Mae Francesca Sciarrillo wedi dysgu Cymraeg. Roedd hi wedi ennill cystadleuaeth Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd yn 2019. Mae hi’n dod o’r Wyddgrug yn wreiddiol ond rŵan yn byw yn Rhuthun yn Sir Ddinbych. Fe fydd hi’n ysgrifennu colofn bob wythnos i Lingo360. Dyma’r golofn gyntaf gan Francesca lle mae hi’n cyflwyno ei hun…
Lle i ddechrau? Wel, Francesca ydw i a dw i wedi bod ar daith i ddysgu Cymraeg ers tua 10 mlynedd erbyn hyn. Yn 2019, symudais yn ôl i’r Wyddgrug – y dref lle cefais fy magu yn Sir Y Fflint – ar ôl astudio gradd a gradd meistr mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor. Rŵan, dw i’n byw yn Rhewl, pentref bach tu allan i Rhuthun yn Sir Ddinbych.
I fod yn hollol onest efo chi, dw i ddim cweit yn gallu coelio’r ffaith bod fi’n ysgrifennu’r golofn yma. Deg mlynedd yn ôl, roeddwn i’n eistedd mewn dosbarth Cymraeg yn trio dallt gramadeg a threigladau (dw i dal ddim gant y cant yn siŵr y rhan fwyaf o’r amser, rhaid i mi gyfaddef – diolch byth am Cysill!) ac yn breuddwydio am y diwrnod pan fyswn i’n ystyried fy hun yn siaradwr rhugl.
Fel llawer o ddysgwyr Cymraeg, dw i wedi cael cyfnodau lle mae’r syniad o fod yn siaradwr neu’n ysgrifennwr rhugl yn y Gymraeg yn teimlo mor bell i ffwrdd. Mae diffyg hyder yn effeithio ni gyd mewn ffyrdd gwahanol. Dw i wedi atgoffa fy hun sawl gwaith dros y blynyddoedd bod dim rhaid siarad neu ysgrifennu Cymraeg yn berffaith bob tro: y peth pwysig yw’r ffaith bod fi’n trio gwella. Efallai, un diwrnod, mi fydda i’n ystyried fy hun yn berson rhugl yn yr iaith Gymraeg. Wel, dw i dal ar y ffordd, ac yn dysgu mwy bob dydd (diolch i adnoddau gwych fel Lingo360 a lingo newydd). Felly, hoffwn ddweud wrth unrhyw ddysgwr neu siaradwr newydd sy’n darllen hwn: mae breuddwydion yn gallu dod yn wir!
Llyfrbryf
Yn y brifysgol, roedd rhaid i fi ddarllen hyd at dri llyfr bob wythnos fel myfyriwr Llenyddiaeth Saesneg: roedd hynny’n ddelfrydol i lyfrbryf fel fi! Mae llyfrau a darllen yn chwarae rôl fawr iawn yn fy mywyd ac mi fyswn i ar goll heb fy silffoedd llyfrau a cherdyn llyfrgell. Dw i’n caru llenyddiaeth ffeministaidd ac yn ffan fawr o awduron benywaidd cyfoes. Wna’i ddarllen unrhyw le – ar y soffa neu wrth ymyl yr afon lle dwi’n byw, neu hyd yn oed yn cerdded lawr y stryd – ond dwi ddim yn argymell gwneud hynny!
Dwi hefyd yn casglu recordiau ac, ar hyn o bryd, yn rhedeg allan o le yn fy nghabinet recordiau, sy’n llawn dop. Mae cerddoriaeth Cymraeg wedi bod yn bwysig i fi ar fy nhaith dysgu. Mae bandiau ac artistiaid fel Datblygu, Gruff Rhys a Gwenno wedi cael argraff anferthol arna’i. Yn fy marn i, un o’r ffyrdd gorau o ymgolli’ch hun yn yr iaith Gymraeg yw trwy lyfrau a cherddoriaeth. Rydyn ni mor lwcus yma yng Nghymru bod cymaint o awduron ac artistiaid anhygoel.
Yr Eidal a fy nheulu
Fyswn i ddim yn gallu cyflwyno fy hun yn iawn heb sôn am fy nheulu. Wna’i ddechrau efo Nain a Taid ar ochr fy Mam: Adamo Nicole a Maria Giuseppa. Symudon nhw i Gymru yn y 1960au o Santa Croce di Magliano. Gwnaeth fy Nain a Taid ar ochr fy Nhad, Guido a Matilde, symud o Rufain (ond yn wreiddiol o Ariano Irpino) i Gymru tua’r un amser ac am resymau eithaf tebyg: er mwyn creu bywydau gwell i’r teulu cyfan. A dyna’n union beth wnaethon nhw yma yng Nghymru. Mae’r teulu wedi parhau i dyfu ers iddyn nhw adael yr Eidal, ac rydyn ni’n agos iawn. Fel plentyn, aeth fy chwaer a fi a fy rhieni i’r Eidal bob blwyddyn i ymweld â theulu, ac mae gen i hiraeth mawr i fynd yn ôl yn fuan.
Dwi wastad wedi trio dychmygu pa fath o bethau oedd yn mynd trwy feddwl fy Neiniau a Theidiau wrth adael yr Eidal. Dwi’n gallu dychmygu’r dewrder mae’n cymryd i adael pawb a phopeth er mwyn dechrau antur i greu bywydau gwell. Wnaeth fy Nhaid ddim mynd i’r ysgol neu ddysgu sut i ddarllen ac ysgrifennu, dau beth sydd yn bwysig iawn yn fy mywyd i. Mae’n anodd rhoi mewn geiriau pa mor ddiolchgar ydw i iddo fo, ac i’r pedwar ohonyn nhw, am eu penderfyniad i symud i Gymru. Hebddyn nhw, fyswn i ddim wedi darganfod y Gymraeg.
Felly, dyma i chi ychydig bach o fy hanes i fel dysgwr, casglwr recordiau a llyfrbryf. Grazie, diolch yn fawr iawn am ddarllen, ac arrivederci, hwyl fawr – tan tro nesaf!