Dach chi wedi cael eich ysbrydoli i ysgrifennu’n greadigol yn ystod Gŵyl Ddarllen Amdani 2023? Dach chi wedi ysgrifennu cerdd? Neu stori fer? Mae Pippa Sillitoe yn dysgu Cymraeg efo Dysgu Cymraeg Powys Ceredigion Sir Gar. Mae hi’n mwynhau ysgrifennu cerddi.

Dyma un o’i cherddi i ddathlu Gŵyl Ddarllen Amdani eleni.

Gwallgofrwydd yr Haf 2022

Darllenais i lyfr am ddyn a’i ddefaid – dyn ni’n mynd i ddilyn ei gyngor.

Roedd y tywydd mor boeth felly pam lai?

 

Dechreuwch rywbeth newydd – gwyllt a hwyl – gwnewch hyn cyn eich bod yn rhy hen.

Roedd y tywydd mor boeth felly pam lai?

 

Roeddem yn meddwl y bydd yn syniad neis cysgu allan gyda’r defaid.

Roedd y tywydd mor boeth felly pam lai?

 

Dan orchudd dywyllwch gyda chit minimol, gwisgo mewn pyjamas, wrth gwrs.

Roedd y tywydd mor boeth felly pam lai?

 

Trotian tu ôl i ni – be sy’n digwydd? Mae defaid yn aml yn chwilfrydig.

Roedd y tywydd mor boeth felly pam lai?

 

Wedi dewis lle hyfryd i orffwys dyma ni’n llithro i’n dillad gwely.

Roedd y tywydd mor boeth felly pam lai?

 

Roedd sawl trwyn â diddordeb yn arogli’r aer er na ddaeth yr un yn agos.

Roedd y tywydd mor boeth felly pam lai?

 

Yna wrth i ni setlo i lawr aeth ein ffrindiau gwlanog yn ôl i’r sgubor.

Roedd y tywydd mor boeth felly pam lai?

 

Mae eu llygaid yn tywynnu yng ngolau’r dortsh; saif y defaid gryn bellter i ffwrdd.

Roedd y tywydd mor boeth felly pam lai?

 

Aeth y noson hardd heibio, tylluanod yn hŵtio, glaswellt yn siffrwd gerllaw.

Roedd y tywydd mor boeth felly pam lai?

 

Wedi codi am bump i weld y gwylwyr nos cnufiog i gyd mewn llinell wrth y ffens.

Roedd y tywydd mor boeth felly pam lai?

 

Oedd y gwersyll yn hwyl? Oedd y profiad yn bleser ac a wnawn ni byth eto…..?

Pan fydd y tywydd mor boeth felly pam lai?

 

Felly pobl – dylech chi wneud rhywbeth gwallgof cyn ei bod hi’n rhy hwyr.

Os yw’r tywydd mor boeth (ac y bydd eich hen esgyrn yn plygu) – O uffern ia!