Mae’r wythnos hon yn nodi pedair blynedd ers i fi gystadlu mewn cystadleuaeth Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf. Ac, yn anffodus, y tro olaf hefyd – gan fy mod i’n rhy hen erbyn hyn!
Yn ystod Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019, mi ges i’r fraint o gymryd rhan yng nghystadleuaeth Medal y Dysgwyr. Profiad sydd wedi newid fy mywyd yn llwyr ac wedi fy arwain at y gwaith dw i’n caru gwneud rŵan o ddydd i ddydd.
Dyma un o’r rhesymau pam dw i’n edrych ymlaen at fynd i Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin eleni, lle, am y tro cyntaf, mi fydda i’n gallu bod yn rhan o’r dathliadau trwy fy ngwaith, a fy rôl fel colofnydd i Lingo360.
Mae’n anodd coelio bod pedair blynedd wedi mynd heibio ers i fi brofi fy Eisteddfod gyntaf. Cyn dysgu Cymraeg, doeddwn i erioed wedi bod i’r Eisteddfod o’r blaen, neu feddwl am y posibilrwydd o gymryd rhan trwy gystadlu. Ond yn lwcus iawn, roedd genna’i diwtor arbennig wnaeth fy annog i wneud cais ar gyfer cystadleuaeth Medal y Dysgwyr – a hanes yw’r gweddill, fel maen nhw’n deud!
Heb os, mi fyswn i’n argymell cystadlu i unrhyw berson sydd ar daith i ddysgu Cymraeg. Mae’n gyfle anhygoel i gwrdd ag eraill sy’n gallu dallt ac uniaethu efo’ch profiadau chi o ddysgu a magu hyder. Mae hefyd yn ffordd hyfryd o ymgolli’ch hun yn y Gymraeg. Ond ar ben hyn i gyd, mae’n gyfle perffaith i ddathlu siaradwyr newydd a’u cariad tuag at yr iaith.
Croeso i’r clwb!
Mor braf yw clywed am bawb sydd wedi cystadlu eleni ar gyfer Medal Bobi Jones a Medal y Dysgwyr – ac yn enwedig oherwydd fy mod i’n gallu uniaethu cymaint efo’u profiadau nhw o ddisgyn mewn cariad efo’r Gymraeg. Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cymryd rhan eleni, a chroeso i’r clwb!
Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at fynd i Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon. Bob tro mae’n teimlo fel dw i’n mynd adra i le dechreuodd popeth, a dw i wastad yn dod ag atgofion melys yn ôl.
Dw i’n gobeithio fy mod i’n gallu creu mwy o atgofion braf eleni wrth i mi fynd lawr i Lanymddyfri am y tro cyntaf i ymuno yn yr hwyl. Eleni, mi fydda i’n ymweld â maes yr Eisteddfod fel rhan o fy ngwaith efo Cyngor Llyfrau Cymru wrth i ni gyhoeddi enillydd gwobrau Tir na n-Og ddydd Iau, 1 Mehefin am 3 o’r gloch. Mi fydd y seremoni arbennig hon yn cael ei chynnal yn yr Arddorfa lle bydd enillydd y categori cynradd, uwchradd a’r tlws Barn y Darllenwyr yn cael eu cyhoeddi. Dw i methu disgwyl!
A chyn y seremoni arbennig yn y prynhawn, mi fydda i hefyd yn cael y cyfle i rannu fy nghariad tuag at ddarllen a llyfrau, cerddoriaeth ac, wrth gwrs, dysgu Cymraeg, mewn digwyddiad arbennig sydd wedi cael ei threfnu gan dîm lingo newydd.
Felly, mae croeso i unrhyw un ar y maes i ymuno â ni am 11 o’r gloch yfory (dydd Iau, 1 Mehefin) yn yr Arddorfa – dewch yn llu am gyfle i sôn am lyfrau, cerddoriaeth a’ch taith dysgu!