Dach chi’n dysgu Cymraeg? Dach chi eisiau’r cyfle i gael sgwrs yn y Gymraeg? Mae gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gynllun o’r enw ‘Siarad’.
Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i ddysgwyr gael mwy o hyder trwy sgwrsio yn Gymraeg.
Mae’r cynllun wedi bod mor llwyddiannus mae cannoedd o ddysgwyr rŵan yn aros i gael eu paru gyda siaradwyr Cymraeg. Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi apelio am fwy o siaradwyr Cymraeg i ymuno efo’r cynllun.
Maen nhw eisiau i bobl roi tua deg awr dros gyfnod o wythnosau a misoedd. Mae hynny’n gallu bod yn sgwrsio dros baned, mewn gêm bêl-droed, yn y côr, wrth fynd am dro neu le bynnag sy’n apelio.
Mae’r dysgwyr sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn dilyn cyrsiau lefel Canolradd, Uwch neu Gloywi, sy’n golygu eu bod nhw’n gallu cynnal sgwrs yn gyfforddus yn Gymraeg.
Mae Victoria a Helen yn bartneriaid sgwrsio yn y cynllun ‘Siarad’. Maen nhw wedi bod yn cyfarfod ers blynyddoedd ac yn ffrindiau. Yma maen nhw’n ateb cwestiynau am y cynllun…
Pam wnaethoch chi benderfynu cymryd rhan yn y cynllun Siarad?
Helen: Roeddwn i eisiau helpu dysgwr tu allan i’r dosbarth. Fues i’n lwcus iawn i gael fy mharu gyda Vicky, gan fod llawer gyda ni’n gyffredin.
Victoria: Roeddwn i eisiau sgwrsio am fy niddordebau a chwrdd â siaradwyr Cymraeg newydd.
Sut oeddech chi yn teimlo cyn y cyfarfod cyntaf?
Helen: Roeddwn i ychydig bach yn nerfus cyn y cyfarfod cyntaf – a’r cwestiynau oedd yn mynd trwy fy meddwl oedd ‘Pa mor dda fuasai Cymraeg Vicky?’ ‘A fyddai hi’n fy neall i?’ ‘A fyddai digon gyda ni i ddweud wrth ein gilydd?’ ac ati.
Victoria: Roeddwn yn teimlo braidd yn nerfus nad oedd fy Nghymraeg yn ddigon da ond roedd Helen mor gyfeillgar gyda synnwyr digrifwch da!
Ydych chi’n cofio beth wnaethoch chi drafod yn y cyfarfod cyntaf? Pa mor hawdd oedd cynnal sgwrs?
Victoria: Fe wnaethon ni gyfarfod ar Zoom a sgwrsio’n hawdd. Mae Helen mor ddiddorol i siarad gyda hi ac mae gennym ni lawer yn gyffredin fel nofio a choginio a bywyd Sir Benfro.
Helen: Unwaith ddechreuon ni siarad doedd dim stop arnom ni. Roedd yr awr wedi hedfan. Benderfynon ni gyfarfod wedyn bob nos Wener am bump o’r gloch.
Siaradon ni am ein hardaloedd, dysgu Cymraeg, nofio gwyllt, coginio, teledu, ffilmiau.
Lle ydych chi wedi cyfarfod ers dechrau’r cynllun?
Victoria: Wnaethon ni gyfarfod ar-lein yn ystod y cyfnod clo ond yna aethom i warchodfa natur ac roedd Helen mor gyffrous i weld glas y dorlan. Es i hefyd i’w thref enedigol, Aber-porth, a chawsom swper a sgwrsio ar daith gerdded.
Helen: Ces i fy synnu a dweud y gwir – mae Victoria yn gweithio fel parcmon i Barc Cenedlaethol Sir Benfro. Roedd ganddi ap ar ei ffon oedd yn dweud enw pob planhigyn a blodyn. Yng Nghilgerran, daeth Chris, dyweddi Vicky, gyda ni a dysgodd y ddau fi am synau gwahanol adar a ffeithiau am yr holl anifeiliaid. Felly dw i wedi gallu helpu Vicky gyda’i Chymraeg ac mae hi’n fy nysgu i am fyd natur.
Beth ydy’r peth gorau am y cynllun?
Helen: I mi, cyfle i siarad yn rhydd a chwerthin! A chael ffrind newydd. Nid gwers sy eisiau ond sgwrs naturiol – mae hynny yn beth braf.
Victoria: Y peth gorau am y cynllun yw gwneud ffrind newydd a magu hyder wrth sgwrsio.
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn apelio am bobl ar draws Cymru i ymuno yn y cynllun Siarad. Os dach chi’n siaradwr Cymraeg neu’n dysgu Cymraeg ac eisiau cael eich paru gyda siaradwr Cymraeg mi fedrwch chi gofrestru trwy fynd i wefan Dysgu Cymraeg dysgucymraeg.cymru/dysgu/siarad/ neu e-bostio swyddfa@dysgucymraeg.cymru