Dach chi’n hoffi bwyta eirin? Oeddech chi’n gwybod bod yna eirin sy’n dod o Gymru? Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd ydy’r unig fath o eirin sy’n dod o Gymru.

Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd

Maen nhw wedi cael eu tyfu yno ers blynyddoedd. Maen nhw’n hŷn nac eirin Fictoria. Mae’n debyg bod eirin Dinbych wedi cael eu tyfu gan fynachod yn y 13eg ganrif. Mae’r cofnod cyntaf o’r eirin yn 1785.

Roedd yr eirin yn cael eu tyfu ar draws Dyffryn Clwyd.

Yn 2019 roedd Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd wedi cael statws bwyd gwarchodedig (PDO) gan y Comisiwn Ewropeaidd. Roedd Grŵp Eirin Dinbych wedi gwneud cais am hyn er mwyn codi ymwybyddiaeth am y ffrwyth. Mae’n golygu bod gan Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd yr un statws â chregyn gleision Conwy, cig oen a chig eidion Cymreig, a Halen Môn.

Cafodd Grŵp Eirin Dinbych ei sefydlu yn 2009 gan bobl fusnes lleol. Y grŵp yma sy’n casglu’r eirin.

Mae’r grŵp yn cynnal Gwledd Eirin Dinbych yn y dref bob blwyddyn. Mae miloedd o bobl yn dod i’r wledd. Dyma fydd y bedwaredd wledd ar ddeg i gael ei chynnal.

Mae’r wledd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn yma (Hydref 7) rhwng 10 a 4pm.

Bydd y cogydd Chris ‘Flamebaster’ Roberts yn coginio porc yn y wledd

Nia Williams ydy ysgrifennydd Grŵp Eirin Dinbych. Mae hi wedi bod yn ateb cwestiynau Lingo360.

Nia, beth sy’n gwneud Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd mor arbennig?

Wel, maen nhw’n felys, maen nhw’n dda ar gyfer eu bwyta’n ffres neu eu coginio, ac maen nhw’n fwy meddal nag eirin Fictoria –  mae’r croen yn fwy tyner felly’n haws i’w bwyta nhw. Maen nhw’n grwn iawn. Maen nhw’n cael eu tyfu yn bennaf yn Nyffryn Clwyd, a dim ond rhai sydd wedi cael eu tyfu yn Nyffryn Clwyd a phlwyfi eraill sy’n cael defnyddio’r statws arbennig. Nid y goeden sydd wedi cael ei diogelu ond y ffrwyth. Gan eu bod nhw wedi cael eu diogelu does neb tu allan i’r ardal yn gallu galw nhw’n Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd. Mae pobl yn licio pethau sy’n wahanol.

Roedd yr eirin wedi cael statws bwyd gwarchodedig gan y Comisiwn Ewropeaidd yn 2019. Pa wahaniaeth mae hyn wedi gwneud?

Mae’n ffordd o ddiogelu hen gynnyrch sydd mewn perygl o ddiflannu a’r systemau o’u cynhaeafu nhw. Mae llawer mwy o alw am yr eirin erbyn hyn a llawer mwy o ddiddordeb, nid jest yn lleol ond o wledydd eraill ar draws y byd.

Pam dach chi’n cynnal gwledd bob blwyddyn?

Mae’n helpu i hyrwyddo’r defnydd o’r eirin ac i gael mwy o gynhyrchwyr bwyd bach, cwmnïau bwyd artisan i ddefnyddio’r eirin yn eu cynnyrch nhw. Hefyd mae’n rhoi Dinbych ar y map ac yn dod a phobl i Ddinbych. Dyma’r dref sydd a’r ail nifer fwyaf o dai cofrestredig yng Nghymru.

Mae cymaint o hanes yn perthyn i Ddinbych – mae’r castell, a dach chi’n gallu cerdded ar hyd waliau’r dref. Roedd 72 o dafarndai yn Ninbych ar un adeg, ac roedd y dref yn arfer bod yn enwog am wneud menig.

Jin Merywen sy’n defnyddio Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd yn eu jin

Sut fath o bethau fydd i’w gweld yn y wledd ddydd Sadwrn?

Mi fydd y cogydd Chris ‘Flamebaster’ Roberts yn ymuno a ni. Dyma’r ail waith i Chris ddod aton ni. Mae o am wneud cig porc o Ddyffryn Clwyd. Mae Rob Dowell Brown o fwyty Nant y Felin yn Llanrhaeadr yn arbenigwr ar fforio. Mae o am fod yn cydweithio efo Chris yn y wledd.

Mae Gwledd Eirin Dinbych yn cael ei chynnal yn Neuadd y Dref, Dinbych ddydd Sadwrn yma (Hydref 7) rhwng 10 a 4pm. Mynediad am ddim a pharcio am ddim yn y dref.