Yn ei cholofn y tro yma, mae’r fferyllydd Irram Irshad yn dweud pam ei fod yn bwysig rheoli pwysedd gwaed (PG). Mae Irram wedi bod yn fferyllydd ers dros 20 mlynedd. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n gweithio mewn meddygfeydd yng Nghymoedd y de. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 10 mlynedd. Mae ei cholofnau yn edrych ar bethau fel diet, ymarfer corff, afiechydon tymhorol fel ffliw, ac iechyd meddwl.
Dych chi’n gwybod eich rhifau? Mewn geiriau eraill, dych chi’n gwybod beth yw eich pwysedd gwaed?
Mae wythnos yma (Medi 4-10) yn Wythnos Ymwybyddiaeth Pwysedd Gwaed – Gwybod eich Rhifau. Mae’n ymgyrch i godi ymwybyddiaeth pobl o’u pwysedd gwaed a beth ddylai fod. Mae’n bwysig rheoli pwysedd gwaed (PG). Mae PG uchel yn achosi cyflyrau difrifol sy’n peryglu bywyd, er enghraifft:
- Clefyd y galon
- Trawiad ar y galon
- Methiant y galon
- Clefyd y siwgr
- Strôc
- Ymlediad (Aneurysm)
- Clefyd yr arennau
- Dementia
- Problemau llygaid, e.e. glawcoma.
Mae’n bosib cael PG Uchel (gorbwysedd) ond heb gael symptomau. Dydy’r rhan fwyaf o bobl ddim yn gwybod bod ganddyn nhw PG Uchel. Mae un o bob pedwar oedolyn yn y Deyrnas Unedig efo PG Uchel ond heb symptomau.
Bydd y rhan fwyaf o bobl sydd wedi cael prawf PG yn gwybod eu bod yn cael dau ddarlleniad – yr un uchaf (systolig) a’r un isaf (diastolig).
Mae’r pwysau systolig yn dangos sut mae eich calon yn pwmpio gwaed o amgylch eich corff. Y diastolig yw’r pwysau rhwng curiadau’r galon. Mae’r ddau yn cael eu mesur mewn milimetrau o fercwri (mmHg).
Yn ddelfrydol, byddai gan bob un ohonom ni ddarlleniadau tua 120/80mmHg. Mae gan rai pobl PG isel sy’n normal iddyn nhw. Mae gen i nifer o gleifion sydd tua 90/60mmHg!
Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn dweud bod darlleniadau o hyd at 140/90mmHg yn y feddygfa yn iawn. Ond mae dau ddarlleniad uwch na hynny, bythefnos ar wahân fel arfer, yn golygu bod angen dechrau cymryd tabledi i helpu i ostwng eich PG.
Mae’r math o dabledi gwrth-gorbwyseddol (antihypertensive) sy’n cael eu rhoi yn dibynnu ar:
- eich oedran;
- os ydych chi’n cawcasaidd ai peidio (mae gwahanol feddyginiaethau yn gweithio’n well yn dibynnu ar ethnigrwydd);
- sut mae eich aren yn gweithio;
- pa mor uchel yw’ch PG.
Gyda rhai cleifion ry’n ni’n anelu at PG is, e.e. 130/70-80mmHg ar gyfer pobl efo diabetes. Mae PG uchel yn gallu cynyddu lefelau siwgr yn y corff.
Gallwch gael gwiriad PG yn eich meddygfa, mewn fferyllfa, efallai hyd yn oed yn y gwaith.
Fel arfer, mae angen cymryd meddyginiaeth gwrth-gorbwyseddol unwaith y dydd, gan ddechrau gydag un bob amser a chynyddu’r dos yn ôl yr ymateb. Dros amser ac wrth fynd yn hŷn, nid yw un feddyginiaeth gwrth-gorbwyseddol yn gallu rheoli PG ar ei ben ei hun. Felly ry’n ni’n ychwanegu gwahanol rai sy’n gweithio mewn ffordd wahanol i ostwng PG. Mae yna lawer o ffyrdd y gall ein cyrff achosi i PG gynyddu. Mae’r rhan fwyaf o fy nghleifion yn tueddu i fod ar ddau neu dri math o dabledi gwrth-gorbwyseddol heb lawer o sgil effeithiau.
Mae’n bwysig dweud bod rhai meddyginiaethau yn gallu cynyddu PG hefyd. Mae hyn yn cynnwys pethau fel steroidau, moddion llacio (decongestants), y bilsen atal cenhedlu, rhai cyffuriau gwrth-iselder fel Venlafaxine, rhai meddyginiaethau llysieuol (yn enwedig y rhai sy’n cynnwys licoris) a rhai cyffuriau fel cocên ac amffetamin.
Newidiadau i’ch ffordd o fyw
Nid yw tabledi gwrth-gorbwyseddol yn gallu gwneud y gwaith i gyd. Mae’n rhaid i ni eu helpu drwy wella ein ffordd o fyw. Mae’r newidiadau yma yn helpu i atal a lleihau gorbwysedd:
- Lleihau faint o halen dych chi’n bwyta bob dydd i 6g (0.2 owns) a diet iach yn gyffredinol (5 dogn o ffrwythau a llysiau’r dydd).
- Yfed llai o alcohol (dim mwy na 2 uned y dydd i ddynion a menywod).
- Colli pwysau os ydych chi dros eich pwysau a chadw mynegai màs corff (BMI) o 20-25.
- Ymarfer corff yn rheolaidd.
- Yfed llai o goffi.
- Rhoi’r gorau i ysmygu.
I gael rhagor o wybodaeth am newidiadau i’ch ffordd o fyw, darllenwch fy ngholofnau o fis Gorffennaf ar Lingo360 – Byw’n Iach, Rhannau 1 a 2.
Os nad ydych wedi cael prawf PG ers tro, ewch i’ch fferyllfa leol neu gofynnwch i’ch meddygfa. Yn aml mae peiriannau mewn ystafelloedd aros sy’n rhoi darlleniad i chi, felly does dim angen apwyntiad gyda meddyg neu nyrs.
Dewch i wybod eich rhifau!
Gwefannau defnyddiol:
Darganfod eich BMI www.nhs.uk/live-well/healthy-weight/bmi-calculator
Blood Pressure UK www.bloodpressureuk.org
British Heart Foundation www.bhf.org.uk
Gwefannau Bwrdd Iechyd Lleol i ddarganfod pa fferyllfeydd lleol sy’n rhoi gwasanaeth mesur PG.