Dyma’r golofn gyntaf mewn cyfres newydd am ofal iechyd. Mae’r golofn yn cael ei sgwennu gan y fferyllydd Irram Irshad. Mae hi wedi bod yn fferyllydd ers dros 20 mlynedd. Mae hi’n dod o Gaerdydd yn wreiddiol ac yn dal i fyw yno. Mae hi’n gweithio mewn meddygfeydd yng Nghymoedd y de. Mae hi’n helpu i reoli clefydau cronig fel clefyd y galon, cyflyrau anadlol, clefyd y siwgr ac iechyd meddwl. Mae Irram wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 10 mlynedd. Y llynedd roedd hi wedi pasio ei harholiad Safon Uwch. Nawr mae hi’n hoffi siarad Cymraeg gyda chleifion a’i chydweithwyr ac mae hi hefyd yn ysgrifennu erthyglau a straeon. Mi fydd ei cholofnau yn edrych ar bethau fel diet, ymarfer corff, afiechydon tymhorol fel ffliw, ac iechyd meddwl. Y tro yma mae Irram yn son am rywbeth sy’n gallu effeithio llawer o bobl yr adeg yma o’r flwyddyn – clefyd y gwair.
Dw i’n falch iawn i gyflwyno fy ngholofn gyntaf i Lingo360. Yn y golofn yma, dw i’n mynd i edrych ar rywbeth amserol iawn sy’n effeithio miliynau ohonon ni yr adeg hon o’r flwyddyn – clefyd y gwair!
Mae clefyd y gwair yn gyflwr ‘alergaidd’, sy’n gysylltiedig ag asthma ac ecsema. Mae symptomau yn cael eu hachosi gan ‘alergenau’ fel paill. Mae’n gwneud i gelloedd yn ein cyrff ryddhau histamin. Dyma’r histamin sy’n achosi’r i’r trwyn a’r llygaid redeg, a gwneud i’r llygaid a’r gwddf i gosi. Mae hyd yn oed yn achosi cur pen a blinder.
Beth allwch chi wneud i atal neu leddfu’r symptomau?
- Gwisgwch sbectol haul ‘wraparound’ a het pan fyddwch chi yn yr awyr agored i gadw paill allan o’r llygaid.
- Os ydych chi’n dal i wisgo masgiau wyneb ers Covid-19, bydd y rhain yn helpu i atal y paill rhag mynd i’ch trwyn!
- Peidiwch â rhoi dillad golchi i sychu y tu allan pan fydd y cyfrif paill yn uchel – bydd y paill yn glynu at eich golch.
- Cadwch ffenestri ar gau (a gwnewch yn siŵr bod ffan gyda chi!).
- Defnyddiwch ddillad gwely ‘gwrth-alergedd‘.
- Hwfro carpedi, dodrefn a llenni yn rheolaidd i gael gwared ar unrhyw baill neu lwch.
Beth am feddyginiaethau?
Gall y rhan fwyaf o bobl gymryd cyffuriau gwrth-histamin, prin yw’r problemau gyda nhw. Ond gwiriwch gyda’r fferyllydd bob amser cyn prynu. Mae’r rhan fwyaf o archfarchnadoedd yn gwerthu meddyginiaethau yn eithaf rhad. Gallwch hefyd eu cael yn am ddim gan lawer o fferyllfeydd ar y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin (CAS).
Mae tabledi sydd ddim yn gwneud chi’n gysglyd ar gael (er enghraifft loratadine), yn ogystal â rhai sy’n gwneud chi’n gysglyd os yw’r symptomau’n waeth yn y nos (e.e. chlorphenamine, efallai y byddwch yn ei adnabod fel Piriton). Bydd tabledi yn gweithio i’r rhan fwyaf o bobl, ond weithiau gall y symptomau efo’r trwyn a’r llygaid fod yn ddrwg iawn. Mae chwistrellau trwynol a diferion llygaid ar gael i’w prynu dros y cownter neu am ddim drwy’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin.
Os mai dim ond nawr ac yn y man dych chi’n cael symptomau, cymerwch y meddyginiaethau dim ond pan fydd angen. Os dych chi’n cael symptomau drwy gydol tymor clefyd y gwair (sy’n gallu dechrau o fis Mawrth tan fis Medi) yna gallwch chi gymryd y meddyginiaethau am dri i chwe mis.
Gobeithio bydd hyn yn eich helpu gyda chlefyd y gwair a byddwch yn gallu mwynhau’r haf!