Mae Bethan Lloyd, golygydd Lingo newydd, wedi bod yn siarad gyda dau actor o’r gyfres ddrama Rownd a Rownd ym Mhabell y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych…
Mae Catrin Mara a Huw Llŷr Roberts yn actio yn Rownd a Rownd.
Mae Catrin Mara yn chwarae rhan y brifathrawes Elen Edwards yn Ysgol Glanrafon.
Mae Huw Llŷr Roberts yn chwarae rhan gofalwr yr ysgol, Vince Barclay.
Mae Rownd a Rownd yn cael ei ffilmio ar set ym Mhorthaethwy a Llangefni yn Ynys Môn, ac yng Nghaernarfon. Roedd Rownd a Rownd wedi dechrau yn 1995.
Roedd Catrin Mara wedi actio yn Rownd a Rownd yn 1997 pan oedd hi’n 17 oed. Roedd hi wedi chwarae’r cymeriad Donna. Roedd ei chymeriad wedi cael ei lladd yn y ddrama. Roedd Catrin wedi mynd yn ôl i Rownd a Rownd yn 2019 yn chwarae cymeriad newydd.
Mae Huw Llŷr wedi bod yn actio yn y gyfres ers 2005.
Covid
Yn ystod cyfnod Covid, roedd yn rhaid i’r cwmni cynhyrchu Rondo wneud llawer o newidiadau er mwyn gallu cario ymlaen i ffilmio.
Pan oedd Vince (cymeriad Huw Llŷr) yn cael affer gyda Kay Walsh (Buddug Povey) yn y ddrama, doedd y ddau actor ddim yn cael cusanu ei gilydd. Mae gwraig Huw Llŷr, Ellen Gwynne, hefyd yn actio yn Rownd a Rownd. Mae hi’n chwarae’r cymeriad Gwenno Owen. Roedd hi wedi cymryd rhan Kay ar gyfer yr olygfa lle’r oedden nhw’n cusanu. Roedd hi wedi gwisgo dillad a wig er mwyn edrych fel Kay.
Roedden nhw hefyd wedi gorfod defnyddio sgriniau gwydr tenau rhwng yr actorion fel eu bod nhw’n gallu edrych fel eu bod yn agos at ei gilydd.
Yn ystod y sgwrs gyda Lingo newydd roedd Catrin Mara a Huw Llŷr hefyd yn dweud pa mor anodd oedd gwneud colur eu hunain.
Roedd Huw Llŷr hefyd yn dweud pam ei fod o wedi dechrau actio.
Mi fedrwch chi ddarllen mwy am Rownd a Rownd yn rhifyn Mehefin – Gorffennaf o Lingo newydd. Mae Mari Wyn Roberts, sy’n chwarae y Ditectif Arolygydd Siân Richards yn y gyfres yn dweud beth mae hi’n hoffi yn Dw i’n Hoffi…