Dych chi’n hoffi darllen? Dych chi’n hoffi stori efo tro yn ei chynffon? Mae Y Daith yn gasgliad o 10 stori fer wedi cael eu hysgrifennu gan ddysgwyr i ddysgwyr. Mae’r straeon yn addas ar gyfer dysgwyr Canolradd. Mae geirfa ar bob tudalen ac ar ddiwedd y llyfr. Mae’r prosiect yn rhan o’r Gyfres Amdani i ddysgwyr.

Cafodd y straeon eu creu fel rhan o brosiect gan Lenyddiaeth Cymru. Y syniad oedd cael dysgwyr i ysgrifennu yn ystod cyfnod y clo. Dechreuodd prosiect ‘Creu Drwy’r Covid’ yn ystod haf 2020 gyda Mared Lewis yn arwain y prosiect. Mae hi hefyd yn awdur llyfrau i ddysgwyr ac yn diwtor Dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Mae Mared Lewis yn dweud bod y straeon yn “mynd â ni i bedwar ban byd”. Mae un stori wedi’i lleoli yn Seland Newydd, un arall yn Fiena yng nghyfnod y llen haearn – ac un yn Llandudno.

Roedd y deg awdur wedi dod at ei gilydd ar-lein mewn gweithdai ysgrifennu dros chwe wythnos.

“Roedd hi’n bleser gweithio efo’r criw, trafod syniadau ar gyfer storïau byrion ac i ddarllen y gwaith ro’n nhw’n ei greu. Mae’n wych gweld bod eu straeon bellach yn llyfr y bydd dysgwyr eraill yn gallu ei fwynhau,” meddai Mared.

Yma mae rhai o’r awduron yn dweud mwy am eu straeon…

Sue Hyland

Mae Sue Hyland yn byw yn Llidiart-y-Waun wrth ymyl Llanidloes. Mae hi’n dod o Swydd Stafford yn Lloegr yn wreiddiol.

Dechreuodd Sue ddysgu Cymraeg gyda’i gŵr ar ôl symud i Gymru ym mis Mawrth 2012.  Roedd hi eisiau gwybod sut i ynganu enwau’r lleoedd i ddechrau. “Ond ar ôl chwech mis roedden ni’n hooked,” meddai hi.

Mae hi wedi ennill dwy wobr am sgrifennu – un yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2015 ac eto yn Eisteddfod Caerdydd 2018. “Dw i’n hoffi sgrifennu,” meddai Sue Hyland.

“Dw i’n gwneud cymaint â phosib yn yr iaith Gymraeg,” meddai.

Stori am wraig o’r enw ‘Siwan’ yw hon. Mae hi’n dial ar ei gŵr anffyddlon.

Mae Sue eisiau sgrifennu llyfr am ei phrofiadau fel stiwardes awyren yn yr 1980au. “Roedd llawer o storïau doniol wedi digwydd i mi pan oeddwn i’n hedfan,” meddai.

Colin Hughes

Mae Colin Hughes yn gyn-Athro Microbioleg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Roedd o wedi byw yn Fiena a’r Almaen am saith mlynedd.

“Dw i wrth fy modd yn darllen llenyddiaeth ac yn awyddus i roi cynnig ar sgrifennu yn Gymraeg,” meddai Colin Hughes. Mae o’n byw yng Nglyn Garth yn Ynys Môn. Mae’n dod yn wreiddiol o Fagillt ar Lannau Dyfrdwy.

Mae o wedi sgrifennu stori fer am Gymro ifanc sy’n cyrraedd fel ysbïwr yn Fiena yn ystod y Rhyfel Oer rhwng Gorllewin a Dwyrain Ewrop.

“Mae pobol yn gyfarwydd â’r llyfr The Third Man sydd wedi’i osod yn Fiena. Mae fy stori yn seiliedig (i raddau!) o amgylch fy mhrofiad fy hun pan o’n i yn gweithio yn Fiena, fy swydd gyntaf. Y ddinas oedd calon ysbïo.

