Yn ei cholofn y tro yma, mae’r fferyllydd Irram Irshad yn dweud sut i gymryd gofal yn yr haul. Mae Irram wedi bod yn fferyllydd ers dros 20 mlynedd. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n gweithio mewn meddygfeydd yng Nghymoedd y de. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 10 mlynedd. Mae ei cholofnau yn edrych ar bethau fel diet, ymarfer corff, afiechydon tymhorol fel ffliw, ac iechyd meddwl.
Mae gwyliau’r haf wedi dechrau a bydd llawer ohonoch chi yn mynd ar wyliau dramor neu’n aros yn y Deyrnas Unedig. Ble bynnag fyddwch chi’n mynd, mae’n bwysig cadw eich hun yn ddiogel wrth gael hwyl yn yr haul.
Gofal Croen
Dw i’n dweud wrth fy nghleifion – hyd yn oed os ydyn nhw jest yn aros adref dros yr haf neu’n garddio – mae’n rhaid iddyn nhw ddefnyddio eli haul. Dw i wedi dychryn clywed rhai yn dweud wrtha’i nad ydyn nhw erioed wedi defnyddio eli haul a “ddim ei angen”. Mae’n rhaid i mi ddweud wrthyn nhw wedyn nad yw’r croen tywyll sydd ganddyn nhw yn groen iach, ond croen sydd wedi cael ei ddifrodi gan yr haul. Mae’r bobl yma mewn perygl uchel o gael melanoma (canser y croen). Mae pobl sydd â phryd golau yn wynebu’r risg uchaf o ganser y croen, ond gall unrhyw un ei gael.
Mae dau fath o ymbelydredd uwchfioled sy’n dod o’r haul:
- ‘UVA’ – maen nhw’n gallu achosi rhai mathau o ganser y croen.
- ‘UVB’ – mae’r pelydrau yma yn gryfach ac yn achosi cochni a llosg haul.
Wrth brynu eli haul, dylech chi edrych am y ddau beth yma ar y label:
- ffactor amddiffyn rhag yr haul (SPF) o leiaf 30 i amddiffyn rhag UVB
- O leiaf 4 seren o amddiffyniad UVA, yn ddelfrydol 5-seren.
Sut i ddefnyddio eli haul
Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio digon o eli haul neu nid ydyn nhw’n ei roi ar y croen sawl gwaith yn ystod y dydd. Mi ddylech chi ei roi ar y croen bob dwy awr pan fyddwch chi allan yn yr haul. Rhowch eli ar y croen bob amser cyn mynd allan a bob amser cyn mynd i nofio gan fod ymbelydredd UV yn gallu treiddio drwy ddŵr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi mwy o eli ar ôl nofio gan y bydd y dŵr wedi ei olchi i ffwrdd, hyd yn oed os yw’r botel yn dweud ei bod yn ‘gwrthsefyll dŵr‘!
Rhowch eli haul ar bob rhan o’r corff sydd heb gael ei orchuddio gan ddillad. Mae hyn yn cynnwys yr wyneb, y gwddf a’r clustiau. I’r rhai sy’n foel neu efo gwallt sy’n teneuo, peidiwch ag anghofio rhoi eli haul ar eich pen hefyd. Neu gwisgwch het!
Awgrymiadau eraill i oedolion a phlant i amddiffyn eu hunain rhag yr haul o fis Mawrth i fis Hydref:
- Arhoswch yn y cysgod pan fydd yr haul ar ei gryfaf (rhwng 11yb a 3yp).
- Peidiwch byth â llosgi.
- Gwisgwch ddillad a sbectol haul addas, a het lydan.
Os dych chi’n gweithio yn yr haul, yna cymerwch yr holl ragofalon ag y gallwch chi!
Delio â llosg haul
Mae’r croen yn teimlo’n boeth ac yn boenus pan fyddwch chi’n cael llosg haul. Ar ôl ychydig ddyddiau mae’r croen yn dechrau pilio. Fel arfer mae’n well o fewn saith diwrnod. Gall llosg haul difrifol achosi pothelli.
Os ydych chi’n cael llosg haul:
- Ewch allan o’r haul cyn gynted â phosibl.
- Oerwch eich croen gyda chawod oer, bath neu dywel llaith.
- Defnyddiwch eli ‘aftersun’. Peidiwch â defnyddio jeli petrolewm.
- Yfwch digon o ddŵr.
- Cymerwch paracetamol neu ibuprofen os dych chi mewn poen.
- Gwisgwch ddillad llac i orchuddio’r croen sydd wedi llosgi yn yr haul nes bod y croen wedi gwella.
- Peidiwch â byrstio pothelli.
Bocs Cymorth Cyntaf ar gyfer gwyliau
Dyma’r pethau dw i’n cynnwys yn fy mocs Cymorth Cyntaf:
- Cadachau antiseptig a phlasteri.
- Paracetamol ac ibuprofen.
- Loperamide (enw brand Imodium) a rhywbeth fel Dioralyte ar gyfer ail-hydradu os dych chi’n sâl ac yn cael dolur rhydd. Pan fyddwch chi dramor, mae’n bwysig bwyta bwyd wedi’i goginio’n iawn. Os ydych chi’n aros mewn llety hunanarlwyo, berwch ddŵr BOB AMSER a gadael iddo oeri cyn ei goginio neu ei yfed. Cadwch at ddŵr potel i’w yfed, ac yfwch ddŵr yn rheolaidd mewn tywydd poeth.
- Tabledi salwch teithio. Mae sawl brand ar gael dros y cownter ond gallen nhw eich gwneud yn gysglyd felly nid yw’n addas ar gyfer gyrwyr.
- Tabledi gwrth-histamin, diferion llygaid, chwistrell drwynol os ydych chi’n mynd i fod allan y rhan fwyaf o’r amser.
- Eli gwrth-histamin neu eli steroid (hydrocortisone 1%) i drin unrhyw frathiadau neu bigiadau.
Os ydych chi’n teithio y tu allan i Ewrop, gwiriwch gyda’ch meddygfa os oes angen unrhyw frechiadau neu dabledi rhag malaria. Nid yw’r rhain ar gael gan y GIG ond gellir eu cael ar bresgripsiwn preifat neu eu prynu dros y cownter gan fferyllfeydd.
Gobeithio gewch chi wyliau haf hapus – cofiwch wisgo eli haul, yfed digon o ddŵr a chadw’n ddiogel!