Dyma’r drydedd golofn mewn cyfres newydd am ofal iechyd. Mae’r golofn yn cael ei sgwennu gan y fferyllydd Irram Irshad. Mae hi wedi bod yn fferyllydd ers dros 20 mlynedd. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n gweithio mewn meddygfeydd yng Nghymoedd y de. Mae hi’n helpu i reoli clefydau cronig fel clefyd y galon, cyflyrau anadlol, clefyd y siwgr ac iechyd meddwl.  Mae Irram wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 10 mlynedd. Mae ei cholofnau yn edrych ar bethau fel diet, ymarfer corff, afiechydon tymhorol fel ffliw, ac iechyd meddwl. Dyma’r ail golofn sy’n edrych ar beth allwn ni wneud i fyw’n iach. Yn y golofn gyntaf roedd Irram yn siarad am ddiet ac ymarfer corff. Y tro yma mae hi’n edrych ar sut i roi’r gorau i ysmygu ac yfed llai o alcohol…

Ysmygu

Mae tybaco yn gaethiwus oherwydd y nicotin. Ond mae sigaréts yn cynnwys miloedd o gemegau eraill. Dyma beth sy’n gallu achosi canser, problemau gyda’r ysgyfaint (COPD), clefyd y galon, a gwneud niwed i fabis yn y groth os yw merched yn ysmygu pan maen nhw’n feichiog.  Mae’n gallu achosi pwysau geni iselmewn plant, cyflyrau anadlol, gordewdra a diabetes.

 

Sut mae ysmygu’n niweidio’r corff?

  • Dyblu’r risg o gael trawiad ar y galon.
  • Yn achosi 84% o farwolaethau o ganser yr ysgyfaint ac 83% o farwolaethau o ganlyniad i COPD.
  • Yn cynyddu pwysedd gwaed a chyfradd curiad y galon.
  • Mae’n achosi analluedd mewn dynion.
  • Gwneud esgyrn yn frau.
  • Mae’n cynyddu’r risg o gael strôc o leiaf 50%.
  • Yn cynyddu’r risg o ganser y gwefusau, tafod, gwddf, blwch llais ac oesoffagws.
  • Mae’n ei gwneud hi’n anoddach i fenyw feichiogi.
  • Mae’n effeithio’r croen ac yn gwneud i rywun edrych tua 10-20 mlynedd yn hŷn.

Mae ysmygu yn costio £2.5 biliwn i’r Gwasanaeth Iechyd (GIG). Mae £1.46 biliwn o hyn ar gyfer gofal cymdeithasol a £8.6 biliwn oherwydd diwrnodau sâl o’r gwaith.

Rai blynyddoedd yn ôl, daeth llawer o fannau cyhoeddus yng Nghymru yn ddi-fwg fel ysbytai, bwytai a thafarndai.  Ar yr un pryd roedd cynnydd yn y gwasanaethau i helpu i roi’r gorau i ysmygu a mwy o bethau i helpu ysmygwyr i roi’r gorau iddi.

Sut allwch chi stopio ysmygu?

Y siawns orau o lwyddo yw defnyddio gwasanaethau stopio smygu lleol fel Help Me Stop (Rhadffôn 0800 085 2219) neu fferyllfeydd cymunedol sy’n darparu’r rhaglen 12 wythnos am ddim.  Yn ystod yr ymgynghoriad gyda fferyllydd rydych chi’n gweithio allan pa un yw’r cynnyrch gorau i chi. Rydych chi’n mynd yn ôl bob wythnos neu ddwy i gael gwirio lefel eich carbon monocsid ac yn cael gwybod pryd ydy’r adeg cywir i ddefnyddio llai o’r therapïau.

Mae cymaint o gynhyrchion ar gael fel Nictotine Replacement Therapy (NRT): fel losin, chwistrellau ceg, chwistrellwyr trwynol a mewnanadlyddion.  Mae NRT yn dyblu’r siawns o roi’r gorau i ysmygu a gyda chefnogaeth gan y fferyllydd neu’r cynghorydd, mae’n treblu’r siawns o roi’r gorau iddi.

Mae rhai fferyllwyr a meddygon yn gallu rhagnodi tabled hefyd sy’n blocio’r derbynyddion nicotin yn yr ymennydd.  Mae’n gwrs tri mis ond nid yw’n addas i bawb, e.e. os ydych chi’n cymryd meddyginiaethau iechyd meddwl, nid ydych chi’n gymwys amdano.

Mae e-sigaréts yn ddadleuol oherwydd nad ydyn nhw wedi cael eu hasesu. Dyn ni ddim yn gwybod yn union beth sydd ynddyn nhw.  Mae pobl ifanc yn hoffi e-sigaréts.  Ond mae risg iddyn nhw hefyd, er eu bod yn llai niweidiol nag ysmygu tybaco.

Alcohol

Gall alcohol achosi mwy na 200 o gyflyrau meddygol gan gynnwys:

  • Canserau’r geg, gwddf, stumog, yr iau a’r fron
  • Sirosis yr afu
  • Clefyd y galon
  • Iselder, llai o egni, problemau cysgu
  • Strôc
  • Llif y cefndedyn (Pancreatitis)
  • Analluedd mewn dynion

Ar hyn o bryd yr argymhelliad yw peidio yfed mwy na 2 uned y dydd (14 uned yr wythnos).  Mae hyn yn berthnasol i yfed ychydig bach yn rheolaidd. Dydy peidio yfed am 6 diwrnod ac yna yfed 14 uned mewn un noson ddim yn dda i chi! Mae gor-yfed fel hyn yr un mor niweidiol ag yfed gormod yn rheolaidd.

Mae gan y GIG ganllaw ar-lein sy’n rhoi cyngor am alcohol. Ewch i:  https://www.nhs.uk/live-well/alcohol-advice/

Canllaw cyffredinol ar gyfer unedau:

  • 1 uned = Hanner peint o gwrw, lager neu seidr; hanner gwydraid bach o win; un mesur o wirodydd unigol, un gwydraid bach o sieri.
  • 1.5 uned = ‘alcopop’; neu botel 275ml o lager.
  • 2 uned = Un peint o gwrw, lager, seidr;
  • 3 uned = peint o gwrw, lager, seidr ‘cryf’ neu ‘premiwm’; 250ml gwydraid o win.
  • 4 uned = lager ‘cryf iawn’
  • 9 uned – un botel o win.

Mwynhewch ychydig o ddiodydd gyda theulu a ffrindiau, dathlu eich hoff dîm pêl-droed neu rygbi yn ennill, mwynhau digwyddiadau arbennig fel priodasau, ond byddwch yn synhwyrol ac yn ddiogel – a pheidiwch ag yfed a gyrru!

Manylion cyswllt defnyddiol:

Mind                            Mind.org.uk

Drunkline                    Rhadffon 0300 123 1110 (dyddiau’r wythnos 9am-8pm, penwythnosau 11am-4pm)

Grwpiau AA lleol