Mae mis Chwefror eleni yn Fis Hanes LGBTQ+: yr amser perffaith i ddathlu cariad a chydraddoldeb. Mae hefyd yn gyfle i ddysgu mwy am fywydau a hanes y gymuned LGBTQ+ yng Nghymru a thu hwnt.

Un o’r llefydd gorau i ddechrau, yn fy marn i, yw llyfrau. Trwy ddarllen llyfrau ffeithiol, straeon ffuglen, a hunangofiant, rydyn ni’n gallu anrhydeddu, cofio, a dathlu bywydau – gorffennol a phresennol – y gymuned LGBTQ+.

Felly, dw i wedi bod yn meddwl am y llyfrau fyswn i’n argymell i eraill eu darllen, a’r llyfrau sydd dal ar fy rhestr i.

Wrth ddechrau efo llyfrau ffuglen (achos dyma fy hoff fath o lyfrau!), mi fyswn i bendant yn argymell Shuggie Bain a Young Mungo gan Douglas Stuart. Dyma awdur hynod o dalentog am greu cymeriadau cofiadwy. Mae’n bosib bod y ddau lyfr yma yn gallu cael eu hystyried fel ffuglen hanesyddol, gan fod y ddau wedi’u gosod mewn hanes diweddar.

Mae’n anodd dod o hyd i eiriau addas i ddisgrifio pa mor bwerus a phwysig ydy straeon y prif gymeriadau. Ac, ar adegau, mae’n anodd darllen, ond mi fyswn i bendant yn argymell dal ati. Efallai cadw hances wrth ymyl rhag ofn!

Tinman gan Sarah Winman yw ffefryn arall sydd wedi’i gosod mewn hanes diweddar. Yn debyg i lyfrau Douglas Stuart, mae’r cymeriadau yn Tinman yn aros yn y cof am amser hir ar ôl cau’r llyfr, ac yn stori deimladwy iawn.

The Queens of Sarmineto Park a Our Wives Under the Sea

Dau lyfr cyfoes sy’n cadw lle pwysig ar fy silffoedd llyfrau oherwydd fy mod i wedi eu mwynhau cymaint yw Our Wives Under the Sea gan Julia Armfield a The Queens of Sarmiento Park gan Camila Sosa Vilada. Llyfrau modern sydd hefyd efo elfennau o ffantasi. Y prif themâu yn y ddau lyfr yw cryfder cariad. Mae cloriau’r llyfrau mor, mor hardd hefyd.

Mae’n wir werth darllen tu ôl i’r awyr gan Megan Angharad Hunter. Mi wnes i fwynhau’r llyfr yma gymaint am sawl rheswm. Un o’r prif bethau sy’n ei wneud mor arbennig yw’r ffordd mae’r cymeriadau yn adrodd eu hanes a theimladau. Mae teimladau a meddyliau’r prif gymeriadau weithiau’n gyfrinachol iawn ond mae’r adegau pan mae’r cymeriadau’n gallu rhannu eu teimladau a dangos dewrder yn bwerus iawn.

Hoffwn i ddarllen Giovanni’s Room gan James Baldwin, a Carol neu The Price of Salt gan Patricia Highsmith rywbryd eleni. Mae’r ddau lyfr yma yn cael eu hystyried fel clasuron modern. Mae’r cymeriadau a’r awduron yn lleisiau pwysig mewn hanes ac yn lleisiau cryf, dewr ac arbennig iawn.

I droi at lyfrau ffeithiol neu hunangofiant, mae On the Red Hill gan Mike Parker hefyd ar fy rhestr a Y Daith Ydi Adra gan John Sam Jones. Maen nhw’n llyfrau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru neu efo safbwynt Cymraeg. Maen nhw hefyd yn cyfuno themâu dewrder, cariad, dod o hyd i gartref, a balchder.

Felly dyma restr fer o ddeg llyfr fyswn i’n argymell eu darllen: dw i’n gobeithio fy mod i wedi eich perswadio i fynd at eich silff lyfrau, siop lyfrau lleol neu lyfrgell. Ac os dw i wedi, dw i hefyd yn gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r darllen!