Yn ei cholofn y tro yma, mae’r fferyllydd o Gaerdydd, Irram Irshad yn dweud sut gallwn ni edrych ar ôl ein hunain wrth fynd yn hŷn

Mae heneiddio yn rhan anochel o fywyd. Efallai nad ydyn ni’n ei hoffi, ond nid oes unrhyw beth allwn ni wneud am y peth. Ond beth dyn ni yn gallu gwneud yw gofalu amdanon ni’n hunain a chadw’n iach – yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol.

Dyma’r newidiadau yn y corff wrth i ni fynd yn hŷn:

  • Esgyrn yn gwanhau.
  • Mae cyhyrau’n colli cryfder a hyblygrwydd. Mae’n effeithio sut dyn ni’n symud a chadw balans. Mae hyn yn cynyddu’r risg o gwympo, yn enwedig mewn tywydd gwael yn y gaeaf.
  • Gall fod yn anodd canolbwyntio a phroblemau gyda’r cof gynyddu (‘dirywiad gwybyddol‘).
  • Dyn ni’n teimlo’n fwy isel ein hysbryd oherwydd digwyddiadau bywyd fel profedigaeth a salwch.
  • Mae golwg a chlyw yn cael eu heffeithio.
  • Mae problemau gyda’r dannedd yn fwy tebygol.
  • Mae’r system dreulio yn arafu.
  • Mae’r bledren yn gwanhau a dyn ni’n fwy tebygol o fethu dal.
  • Mae’r croen yn teneuo ac yn dod yn llai elastig.
  • Dyn ni’n fwy tueddol o gael sgîl-effeithiau meddyginiaethau. Mae hyn oherwydd bod ein metaboledd yn arafu sy’n effeithio’r afu a’r arennau. Maen nhw’n arafach yn cael gwared a gwastraff, fel meddyginiaethau.
  • Cyhyr ydy’r galon. Wrth fynd yn hŷn mae hefyd yn gallu gwanhau. Mae’n rhaid i’r galon weithio’n galetach ac mae pwysedd gwaed yn cynyddu.

Canol oed – amser i wneud newidiadau

Mae llawer o’r newidiadau hyn yn dechrau pan fyddwn ni’n ‘ganol oed‘ (yn ein pedwardegau!).  Dyma’r oedran pan ddylen ni ddechrau newid ein ffordd o fyw i fod yn iachach – os nad ydym yn gwneud hynny’n barod.

Sut i ‘heneiddio’n dda’

  • Bwyta diet iach. Os dych chi ddim yn gallu coginio i chi’ch hun, beth am ystyried gwasanaethau fel ‘Pryd ar Glud‘?
  • Dylech chi wneud gweithgarwch corfforol bob dydd.
  • Peidiwch ag ysmygu.
  • Yfwch alcohol yn synhwyrol.
  • Rheoli straen a cheisio cael digon o gwsg (mae’n bwysig i’r galon a lles meddyliol).
  • Mae heneiddio yn gallu bod yn ynysig iawn. Cadwch mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau yn aml. Trïwch fynd allan i gymdeithasu bob wythnos os yn bosib. Os nad ydych wedi siarad â ffrind ers tro, anfonwch neges atyn nhw neu ffoniwch nhw.
  • Wrth symud yn arafach ac yn llai aml, mae’n bwysig gwisgo esgidiau addas fel nad ydych chi’n llithro, yn enwedig pan mae’n wlyb neu’n rhewllyd. Gwnewch yn siŵr bod digon o oleuadau yn y cartref fel gallwch chi weld ble ydych chi’n mynd, yn enwedig os dych chi yn codi i fynd i’r tŷ bach yn y nos. Gwnewch yn siŵr nad oes pethau ar y llawr y gallwch chi gwympo drostyn nhw. Mae sefydliadau sy’n gallu helpu efo pethau yn y cartref, fel Gofal a Thrwsio, Age Concern a gwasanaethau cymdeithasol. Os oes gennych gyflwr cronig sy’n effeithio ar eich symudedd, gofynnwch i’ch meddyg teulu am atgyfeiriad ffysio.
  • Beth am ddechrau hobïau i gadw’ch hun yn iach? Gall fod yn weithgaredd corfforol, neu ddarllen a gwneud posau i gadw’r meddwl yn brysur, gwaith crefft, coginio, pobi, ac ati. Os dych chi’n ymuno â dosbarthiadau, mae hyn yn ffordd arall o gwrdd â phobl eraill. Dw i wedi bod yn lwcus iawn i wneud ffrindiau newydd drwy ddosbarthiadau Cymraeg, a gwnïo a gweithdai crefftio.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael digon o galsiwm a fitamin D bob dydd i gadw’r esgyrn yn gryf.
  • Ewch i’r tŷ bach yn rheolaidd i osgoi heintiau. Gwnewch ymarferion i gadw cyhyrau llawr y pelfis yn gryf.
  • Ewch at y deintydd yn rheolaidd a brwsio eich dannedd ddwywaith y dydd, a defnyddio fflos ar ôl pob pryd bwyd.
  • Ewch at yr optegydd yn rheolaidd. Mae llawer o optegwyr y stryd fawr hefyd yn gallu helpu gydag iechyd y glust, fel cymhorthion clyw.
  • Defnyddiwch eli ar eich croen i’w gadw’n ystwyth. Defnyddiwch eli haul pan fyddwch chi allan yn yr haul.
  • Os dych chi’n cael unrhyw sgîl-effeithiau o’ch meddyginiaethau, gofynnwch am adolygiad gyda’ch fferyllydd practis, nyrs neu feddyg teulu.

Felly beth am gymryd y camau hawdd yma i gadw ein hunain yn iach am flynyddoedd i ddod?