Dych chi’n dysgu Cymraeg ond yn ei chael hi’n anodd ffeindio pobl i sgwrsio efo? Dych chi eisiau ymarfer eich Cymraeg a chael hwyl yr un pryd?
Mae Gwib Sgwrs wedi cael ei threfnu yn Ninbych yfory (dydd Sadwrn, 18 Mehefin). Mae Gwib Sgwrs yn rhan o Ŵyl Tŷ Gwyrdd. Mae Menter Iaith Sir Ddinbych hefyd yn rhan o’r ŵyl. Mae’r ŵyl yn hybu cynhyrchwyr lleol, o fwyd i grefftau, a’r iaith Gymraeg.
Mae Nerys Ann Roberts yn diwtor efo Popeth Cymraeg yn Ninbych. Mae hi’n dweud mwy am Gwib Sgwrs.
“Mae Gwib Sgwrs fel speed dating ond yn speed chatting. Mi fydd un dysgwr ac un person sy’n rhugl yn y Gymraeg yn eistedd bob yn ail mewn cylch. Mi fyddan nhw’n cael tua thri munud i siarad efo’i gilydd. Mae gen i hen gloch ysgol. Pan mae’r gloch yn canu mae pawb yn symud ymlaen at y person nesaf. Mae’n golygu eu bod nhw’n gallu dweud yr un peth drosodd a throsodd. Mae’n llai o straen i ddysgwyr yn lle trio cadw’r sgwrs i fynd am amser hir. Mae’n hwyl ac maen nhw’n dysgu yr un pryd.”
Sgwrsio
Mae Nerys yn dweud: “Cael sgwrs ydy’r peth anodd. Dydy rhai dysgwyr ddim yn cael y cyfle i gael sgwrs yn Gymraeg ar wahân i’r dosbarthiadau. Mae rhai o fy nysgwyr i yn mynd i Merched y Wawr er mwyn siarad efo pobol. Mae jest yn fater o gael hyder ac ymuno efo pethau. Dych chi wedyn yn dod yn rhan o’r gymuned.”
Mae Sue Lewis wedi dysgu Cymraeg ac yn byw yn Ninbych. Mae hi’n dweud: “Mae’n anodd iawn ffeindio pobol i gael sgwrs efo, bob dydd. Dw i angen ymarfer mwy, ac mae Gwib Sgwrs yn gyfle ardderchog i siarad efo pobol glên iawn.”
Ar ôl Gwib Sgwrs, sy’n dechrau am 10yb, fe fydd cyfle am baned a sgwrs pellach wedyn.
Gŵyl Tŷ Gwyrdd
Mi fydd cyfle i bobl ymuno yn y digwyddiadau sydd wedi cael eu trefnu fel rhan o’r ŵyl yn ystod y dydd.
Mae’r Tŷ Gwyrdd yn siop dim gwastraff yn Ninbych. Dyma’r tro cyntaf i Wyl Tŷ Gwyrdd gael ei chynnal. Bydd cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai lles a ioga, bwyd, a fforio.
Mae Mair Jones yn rhan o’r tîm cymunedol sydd wedi trefnu’r ŵyl.
“I feddwl mai dyma’r ŵyl gyntaf, mae’n uchelgeisiol iawn. Yn y pnawn mi fydd yna ddigwyddiad sy’n dechrau dod yn fwy poblogaidd, sef Cynulliad y Bobl. Dyma le mae cymunedau yn dod at ei gilydd ac yn gofyn ‘be fedrwn ni wneud yn lleol?’.
“Mae tyfu bwyd lleol yn rhywbeth mae llawer o bobl yn siarad amdano ar hyn o bryd. Mi fydd tri o bobl yn siarad am hyn yn ystod Cynulliad y Bobl. Mae un yn ffermwr lleol sy’n gweithio’n galed i newid o ffermio traddodiadol i ffermio yn fwy cynaliadwy. Mi fydd rhywun o’r cynllun Incredible Edible yn siarad efo ni. Dyma le mae cymunedau yn dod at ei gilydd i dyfu bwyd yn y llefydd mwya’ anhygoel yn y gymuned. A bydd Bwyd Dros Ben Aber [Aber Food Surplus] yn Aberystwyth hefyd yn son am eu cynllun nhw. Roedden nhw wedi dechrau tua 5 mlynedd yn ôl. Maen nhw’n cymryd bwyd o’r archfarchnadoedd fyddai’n mynd yn wastraff. Maen nhw wedyn yn ei ddosbarthu yn y gymuned leol. Maen nhw’n ysbrydoledig iawn. Y gobaith ydy rhoi syniadau ac ysbrydoli pobl yn enwedig yn y cyfnod yma o brinder bwyd a phrisiau bwyd yn cynyddu.”
Mae gweithgareddau Gŵyl Tŷ Gwyrdd yn dechrau am 9am yn Eirianfa, Dinbych. Gyda’r nos bydd cerddoriaeth fyw a DJs yn y Guildhall Tavern am 5pm ymlaen.