Dach chi’n hoffi gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg? Dach chi’n gwrando ar gerddoriaeth i helpu chi i ddysgu Cymraeg? Mae Pawlie Bryant yn byw yn Santa Barbara, Califfornia. Mae e’n cyfansoddi caneuon – mae e wedi rhyddhau pedwar albwm hyd yn hyn. Mae e’n dysgu Cymraeg. Mae Pawlie yn hoffi cerddoriaeth Gymraeg. Mae’n dweud ei fod yn ei helpu i ddysgu’r iaith. Yma mae Pawlie yn ateb cwestiynau Lingo360…

Pawlie, dach chi’n byw yng Nghaliffornia. Beth ydy’ch cysylltiad chi efo Cymru?

Ces i fy ngeni yn Efrog Newydd, ond cafodd fy rhieni eu geni yn Lloegr. Felly mae gen i ddinasyddiaeth ddeuol – a dw i’n hapus iawn am hynny! Ces i fy magu yn Lloegr fel plentyn ifanc, wedyn yn America. Des i i Santa Barbara, Califfornia yn 1984 i fynd i’r brifysgol. Ar ôl gorffen fy ngradd ro’n i’n disgwyl aros yn Santa Barbara am tua phum mlynedd, ond dyma fi ar ôl pedwar degawd!

Mae gyda fi lawer o deulu yn Ne Lloegr, a ffrindiau yng Nghymru a’r Alban. Aeth fy nhad i’r brifysgol ym Mryste, ac roedd e yn yr Awyrlu Brenhinol (RAF) yng ngorllewin Lloegr. Aeth Dad i Gymru yn aml, ac mae gyda fe atgofion hyfryd o’r wlad. Dw i wedi mynd yn ôl i Loegr i ymweld â theulu dros y blynyddoedd, felly mae fy nghysylltiad i gyda’r Deyrnas Unedig yn gryf. Er fy mod wedi byw yn America fel oedolyn, dw i’n teimlo’n “Brydeinig” yn fy nghalon.

Pam wnaethoch chi benderfynu dysgu Cymraeg?

Mae’n stori ddoniol! Roedd fy ngwraig, Libby, a fi’n cael cinio gyda’n ffrind Joan (sy’n dod o Gymru). Gofynnodd Joan am hanes fy nheulu, ac wedyn dwedodd hi: “Rwyt ti’n ddinesydd Prydeinig!” Doeddwn i ddim yn siŵr, felly edrychais i ar wefan UK.gov. Roedd Joan yn iawn. Wnes i gais am basbort Prydeinig, a phan gyrhaeddodd e – ar y dudalen gynta’ – dwedodd e “British Passport,” ac o dan hynna, “Pasbort Prydeinig.” Felly ro’n i’n meddwl, “os oes gyda fi basbort Prydeinig, dylwn i ddysgu Cymraeg!”

 Ers pryd dach chi wedi bod yn dysgu Cymraeg?

Ar ôl i fi dderbyn fy mhasbort yr haf diwetha’, wnes i ddarganfod y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Wnes i gofrestru ar eu Cwrs Mynediad (gwersi gyda’r nos ar Zoom). Ces i’r llyfrau Mynediad, Sylfaen, a Chanolradd, a dechreuais i eu hastudio i gyd! Dw i’n dwlu ar fy nosbarth Cymraeg. Mae’r myfyrwyr yn hwyl, ac mae fy nhiwtor, Dafydd, yn anhygoel. Dw i hefyd yn darllen llyfrau Cymraeg, yn darllen Lingo360/Lingo Newydd (wrth gwrs!), yn gwrando ar Radio Cymru, ac yn gwylio S4C ar-lein. Dechreuais i Duolingo yr haf diwetha’, a gorffen dros y Nadolig. Profiad ardderchog yw dringo Mynydd Cymraeg!

Rydach chi’n gyfansoddwr – sut fath o ganeuon dach chi’n ysgrifennu?

