond dw i heb lwyddo i ddarllen yr un gwreiddiol eto. Felly, prynais gopi a dw i’n edrych ymlaen at ei darllen rhywbryd eleni.

Ar ôl mynd i’r siop lyfrau, roedd rhaid i mi bicio i Bonta Deli – caffi hyfryd sy’n gwneud a gwerthu bwyd a chynnyrch Eidalaidd a Chymraeg. Eto, un o fy hoff siopau, a’r lle perffaith i ddechrau darllen fy llyfrau newydd.

Llun o’r bardd R S Thomas

R S Thomas

Pan wnaethon ni gyrraedd y bwthyn, y peth wnes i sylweddoli’n syth oedd llun ar y wal o’r bardd adnabyddus o’r ardal: R.S Thomas. Roedd yna bortread ohono fo ar ddarn o lechen. Roedd hynny’n arwyddda iawn i mi – dw i wedi bod yn ffan o’i waith ers y brifysgol lle wnes i astudio ei farddoniaeth.

Fy nhrip cyntaf i Aberdaron oedd oherwydd R.S Thomas: er mwyn mynd i weld darlith a chael y cyfle i weld lle oedd o’n byw. Felly, pan oeddwn i’n pacio, wnes i wneud yn siŵr bod lle yn fy nghês ar gyfer un neu ddau gasgliad o’i farddoniaeth yn y gobaith o ail-ddarganfod ei gerddi.

Yn ystod y trip – a rhwng y coginio, coctels a cherdded – roeddwn i wrth fy modd yn eistedd efo fy llyfr barddoniaeth, yn edrych i fyny at y llun ar y wal o’r bardd ei hun, ac allan o’r ffenest i weld golygfeydd hyfryd Pen Llŷn: un o’r llefydd mwyaf prydferth yn y byd!

Dydy mis Ionawr ddim mor ddrwg, felly. Ar y cyfan, roedd hi’n wyliau hyfryd, ac un cofiadwy iawn i fi a fy nheulu. Rydyn ni rŵan yn edrych ymlaen at fynd i’r Eidal eleni. Felly, os dan ni’n gallu ymweld â llefydd hyfryd fel Aberdaron yma yng Nghymru, a mynd yn ôl i’r Eidal eleni, mi fydd hi’n siŵr o fod yn flwyddyn dda iawn.  Fedra’i ddim gofyn am fwy!