Dych chi’n hoffi sgwrsio efo pobol i ymarfer eich Cymraeg? Dych chi’n hoffi mynd i’r dafarn leol am beint? Mae cyfle i wneud y ddau yn nhafarn Ty’n Llan yn Llandwrog wrth ymyl Caernarfon.

Mae Ty’n Llan yn dafarn gymunedol. Cafodd ei phrynu gan dros 1,000 o bobol y llynedd.  Rŵan mae’n ganolfan gymunedol ac mae llawer o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yno.

Mae Ty’n Llan yn cynnal sesiynau sgwrsio ar gyfer dysgwyr bob mis. Mae gwirfoddolwyr lleol yn cynnal y sesiynau sgwrsio.

Un o’r gwirfoddolwyr sy’n cymryd rhan yn y sesiynau sgwrsio ydy Rosalind Temple. Mae hi’n dod o Swydd Hertford yn wreiddiol. Roedd hi wedi dechrau dysgu Cymraeg tua 30 mlynedd yn ôl pan oedd hi’n dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y 1990au.

Mae hi’n byw yn Llandwrog ar hyn o bryd. Mae hi wedi cymryd blwyddyn sabothol o’i swydd ym Mhrifysgol Rhydychen i wneud gwaith ymchwil. Mae hi’n ddarlithydd mewn ieithyddiaeth a Ffrangeg yn y brifysgol.

“Dw i wrth fy modd yn Llandwrog, mae’n lleoliad braf,” meddai Rosalind.

“Ty’n Llan sy’n gwneud y lle, mae’n gyfle i gyfarfod pobol. Dim ond drwy hap a damwain wnes i ddod yma i fyw. Roedd ffrind wedi cynnig ei thŷ i fi tra roeddwn i’n cymryd blwyddyn sabothol. Pan wnes i symud i’r pentref roeddwn i eisiau ymuno gyda grwpiau i ddod i adnabod pobol.”

Ty’n Llan, Llandwrog

‘Sgyrsiau’n llifo’

Mae Rosalind hefyd wedi ymuno a’r Grŵp Cerdded sy’n cael ei gynnal gan y dafarn.

“Mae’n rhywbeth cymdeithasol i fi ond roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl a dyna pam dw i’n gwirfoddoli yn y sesiynau sgwrsio. Mae’r bobl sydd yn rhugl yn fodlon aros i chi ddweud rhywbeth a gofyn cwestiynau a does neb yn beirniadu. Mae pobol yn dod o bell i’r sesiynau sgwrsio. Mae rhai meddygon ifanc o Fangor yn dod yma sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg efo SaySomethinginWelsh a Duolingo. Mae’n help bod mewn sefyllfa lle dych chi’n clywed pobol yn siarad Cymraeg. Mae rhai pobol jest eisiau ymarfer ond mae’n lot o hwyl hefyd. Dydy o ddim yn teimlo fel dosbarth.”

Mae Rosalind yn credu bod siarad yr iaith yn bwysig ac mae hi’n annog unrhyw un i ddod i’r sesiynau sgwrsio.

“Maen nhw’n anffurfiol ond mae Ifan [Prys, y trefnydd] yn paratoi taflenni efo pynciau sgwrsio, a cwestiynau syml fel ‘lle dach chi’n mynd ar eich gwyliau?’. Ond mae’r sgyrsiau yn llifo yn iawn.

“Dw i’n dweud wrth bobol am ddod draw. Os dych chi ddim yn siarad yr iaith dim ond hyn a hyn o gynnydd wnewch chi. Mae’n rhan bwysig o ddysgu’r iaith.”

Ty’n Llan, Llandwrog

Hanes y dafarn

Mae adeilad Ty’n Llan wedi bod yn Llandwrog ers yr 1860au. Mae’n adeilad rhestredig Gradd II. Yn 2017 roedd y dafarn wedi cau. Dyma oedd yr unig le lle’r oedd pobol leol yn gallu cymdeithasu. Roedd ar werth ond doedd neb wedi ei phrynu. Wedyn yn 2021 aeth ar werth eto ar ôl i berchennog y dafarn farw. Roedd llawer o bobol leol wedi dod at ei gilydd i drio prynu’r dafarn.

Mae Wyn Roberts yn aelod o bwyllgor Ty’n Llan.

“Dan ni’n berchen y dafarn ers Mehefin 30 y llynedd, felly dros flwyddyn rŵan. Roedd dipyn o waith i wneud fel tacluso’r ardd, glanhau, paentio a thrio cael y lle yn addas i agor. Roedd wedi bod yn wag ers tua phedair blynedd. Wnaethon ni agor ar Ragfyr 18.

“Mae gynnon ni lawer o glybiau erbyn hyn – y clwb ar gyfer dysgwyr Cymraeg, clwb sgwrsio Ffrangeg, clwb cerdded, clwb ymarfer corff a chlwb i bobol ifanc i ddysgu sgiliau fel gwaith ffilmio, a dylunio graffeg.

“Rydan ni wedi bod yn gwneud bwyd ers tua thair wythnos. Mae hynny’n mynd yn dda iawn ac wedi denu mwy o bobol i mewn. Mae’r ardd gwrw wedi bod yn brysur hefyd yn y tywydd braf yma. Mae cymysgedd reit dda o bobol yn dod yma – mae pobol o’r ardal leol a Chaernarfon, nid jest o’r pentre’. Rydan ni tua milltir o Dinas Dinlle ac mae ymwelwyr o’r maes carafanau yn dod yma hefyd.

“Roedd pobol wedi methu’r lle achos roedd yn le neis i gwrdd â phobol. Mae pawb wedi bod yn gefnogol iawn o be rydan ni’n trio gwneud.”

Gwirfoddolwr ifanc yn helpu i baentio Ty’n Llan, Llandwrog