Y fferyllydd o Gaerdydd, Irram Irshad, sy’n rhoi cyngor ar sut i oroesi’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd…

Does dim ots pa mor dda ydyn ni trwy’r flwyddyn, mae’n deg dweud bod trio byw’n iach adeg y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn her.  Dyn ni’n mynd i fwyta ac yfed gormod, fel pob blwyddyn arall a byth yn dysgu! Diolch byth dim ond unwaith y flwyddyn mae’r Nadolig. Er mwyn diolch i’r holl ddarllenwyr sydd wedi mwynhau fy ngholofn eleni, fy anrheg Nadolig i chi yw sut i gael hwyl dros gyfnod yr ŵyl!

Pen Tost

Mae’r straen o brynu a lapio anrhegion, prynu a pharatoi bwyd, bod yng nghwmni’r teulu (yn enwedig y rhai dych chi ddim yn hoffi!), delio â phlant cyffrous a chael ychydig gormod i yfed, yn sicr o achosi pen tost i lawer o bobl! Bydd rhywbeth fel paracetamol ac ibuprofen yn gwneud y tro. Os ydy’r cur pen yn fwy poenus, e.e. meigryn, efallai bydd co-codamol yn fwy effeithiol.

Straen ar y stumog

Gall bwyta llawer o fwyd cyfoethog a gormod o unrhyw beth achosi diffyg traul.  Mae hyn oherwydd adlifiad asid o’r stumog.  Peidiwch â gorwedd i lawr yn fuan ar ôl bwyta, mae angen i chi aros yn eistedd i fyny am ychydig oriau. Gadewch i’r bwyd fynd i lawr! Os oes angen rhywbeth i gael gwared ar yr asid, mae yna lawer o feddyginiaethau dros y cownter fel Rennies a Gaviscon. Gallwch brynu tabledi o’r enw omeprazole, neu esomeprazole sy’n gweithio’n gyflymach. Dim ond ar gyfer defnydd tymor byr dylech chi ddefnyddio’r rhain. Os ydych chi’n eu defnyddio am fwy na phythefnos ac os oes gennych symptomau o hyd, ewch i weld eich meddyg teulu.

Efallai y bydd rhai pobl yn cael dolur rhydd neu rwymedd ar ôl bwyta rhai mathau o fwydydd.  Ar gyfer dolur rhydd, dylech yfed digon o ddŵr, neu gymryd rhywbeth fel Dioralyte er mwyn ail-hydradu.  Fel arfer, gall Loperamide (y feddyginiaeth mewn Imodiwm) stopio dolur rhydd o fewn ychydig.

Os dych chi’n dioddef o rwymedd, yfwch digon o ddŵr a rhowch gynnig ar feddyginiaeth dros y cownter fel senna, bisacodyl, lactulose neu Fybogel.  Gofynnwch i’r fferyllydd.

Os ydych chi’n teimlo’n sâl, does dim llawer ar gael (ar wahân i dabledi salwch teithio a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer teithiau hir). Y prif beth yw yfed digon o ddŵr os ydych chi’n sâl, a bwyta ychydig bach o fwydydd plaen os yn bosibl nes bod y salwch yn dod i ben. Os ydych chi’n chwydu gwaed, mae’n rhaid i chi gael cyngor meddygol ar unwaith. Bydd gwasanaethau y tu allan i oriau a gwasanaeth GIG 111 yn dal ar gael dros gyfnod y gwyliau.

Tywydd oer

Os yw’n wlyb neu’n rhewllyd, mae’n hawdd llithro a brifo eich hun. Mae angen glanhau unrhyw glwyfau gyda weips antiseptig a rhoi plastr arno wedyn.  Mae pobl oedrannus yn fwy tebygol o syrthio yn y gaeaf.  Os ydyn nhw mewn llawer o boen ar ôl syrthio, e.e. wrth roi pwysau ar eu traed, efallai y bydd angen cael pelydr-X i wneud yn siŵr nad ydyn nhw wedi torri asgwrn.  Os ydyn nhw wedi taro eu pen, bydd rhaid iddyn nhw fynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys.

Anwydau

 Efallai y bydd rhai ohonom yn cael annwyd dros gyfnod yr ŵyl.  Er nad ydy’n llawer o hwyl, cadwch yn gynnes, yfwch digon o ddŵr, a chymerwch analgesia os oes angen.  Ar gyfer dolur gwddf, sugnwch ar losin neu garglo gyda paracetamol neu aspirin.  Ar gyfer trwyn sydd wedi blocio, cymerwch dabledi llacio [decongestant] neu defnyddiwch chwistrell drwynol. Dydy ffisig ar gyfer peswch ddim yn gweithio, felly gwell eu hosgoi. Os oes gen i annwyd dwi’n troi at Vicks Vaporub a Lucozade – fydd neb yn dod yn agos ata’i pan fydda’i yn defnyddio’r Vaporub – ond o leiaf dw i’n gallu gwylio ffilmiau Nadolig mewn heddwch!

Beth bynnag fyddwch chi’n ei wneud dros yr ŵyl, hoffwn ddymuno Nadolig Llaewn a Blwyddyn Newydd hapus, iach, a diogel i chi i gyd.