Dyma’r ail golofn mewn cyfres newydd am ofal iechyd. Mae’r golofn yn cael ei sgwennu gan y fferyllydd Irram Irshad. Mae hi wedi bod yn fferyllydd ers dros 20 mlynedd. Mae hi’n dod o Gaerdydd yn wreiddiol ac yn dal i fyw yno. Mae hi’n gweithio mewn meddygfeydd yng Nghymoedd y de. Mae hi’n helpu i reoli clefydau cronig fel clefyd y galon, cyflyrau anadlol, clefyd y siwgr ac iechyd meddwl.  Mae Irram wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 10 mlynedd. Y llynedd roedd hi wedi pasio ei harholiad Safon Uwch. Nawr mae hi’n hoffi siarad Cymraeg gyda chleifion a’i chydweithwyr ac mae hi hefyd yn ysgrifennu erthyglau a straeon. Mi fydd ei cholofnau yn edrych ar bethau fel diet, ymarfer corff, afiechydon tymhorol fel ffliw, ac iechyd meddwl. Y tro yma mae Irram yn son am beth allwn ni wneud i fyw’n iach. Dyma’r gyntaf o ddwy golofn fydd yn son am fyw’n iach. Y tro yma mae Irram yn siarad am ddiet ac ymarfer corff. Y tro nesa mi fydd hi’n edrych ar roi’r gorau i ysmygu ac yfed llai o alcohol.

Ym mis Rhagfyr, dyn ni’n tueddu i orfwyta am ei fod yn dymor yr ŵyl.  Rydym yn addo y byddwn yn bwyta’n iachach yn y Flwyddyn Newydd, yfed llai o alcohol, gwneud mwy o ymarfer corff, a rhoi’r gorau i ysmygu.  Ond mae mis Ionawr mor ddiflas, oer a thywyll rydyn ni i gyd eisiau cysur ac mae’n hawdd iawn rhoi’r gorau i addewidion.  Unwaith mae’r gwanwyn yn dod a’r wyau Pasg wedi’u bwyta, dyn ni’n dechrau meddwl am yr haf, a’r tywydd gwell, a dyddiau hirach. Dyn ni’n teimlo’n fwy brwdfrydig dros fyw bywyd iachach.

Dylen ni gyd drio byw’n iach hyd yn oed os ydyn ni’n iach neu efo cyflyrau iechyd sylfaenol.  Mae’r afiechydon cronig mwyaf cyffredin yn y DU yn aml yn cael eu hachosi, neu yn gwaethygu, oherwydd ffordd o fyw afiach.  Gall arwain at glefyd y galon, diabetes, problemau anadlu, problemau iechyd meddwl, canserau a mwy.

Unwaith mae pobl yn datblygu’r cyflyrau hyn, yn aml maen nhw’n meddwl y bydd meddyginiaethau yn gwella’r broblem. Ond nid yw meddyginiaethau yn gallu gwneud y gwaith i gyd. Mae’n rhaid i ni eu helpu drwy ofalu am ein cyrff. Nid yw meddyginiaethau’n gweithio os ydyn ni’n parhau i wneud dewisiadau ffordd o fyw gwael.

Hefyd, mae angen i ni barhau gyda’r newidiadau – nid rhoi’r gorau iddyn nhw ar ôl mis neu ddau. Nod ffordd o fyw iach yw lleihau ffactorau risg ar gyfer salwch hirdymor.

Bwyta’n iach

Mae cymaint o ddietau ‘ffug‘ ar y we ond y cyfan sydd angen yw bwyta diet cytbwys, iach ac ymarfer corff i ddefnyddio’r calorïau rydyn ni’n rhoi yn ein cyrff.

Mae gan yr Adran Iechyd “Canllaw Bwyta’n Iach” gwych ar ei gwefan.

Mae hyn yn rhoi syniad da i chi o faint o bob math o grŵp bwyd y dylech chi fwyta.

Y grwpiau bwyd yw:

  • Ffrwythau a llysiau (o leiaf 5 dogn y dydd)
  • Carbohydradau (tatws, bara, reis, pasta).  Dylai’r rhain ddim bod yn fwy na thraean o’ch plât.
  • Proteinau (ffa, corbys, pysgod, wyau, cig).  Mae cig fel cyw iâr yn well na chig coch sy’n waeth i’r galon ac yn achosi gowt.
  • Cynnyrch llaeth (llaeth, menyn, caws).

Nid yw melysion, creision, cacennau, bisgedi yn cael lle ar y plât – maen nhw’n iawn bob hyn a hyn ond nid bob dydd!

Mae llawer o fwydydd hefyd efo system labelu ‘goleuadau traffig’.  Mae pum blwch yn dangos faint o egni, braster, siwgr a halen sydd yn y bwyd.  Mae’r bocsys yn lliw gwyrdd (iach), oren (ddim mor iach), a choch (osgoi!).

Yfwch llai o ddiodydd pefriog llawn siwgr, a diodydd efo caffein. Mae caffein yn cynyddu eich pwysedd gwaed a chyfradd eich calon – ac yn eich cadw yn effro os dych chi’n ei yfed ar ôl 6pm!

Ymarfer corff

Mae yna lawer o fanteision o wneud ymarfer corff.  Mae symud eich corff yn rheolaidd yn helpu i gadw pwysau iach, yn rheoli straen, yn gwella cwsg ac ansawdd bywyd.  Mae’n lleihau’r siawns o gael diabetes o 40%, clefyd y galon o 35%, iselder o 30%, poen cefn o 25% a chanserau o 20%.

Mae unrhyw ymarfer corff yn dda, mae pob munud yn cyfrif.  Mae’r argymhellion presennol yn argymell o leiaf 2.5 awr o weithgarwch cymedrol yr wythnos. Mae hyn yn cynnwys nofio, beicio a cherdded yn gyflym.  Os ydy’n well gennych chi wneud gweithgaredd mwy egnïol fel rhedeg, yna gwnewch o leiaf 75 munud yr wythnos.

Gallwch gryfhau’r cyhyrau, esgyrn a chymalau trwy wneud ioga neu fynd i’r gampfa o leiaf ddwywaith yr wythnos.

Os dych chi’n eistedd wrth eich desg yn y gwaith, neu’n eistedd ar y soffa yn gwylio’r teledu – cofiwch godi a symud o gwmpas yn rheolaidd!

Gwefannau defnyddiol:

Sefydliad Prydeinig y Galon (British Heart Foundation)         www.bhf.org.uk

Diabetes UK                             www.diabetes.org.uk

Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint (British Lung Foundation)     www.blf.org.uk

Age UK                                     www.ageuk.org.uk

Gwefan y GIG (NHS)                www.nhs.uk