“Lle ydw i’n dechrau dysgu Cymraeg?” Dyna gwestiwn dw i wedi wynebu sawl gwaith: cwestiwn syml iawn, ond hefyd un sydd yn anodd ei ateb. Fel arfer, dw i’n mynd yn rhy gyffrous ac yn trio rhestru bob math o adnoddau gwahanol sydd wedi helpu fi ar fy nhaith i ddysgu’r iaith. Y gobaith ydy sbarduno diddordeb yn y Gymraeg.
“Dod o hyd i ddosbarth Cymraeg yn dy ardal di neu ar-lein,” yw’r ateb clir a thaclus, ar ôl i mi fynd dros ben llestri yn rhestru gwefannau, llyfrau a chylchgronau dw i wedi defnyddio fy hun ac yn caru.
Wrth gwrs, mae’n bwysig i fod yn gyffrous am ddysgu’r iaith. Mae hefyd yn gallu bod yn broses anodd ar y dechrau: rydyn ni gyd yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol ac ar ein cyflymder ein hunain.
Yn fy mhrofiad i, y cyfleoedd tu allan i’r dosbarth i sgwrsio, gwrando ac ymarfer yr iaith sydd wedi bod yn bwysig iawn. Ar y cyfan, cyfleoedd cymdeithasol yw’r gorau, ond hefyd, i fi yn bersonol, mae gwneud pethau fel gwrando ar y radio yn gallu bod yn rhan o’r drefn ddyddiol neu wythnosol tu allan i’r dosbarth.
Dw i wastad yn annog siaradwyr newydd i wrando ar raglenni radio – fy ffefrynnau i yw rhaglen Rhys Mwyn ar nos Lun, neu raglen Georgia Ruth bob nos Fawrth ar Radio Cymru. Mae’n ffordd wych i’ch helpu chi i ddysgu ond heb y pwysau a’r ofn o ymateb os ti ddim yn teimlo’n ddigon hyderus i wneud.
Mae rhaglenni radio wedi bod mor ddefnyddiol ar fy nhaith i ac mi fyswn i ar goll heb Radio Cymru yn cadw cwmni i fi yn y car neu wrth fy ochr adra. Er fy mod i ddim yn dallt bob gair bob tro ac yn cael fy llethu bob hyn a hyn, dw i’n credu bod rhaglenni radio yn creu’r cyfle perffaith i glywed acenion gwahanol a geiriau newydd – heb sôn am ddarganfod bandiau ac artistiaid ti’n licio.
Podlediadau
Yn ogystal â rhaglenni radio, mi fyswn i’n argymell podlediadau i siaradwyr newydd fel adnodd arall i helpu i fagu hyder. Efallai fy mod i’n hwyr i’r parti, ond dros y wythnosau diwethaf, dw i wedi bod yn gwrando ar bodlediadau am y tro cyntaf, a dw i’n difaru peidio gwneud yn gynt.
Tua blwyddyn yn ôl, ges i’r pleser o fod yn westai ar bodlediad o’r enw Sgwrsio. Mae’n bodlediad gwych i siaradwyr newydd a phobl sy’n mwynhau clywed am brofiadau eraill o ddysgu Cymraeg. Ac wythnos yma, ges i’r cyfle i gyfrannu at brosiect gan yr Urdd trwy recordio podlediad ar gyfer Cylchgrawn Cip (cylchgrawn i blant bach). Dw i wedi recordio ambell stori i’r podlediad erbyn hyn, ac un o’r pethau dw i’n mwynhau fwyaf yw dysgu geiriau newydd sydd ddim yn gyfarwydd i fi.
Y podlediadau sydd wedi bod yn cadw cwmni i fi dros yr wythnosau diwethaf yw Caru Darllen a Colli’r Plot. Maen nhw’n sôn am ddarllen a’r byd llyfrau. Mae Gwrachod Heddiw yn bodlediad sydd yn dathlu merched Cymru efo pwyslais ar y rhai mwyaf di-flewyn ar dafod.
Ar y cyfan, mae wedi bod yn braf darganfod y byd eang o bodlediadau Cymraeg. Wel, dw i’n deud “byd eang” ond, mewn gwirionedd, dw i ddim wedi mentro’n bell o fy comfort zone o gwbl. Os dach chi wedi darllen un o fy ngholofnau o’r blaen, fydd o ddim yn synnu chi o gwbl i wybod bod fi wedi mynd yn syth at bodlediadau sy’n sôn am lyfrau neu ffeministiaeth.
Wrth weld y dewisiadau sydd ar gael ar Y Pod (gwefan sy’n llawn dop efo pob math o bodlediadau gwahanol), wnes i fynd syth at adran “Adloniant a Cherddoriaeth” lle wnes i ddarganfod y tri uchod. Ond mae’r wefan efo bach o bob dim a rhywbeth i bawb, gan gynnwys adran o’r enw “Addas i Ddysgwyr”.
Felly, fyswn i’n hoffi ychwanegu podlediadau at y rhestr o adnoddau dw i’n argymell i siaradwyr newydd. Mae’n ffordd arall i fagu hyder wrth ddysgu a gwrando ar bwnc diddorol. Ond, os dach chi fel fi yn mwynhau podlediadau am lyfrau, mae yna siawns dda y byddwch yn gwrando ac wedyn yn ysgrifennu rhestr hir o’r holl lyfrau dych chi eisiau prynu neu fenthyg. Felly, mwynhewch wrando ond byddwch yn ofalus!