Yn ei cholofn y tro yma, mae’r fferyllydd Irram Irshad yn rhoi cyngor am sut i gadw’n iach yn ystod y Gaeaf. Mae Irram wedi bod yn fferyllydd ers dros 20 mlynedd. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n gweithio mewn meddygfeydd yng Nghymoedd y de. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 10 mlynedd. Mae ei cholofnau yn edrych ar bethau fel diet, ymarfer corff, afiechydon tymhorol fel ffliw, ac iechyd meddwl

Mae tymor y Gaeaf yn agosáu a dyma’r adeg o’r flwyddyn pan mae annwyd a ffliw yn rhemp.

Y Gaeaf hefyd ydy amser prysuraf y flwyddyn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Felly beth allwn ni wneud i sicrhau nad ydyn ni’n ychwanegu at y straen ar y GIG? Bydd fy ngholofn y tro yma yn rhoi cyngor ar sut i gadw’n iach y gaeaf hwn a beth i’w wneud os cewch chi annwyd neu ffliw.

Mae’r rhan fwyaf o achosion o annwyd a ffliw yn cael eu hachosi gan firysau. Dydy gwrthfiotigau ddim yn gallu helpu. Mae gwrthfiotigau’n gweithio yn erbyn bacteria nid firysau.  Ond mae llawer o bobl yn dal i wneud apwyntiadau meddyg teulu ar gyfer peswch ac annwyd.  Bydd y symptomau’n mynd ar eu pen eu hunain felly mae’n well eu rheoli gartref.

Beth yw’r symptomau?

Mae symptomau annwyd yn digwydd yn raddol ac yn cynnwys:

  • Trwyn yn rhedeg neu wedi blocio
  • Dolur gwddf
  • Cur pen
  • Poen yn y cyhyrau
  • Peswch
  • Tisian
  • Gwres uwch
  • Pwysau yn eich clustiau a’ch wyneb
  • Colli blas ac arogl

Sut mae symptomau’r ffliw yn wahanol?

Mae’r ffliw yn digwydd yn gyflymach, fel arfer o fewn ychydig oriau, nid dyddiau. Er eich bod yn cael y peswch, dolur gwddf a’r symptomau trwynol, mae’r ffliw fel arfer yn gwneud i chi deimlo’n flinedig ac yn rhy sâl i wneud pethau arferol. Byddwch chi eisiau mynd i’ch gwely!

Triniaeth

Does dim triniaethau penodol ar gael gan y GIG. Mae’r rhan fwyaf o’r pethau sydd ar gael ar gyfer annwyd a ffliw yn aneffeithiol.

Yn gyffredinol, dyma’r pethau gorau i wneud os oes gennych annwyd neu ffliw:

  • Gorffwys a chysgu
  • Yfwch digon o ddŵr, a sudd ffrwythau. Mae’n well osgoi diodydd fel coffi.
  • Garglo efo dŵr halen i leddfu dolur gwddf (dydy hyn ddim yn addas i blant).
  • Gall paracetamol neu ibuprofen helpu i leddfu poenau a dod a gwres uchel yn is. Gwiriwch gyda’r fferyllydd os yw’r rhain yn ddiogel i’w cymryd gydag unrhyw feddyginiaethau eraill dych chi’n cymryd.
  • Gall tabledi decongestant helpu gyda thrwyn wedi blocio. Dylech osgoi’r tabledi os ydych chi’n cymryd meddyginiaeth pwysedd gwaed neu levothyroxine ar gyfer thyroid tanweithredol.
  • Os dych chi’n cymryd meddyginiaethau ar gyfer peswch ac annwyd gwnewch yn siŵr nad ydyn nhw’n cynnwys paracetamol neu ibuprofen fel na fyddwch chi’n dyblu’r dos.

Atal annwyd a ffliw

Does llawer o dystiolaeth bod cymryd pethau fel fitamin C, sinc, garlleg neu echinacea yn atal annwyd neu ffliw neu’n eich helpu i wella.  Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn arfer hylendid da er mwyn osgoi lledaenu germau os oes gennych symptomau:

  • Golchwch eich dwylo’n aml gyda dŵr cynnes a sebon.
  • Defnyddiwch hancesi papur wrth disian neu besychu a’u rhoi yn y bin cyn gynted â phosibl.
  • Peidiwch â rhannu tywelion neu bethau fel cwpanau a chyllyll a ffyrc.
  • Arhoswch gartref ac osgoi cyswllt â phobl eraill os oes gennych wres uchel.
  • Gwnewch yn siwr eich bod yn cael y brechlyn ffliw blynyddol.

Y tro nesa, mi fydda’i yn edrych ar y brechlyn ffliw.

Yn y cyfamser gwnewch yn siwr bod gennych chi ddigon o hancesi poced, golchwch eich dwylo yn dda, a chadwch yn ddiogel y gaeaf hwn.