Yn ei cholofn y tro yma, mae’r fferyllydd Irram Irshad yn dweud pam ei fod yn bwysig cael gwiriad iechyd blynyddol. Mae Irram wedi bod yn fferyllydd ers dros 20 mlynedd. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n gweithio mewn meddygfeydd yng Nghymoedd y de. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 10 mlynedd. Mae ei cholofnau yn edrych ar bethau fel diet, ymarfer corff, afiechydon tymhorol fel ffliw, ac iechyd meddwl…
Dych chi’n mynd a’ch car i’r garej am MOT bob blwyddyn? Dych chi’n gwneud yn siwr bod popeth yn gweithio’n iawn? Wel, mae angen i chi wneud yr un peth efo’ch corff. Yn rhan gyntaf fy ngholofn fis diwethaf wnes i son am bwysigrwydd cael profion gwaed rheolaidd. Y tro yma, bydda’i yn edrych ar wiriadau iechyd blynyddol– fel MOT i’r corff – a pam dylech chi eu cael nhw. Gall y rhain fod gyda nyrs neu fferyllydd yn y feddygfa, wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy ymgynghoriad fideo.
Mae gwiriadau iechyd blynyddol yn gyfle gwych i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gadw llygad arnoch chi. Mae hefyd yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau i ni neu ddweud wrthym am unrhyw beth sy’n eich poeni. Weithiau, dydy cleifion ddim yn siarad efo fi am eu meddyginiaethau, ond maen nhw’n dweud wrtha’i os ydyn nhw’n teimlo’n isel, mewn profedigaeth, yn teimlo’n unig, neu maen nhw’n ei chael hi’n anodd edrych ar ôl eu hunain gartref. Yn aml dw i’n gweithio gyda chydweithwyr i helpu cleifion mewn ffyrdd eraill – nid jest rhoi meddyginiaethau. Yn union fel ceir, ry’n ni’n cynnwys llawer o rannau!
Gwiriadau Diabetes
Mae’n well gwneud y gwiriadau yma wyneb yn wyneb fel ein bod yn gallu edrych ar eich traed, pwls, pwysedd gwaed a’r llefydd dach chi’n chwistrellu inswlin. Bydd y ffordd dych chi’n chwistrellu inswlin hefyd yn cael ei gwirio i wneud yn siwr eich bod chi’n cael y dos cywir.
Gwiriadau Asthma/COPD
Mae’n well ymgynghori wyneb yn wyneb neu fideo fel y gallwn wirio eich bod yn defnyddio’ch mewnanadlydd yn gywir. Ewch â’ch mewnanadlyddion i’r feddygfa! Mae gen i asthma ac os dyn ni ddim yn defnyddio ein mewnanadlyddion yn gywir, yna fyddwn ni ddim yn cael y dos cywir i’n hysgyfaint.
Gwiriadau Atal Cenhedlu/HRT
Rydym yn gwirio symptomau, pwysedd gwaed, pwysau ac yn gwirio am sgîl-effeithiau yn ogystal ag unrhyw arwyddion o geuladau, er enghraifft DVT [deep vein thrombosis].
Clinigau Gwrthgeulo
Efallai eich bod yn cymryd ‘teneuwr gwaed‘ oherwydd eich bod wedi cael clotiau yn eich coesau neu’ch ysgyfaint o’r blaen. Efallai bod gennych chi gyflwr ar y galon o’r enw Ffibriliad Atrïaidd [Atrial Fibrillation] lle mae gennych guriad calon afreolaidd sy’n cynyddu’r risg o gael strôc. Mae’r teneuwr gwaed yn helpu i leihau’r risg o gael strôc. Os ydych chi ar warfarin, mi fyddwch chi’n cael prawf pigo bys bob wythnos, bob pythefnos neu bob mis – neu hyd yn oed unwaith bob tri mis os dych chi’n cadw’n iawn. Os dych chi ar apixaban, rivaroxaban, edoxaban neu dabigatran, fel arfer byddwch chi’n cael prawf gwaed aren un ai bob tri mis, chwe mis, neu bob blwyddyn.
Gwiriadau Meddyginiaeth
Mae’r gwiriadau yma fel arfer yn cael eu gwneud gan fferyllwyr practis. Mi fyddan nhw’n edrych ar eich holl feddyginiaethau waeth beth ydy’ch cyflyrau. Rydym yn gwirio eich bod yn gwybod beth yw’r meddyginiaethau, a’ch bod yn cymryd y dos cywir ar yr adeg iawn. Rydym yn gwirio canlyniadau eich profion gwaed i sicrhau eich bod ar y feddyginiaeth gywir ar y dos cywir. Os ydych chi’n cael sgîl-effeithiau, efallai y bydd yn rhaid i ni newid y dos neu ragnodi meddyginiaeth arall.
Gwiriadau eraill
Weithiau mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol arbenigol yn adolygu epilepsi, iechyd meddwl, rheoli poen, a chlwyfau. Rwy’n lwcus i weithio gyda pharafeddyg yn un o fy meddygfeydd – un o’r prif grwpiau o gleifion y mae’n nhw’n gofalu amdano yw cleifion lliniarol. Mae wir yn dibynnu ar yr hyn y mae eich meddygfa yn ei gynnig felly mae’n werth ei ddarganfod!
Felly, y tro nesaf dych chi’n cael gwahoddiad am wiriad iechyd, gwnewch apwyntiad!