Alison Cairns ydy Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.

Cafodd ei henw ei gyhoeddi o lwyfan y Pafiliwn Mawr heddiw (dydd Mercher, Awst 9).

Cafodd 29 o bobol o Gymru a thu hwnt eu cyfweld eleni – mwy nag erioed o’r blaen.

Y beirniaid oedd Liz Saville Roberts, Geraint Wilson Price a Tudur Owen.

Y tri arall ddaeth i’r brig oedd Roland Davies o Lanidloes, Manuela Niemetscheck o Fethesda a Tom Trevarthen o Aberystwyth.

Alison Cairns

Mae Alison Cairns yn dod o’r Alban yn wreiddiol, ond mae hi’n byw yn Llannerchymedd ar Ynys Môn nawr.

Mae hi’n fam i saith o blant, ac yn byw ei bywyd yn Gymraeg ac yn gweithio mewn gofal. Mae’n bwysig ei bod hi’n siarad Cymraeg gyda chleifion.

Roedd hi wedi dysgu Cymraeg wrth wrando ar Radio Cymru, gwylio S4C a darllen llyfrau ei merch.

Dydy hi erioed wedi cael gwers Gymraeg.

Mae hi’n mwynhau gweithio gyda cheffylau a chic-bocsio, yn gneifiwr profiadol.

Bydd Alison a’i phartner Siôn yn priodi yn yr hydref.

Mae hi’n ennill £300 sydd wedi cael ei roi gan Gyngor Tref Pwllheli.

Mae’r tri arall yn cael £100 gan Gyngor Tref Pwllheli hefyd.

Bydd y pedwar yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan y mudiad Merched y Wawr.