Yn ei cholofn y tro yma, mae’r fferyllydd Irram Irshad yn dweud pam ei fod yn bwysig cael profion fel prawf gwaed. Mae Irram wedi bod yn fferyllydd ers dros 20 mlynedd. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n gweithio mewn meddygfeydd yng Nghymoedd y de. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 10 mlynedd. Mae ei cholofnau yn edrych ar bethau fel diet, ymarfer corff, afiechydon tymhorol fel ffliw, ac iechyd meddwl.


Fel rhan o fy rôl fel fferyllydd practis, dw i’n edrych ar ganlyniadau profion gwaed i wneud yn siŵr bod cleifion yn cymryd y meddyginiaethau gorau.  Mae llawer o gleifion yn dda am gael profion fel hyn yn rheolaidd – maen nhw eisiau gwybod os ydyn nhw’n gwneud yn iawn. Ond mae cymaint o gleifion sydd ddim yn dod am archwiliad. Os dych chi ddim yn gall dod i’r feddygfa, mae llawer o feddygfeydd yn gallu gwneud archwiliadau dros y ffôn ac ymgynghoriadau fideo.

Felly pam mae’n bwysig cael archwiliad? Mi fydda’i yn edrych ar y cwestiwn yma yn fy ngholofn y tro yma. Wedyn mi fydda’i yn dweud pa fath o archwiliadau ry’n ni’n eu cynnig y tro nesa.

Profion Gwaed

Pam mae angen prawf gwaed? Dylai pob claf sy’n cymryd meddyginiaethau ar gyfer cyflyrau cronig gael:

  • profion gwaed blynyddol;
  • gwirio pwysedd gwaed;
  • edrych ar eu ffordd o fyw (taldra, pwysau, ydyn nhw’n ysmygu/yfed alcohol).

Efallai y bydd angen monitro rhai cleifion ddwywaith y flwyddyn, e.e. os ydyn nhw’n diabetig, cleifion â chlefyd y galon, a chleifion oedrannus.

Efallai bydd rhai cleifion angen profion gwaed yn amlach os ydyn nhw’n cymryd meddyginiaethau arbenigol, e.e. ar gyfer arthritis, iechyd meddwl, cyflyrau’r galon neu gleifion trawsblaniad.

Does dim angen cynnal prawf ar lefelau y rhan fwyaf o feddyginiaethau ond mae profion gwaed eraill y dylem eu gwneud. Y prif brofion gwaed blynyddol yw:

  • Prawf aren – Dydy’r arennau ddim yn gweithio cystal wrth i ni fynd yn hŷn. Mae angen i ni wneud yn siwr nad yw meddyginiaethau a chlefydau yn eu gwneud yn waeth. Mae’r arennau’n cael gwared a gwastraff allan o’r corff felly mae’n bwysig eu bod nhw’n gweithio’n dda.
  • Prawf yr afu – Mae’r afu yn torri gwastraff i lawr yn y corff a dyma’r brif ffordd mae meddyginiaethau yn cael eu torri i lawr yn y corff. Mae angen i ni sicrhau nad oes unrhyw rwystr na sirosis.
  • HbA1c – Mae hwn yn brawf sy’n dangos i ni sut mae siwgr wedi’i reoli yn y corff dros y tri mis diwethaf. Dyma’r ffordd orau o wirio bod meddyginiaethau diabetes yn gweithio (ac nad yw’r claf wedi mynd i arferion gwael gyda’i ddiet!).  Mae claf diabetig newydd yn cael diagnosis fel hyn.  Mi ddylech chi hefyd gael prawf wrin am rywbeth o’r enw ACR. Mae hyn yn dangos os oes protein yn yr wrin. Os oes, dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fod yn ymchwilio i hynny.
  • Colesterol – Mae colesterol yn cynnwys colesterol da a drwg. Gall colesterol drwg uchel gynyddu’r risg o gael trawiad ar y galon, strôc a datblygu diabetes.  Efallai y bydd gan rai pobl golesterol uchel sy’n rhedeg yn y teulu.  Gallwn helpu i leihau colesterol gyda meddyginiaethau a diet da.
  • Proffil esgyrn – gwirio calsiwm ar gyfer cryfder esgyrn ac i sicrhau nad yw’n achosi problemau gyda’r galon neu’r chwarren barathyroid.
  • Profion thyroid – mae gan rai pobl chwarren thyroid sydd ddim yn gweithio digon neu sy’n gorweithio. Mae’n gallu achosi pob math o symptomau. Gall thyroid gorweithgar wneud i chi deimlo’n boeth, yn bryderus a gwneud i’ch calon guro’n gyflymach. Gall thyroid sydd ddim yn gweithio digon wneud i chi deimlo’n oer, magu pwysau, a chael croen sych.  Gall lefelau hormonau thyroid hefyd gael eu heffeithio gan rai meddyginiaethau.
  • Gwaed – mae prawf gwaed yn dangos os yw ein cyrff yn ymladd heintiau, os oes problemau ceulo gwaed, os oes problemau gyda’n system imiwnedd, neu os oes gwaedlif yn y corff. Mae’n ddefnyddiol iawn i fonitro imiwnoatalyddion a theneuwyr gwaed.

Gall rhai meddyginiaethau olygu bod angen cael profion gwaed ychwanegol, e.e.:

  • Lefelau ffolad os ydych chi’n cymryd asid ffolig neu imiwnoatalyddion.
  • Lefelau fferitin os ydych chi’n anemig ac yn cymryd haearn ychwanegol.
  • Lefelau B12 os oes anaemia neu os ydych chi’n cymryd metformin ar gyfer diabetes.

Mae rhai profion sydd ddim yn cael eu gwneud fel arfer, ond gallwch chi ofyn amdanyn nhw os oes gennych symptomau:

  • Fitamin D – yn enwedig os ydych chi’n teimlo’n flinedig.
  • Hormonau rhyw benywaidd os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n dechrau’r menopos.

Felly tro nesa fyddwch chi’n cael llythyr neu neges destun yn gofyn i chi ddod i mewn ar gyfer profion gwaed, cofiwch nad ydan ni’n fampirod sydd eisiau eich gwaed – dim ond eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn cael y meddyginiaethau cywir a bod eich corff yn ymdopi gyda nhw!