Ers dod yn ôl o Rufain, dw i wedi cael yr ‘holiday blues’ sydd wastad yn digwydd ar ôl trip arbennig. Felly diolch byth am yr Eisteddfod! Un o fy hoff adegau o’r flwyddyn, a’r peth perffaith i godi calon.

Fel llawer iawn o bobl ar draws y wlad, dw i’n edrych ymlaen yn fawr at ymweld â maes yr Eisteddfod wythnos nesaf. A dw i bendant yn argymell i unrhyw un sydd yn newydd i’r byd dysgu Cymraeg i fynd draw i Foduan i ymuno yn y dathliadau ac, wrth gwrs, ymweld â Maes D.

Francesca yn ennill Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd 2019

Dim ond ers 2019 dwi wedi bod yn mynd i’r Eisteddfod. Mae bob un ers hynny wedi bod yn gofiadwy ac arbennig i mi am resymau gwahanol. Mae’r Urdd a’r Genedlaethol wedi dod a chyfleoedd newydd i mi fel siaradwr newydd – o gystadlu a chymryd rhan mewn digwyddiadau a phaneli, i’r fraint o arwain ar lwyfannau a chael fy urddo i’r Orsedd.

Mae’r cyfleoedd yma i gyd wedi fy helpu i weld yr Eisteddfod o safbwyntiau gwahanol a difyr, a phob un wedi fy helpu i deimlo’n rhan o gymuned o siaradwyr Cymraeg – gydol oes a newydd.

Heb os, mae bob Eisteddfod wedi dod â her newydd i fi ar fy nhaith dysgu, ac fel person yn gyffredinol o ganlyniad. A sôn am heriau… mae blwyddyn yma yn cynnig antur fach arall i fi ar y maes.

Am y tro cyntaf, mi fydda i’n gweithio ar stondin yn yr Eisteddfod – rhywbeth dw i wedi bod isio gwneud ers blynyddoedd! A stondin arbennig iawn i lyfrbryf fel fi – stondin Cyngor Llyfrau Cymru!

Bob blwyddyn pan dw i’n cael map o’r maes, dw i’n chwilio am fy hoff stondinau, gan gynnwys stondin Cyngor Llyfrau Cymru. Ac ers ymuno â’r Cyngor tua chwe mis yn ôl, dw i wedi bod yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r cyffro o fod ar faes yr Eisteddfod.

Francesca yn cael ei hurddo i’r Orsedd

 

Dw i’n cofio’r tro cyntaf i mi fod ar faes Eisteddfod a gweld y stondinau a’r stondinwyr i gyd, ac wedi meddwl faint fyswn i’n licio gwneud rhywbeth fel yna.

Mwy nag unrhyw beth arall, dw i’n edrych ymlaen at sgwrsio efo pobol am lyfrau ac i ychwanegu un neu ddau lyfr i fy mhentwr darllen.

Felly os ydych chi’n mynd i’r maes wythnos nesaf, dewch i ddeud helo wrthym ni ar stondin y Cyngor Llyfrau lle bydd eich hoff lyfr newydd yn disgwyl amdanoch chi!