Ers y 90au, dw i’n ysgrifennu a recordio caneuon gwerin-roc gwreiddiol yn y genre acwstig-trydan. Fy mhrif ddylanwadau cerddorol yw Todd Rundgren, Joni Mitchell, Aimee Mann, Neil Finn, ac eraill – gormod i restru. Dw i wedi rhyddhau pedwar albwm hyd yn hyn. Yr un mwya’ diweddar ydy An Ape’s Progress yn 2021. Dw i weithiau’n perfformio mewn clybiau lleol, ond dim cymaint ers y pandemig. Mae gyda fi wefan – pawliemusic.com – gyda fideos miwsig, geiriau caneuon, blog, lluniau, ac ati.

Ydach chi’n gwneud gwaith arall yng Nghaliffornia?

Dw i’n gweithio fel peiriannydd ac athro peirianneg – “geek” dw i!

Pawlie Bryant

Sut mae cerddoriaeth Gymraeg wedi helpu chi i ddysgu Cymraeg?

Mae cerddoriaeth Gymraeg yn creu her newydd i ddysgwyr – sef deall yr iaith pan mae wedi’i chymysgu â thrac sain. Hefyd, gyda geiriau caneuon (fel gyda barddoniaeth) mae’r gramadeg yn fwy “rhydd,” felly dydy’r patrymau arferol ddim yno i helpu.

Ar ôl i fi ddechrau dysgu Cymraeg, ro’n i’n meddwl, “Rhaid i fi chwilio am gerddoriaeth Gymraeg”. Yn gyflym, wnes i sylweddoli fod llawer o artistiaid a bandiau Cymraeg gwych – a lot o albymau a chaneuon bendigedig. Yn aml, rhaid i fi wrando ar gân sawl gwaith i ddeall y geiriau, ond mae’n helpu fy sgiliau gwrando. Eleni, wnes i ddathlu Dydd Miwsig Cymru drwy wrando ar Radio Cymru a’r digwyddiadau arbennig oedd yn ffrydio ar y we.

Oes gynnoch chi hoff fandiau Cymraeg neu hoff ganeuon?

Yn ddiweddar, dw i wedi bod yn gwrando ar Big Leaves, Sibrydion, Sŵnami, ac Yws Gwynedd – ond dw i’n darganfod bandiau newydd bob dydd. Dw i wedi bod yn mwynhau albwm Big Leaves “Pwy Sy’n Galw” a’u EP “Siglo” – caneuon diddorol, gitarau mawr, lleisiau ardderchog band gwych! Y Dydd Miwsig Cymru hwn, clywais i drac neis gan fand “Gwilym” ar y we, felly dw i newydd brynu eu halbwm “Sugno Gola.” Fy albwm Cymraeg gynta’ oedd “Gôg” gan Meic Stevens, ar ôl i fy nhiwtor sôn am y gân “Rue St Michel” yn ein dosbarth. Prynais i “Gôg” a sawl albwm arall gan Meic, a dyna oedd cychwyn fy nhaith gerddorol.

Ydach chi wedi trio cyfansoddi cân Gymraeg?

Dw i wedi ysgrifennu sawl cerdd Gymraeg hyd yn hyn (i ymarfer odli yn y Gymraeg), a newydd gyflwyno cerdd i gystadleuaeth Gŵyl Amdani 2023 (sydd wedi’i threfnu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol). Dw i eisiau sgwennu caneuon yn Gymraeg cyn bo hir. Efallai bydd fy mhumed albwm yn Gymraeg!

Ydach chi wedi bod draw i Gymru neu’n bwriadu dod draw?  

Bydda i’n ymweld â Chymru – am y tro cynta’ – y gwanwyn hwn. O’r diwedd! Tair wythnos yn teithio trwy dde, gorllewin, a gogledd Cymru. Dw i’n edrych ymlaen at fy nhaith, ac at ddefnyddio fy Nghymraeg.

Pawlie Bryant