Mae cyfarfod rhywun dach chi’n edmygu yn gallu mynd dwy ffordd – o mhrofiad i beth bynnag! Un ai dach chi’n cael eich siomi – mae yna ddywediad enwog, “peidiwch â chwrdd â’ch arwyr” – neu maen nhw’n debyg iawn i’r ddelwedd sydd gynnoch chi ohonyn nhw. Mae’n gallu bod yn brofiad brawychus i gwrdd â rhywun dach chi’n edmygu, yn ogystal â chyffrous. Weithiau maen nhw’n eich synnu mewn ffordd annisgwyl.

Wel, wythnos yma, ges i’r cyfle i gyfarfod awdures arbennig a rhywun dw i’n edmygu’n fawr iawn – ac roedd hi’n hyfryd! Roedd hi’n hapus i siarad efo fi a phawb oedd yn y digwyddiad, a llofnodi copïau o’i llyfr diweddaraf i oedolion. Caryl Lewis yw’r awdures, ac roedd hi’n siarad am ei llyfr Drift yn Llyfrgell yr Wyddgrug yn Sir y Fflint yr wythnos yma.

Cafodd y nofel Drift ei chyhoeddi’r llynedd fel clawr caled, ac mae rŵan ar gael fel llyfr clawr meddal hefyd. Mae’n llyfr sydd yn sefyll allan, efo lliwiau glas yn llifo tu ôl ac o gwmpas y geiriau. Mae hynny’n gwneud i’r llythrennau ar y clawr edrych fel eu bod nhw’n llifo trwy’r môr. Mae gan y môr bresenoldeb cryf iawn yn y llyfr, o’r dudalen gyntaf, ac mae bron yn teimlo fel cymeriad ychwanegol yn y stori.

Neges Caryl Lewis yn llyfr Francesca

Mae cynulleidfa arferol Caryl Lewis yn siaradwyr Cymraeg, gan mai llyfrau yn yr iaith Gymraeg mae hi wedi ysgrifennu o’r blaen. Ac oherwydd hyn, mae’r gynulleidfa yn tueddu i fod yn gyfarwydd gyda’r themâu a’r pynciau yn ei llyfrau: fel arfer, pethau sy’n ymwneud a pherthyn a diwylliant. Mae llawer o’i darllenwyr yn gallu uniaethu a’i llyfrau, maen siŵr.

Dyma ei llyfr cyntaf i oedolion yn yr iaith Saesneg, ac roedd hynny’n cael dipyn o sylw ar y noson wrth i Caryl sôn am sut brofiad oedd y broses ysgrifennu. Un o’r pethau mwyaf diddorol oedd y syniad o gyrraedd cynulleidfa ehangach er mwyn annog darllenwyr i gael dealltwriaeth ddyfnach o ddiwylliant a’i bwysigrwydd.

Mae yna ambell thema gref sy’n berthnasol i Gymru yn Drift. Felly, trwy gyrraedd cynulleidfa newydd sydd efallai ddim yn siarad Cymraeg, mae’r llyfr yn agor y drws i sgyrsiau pwysig a hanfodol am Gymru a’n diwylliant – yn y wlad hon a thu hwnt.

Roedd y sgwrs yn ddiddorol dros ben ac yn codi sawl cwestiwn am hunaniaeth a’r syniad o berthyn. Rhywbeth sydd wastad wedi bod o ddiddordeb i fi oherwydd fy nghefndirfy hun. Roeddwn i mor falch o fod yn rhan o’r gynulleidfa ac o gael y cyfle i gwrdd â Caryl. A dw i heb roi’r llyfr i lawr ers dechrau darllen yn syth ar ôl y sgwrs!