“Roeddwn i’n chwarae rygbi yno, a bron bob gêm roedd rhaid i mi deithio i wledydd tu ôl y Llen Haearn. Cefais brofiadau rhyfedd a chymhleth fel arfer, ond hynod ddiddorol.”

Mae Colin hefyd yn siarad Almaeneg.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg 10 mlynedd yn ôl.

Julie Pearce

Mae Julie Pearce yn dod o Swydd Henffordd (Herefordshire) yn wreiddiol. Cafodd ei magu ar fferm yn Surrey, ac mae hi rŵan yn byw yn Aberbechan wrth ymyl y Drenewydd.

Roedd yn was sifil yn San Steffan am 20 mlynedd.  Mae hi rŵan yn rhedeg busnes cabanau gwyliau yn Llanllwchaearn ers 10 mlynedd.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg 10 mlynedd yn ôl ar ôl symud i fyw i Gymru.  Roedd Julie wedi cwrdd â Chymro yn Seland Newydd 15 mlynedd yn ôl. Er nad yw ei gŵr yn siarad Cymraeg, roedd hi eisiau dysgu’r iaith. “Mae o wedi agor lot o ddrysau i mi o ran y gymdeithas leol,” meddai, “ac mae o wedi bod yn beth da i’w wneud.”

Stori am unigedd gwraig yn ystod y pandemig yw ‘Brecwast yn y Cyfnod Clo’.

“Dim ond fi oedd yn sgrifennu am y cyfnod clo,” meddai Julie. “Roedd hynny achos dyna roeddwn i’n ei fyw ar y pryd. Roedd e’n cymryd dros bopeth arall i mi.”

Er mwyn ymarfer ei Chymraeg mae Julie yn mynd i gyfarfodydd Merched y Wawr ac mae hi’n drefnydd y clwb darllen, Clwb Eiddew, sy’n cwrdd mewn caffi o’r enw The Ivy House.

“Dw i’n disgrifio fy hun fel dwyieithog, rŵan,” meddai. “Dw i ddim yn rhugl iawn, ond does neb yn rhugl iawn! Dw i’n trio, ac yn trio cadw at y Gymraeg a gwneud cymaint â phosib.”

Monty Slocombe

Mae Monty Slocombe yn gyn-blismon. Mae’n ysgrifennu colofn ym mhapur bro ardal Wrecsam, Y Pentan (o’r enw ‘Dysgwr o Wlad yr Haf’) ers 12 mlynedd. Mae’n dweud ei fod yn “browd iawn” o weld ei stori mewn print am y tro cyntaf.

“Sais ydw i, ond ro’n i wedi byw yng Nghymru ar ôl y rhyfel,” meddai. “Roedd wastad gen i ddiddordeb mewn iaith a diwylliant Cymraeg. Roeddwn i wedi penderfynu tua 15 mlynedd yn ôl i wneud job go dda o ddysgu’r iaith.”

Dechreuodd weithio gyda’r Heddlu yn Lerpwl yn y 1960au cynnar. Roedd wedi symud i weithio i Wrecsam yn 1967, ac yna ar y bît yn Llandudno, cyn gweithio yn y pencadlys ym Mae Colwyn.

Mae o wedi seilio ei stori fer ar ddwy siop a oedd yn arfer bod drws nesa i’w gilydd yng Nghyffordd Llandudno – siop llysiau a ffrwythau a siop bapur newydd. Un diwrnod, dyma berchennog y siop bapur newydd yn dechrau gwerthu llysiau, a dyma hyn yn arwain at gweryla rhwng y ddau. “Roedd o’n reit ddigri,” meddai Monty Slocombe. “Ro’n i yn adeiladu’r stori o hyn, ac yn ychwanegu lot o ddychymyg!”

Y Daith: Straeon i Ddysgwyr gan Ddysgwyr, Y Lolfa, £7.99

Mi fedrwch chi ddarllen y cyfweliadau’n llawn ar Golwg+