Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…

  • Mae Eluned Morgan wedi cael cerydd gan Senedd Cymru
  • Mae cwmni adeiladu yn Ynys Môn wedi cael ei feirniadu am newid enw tŷ
  • Mae 46% o bobol yng Nghymru eisiau gweld y teitl Tywysog Cymru yn parhau
  • Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn cael eu gweld am y tro cyntaf

 Eluned Morgan yn cael cerydd gan Senedd Cymru am oryrru

Eluned Morgan

Mae Eluned Morgan wedi cael cerydd swyddogol gan Senedd Cymru. Hi yw Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru.

Mae hi wedi cael cerydd ar ôl torri cod ymddygiad Aelodau o’r Senedd.

Roedd Eluned Morgan wedi cael ei gwahardd rhag gyrru am chwe mis a dirwy o £800 ym mis Mawrth eleni.

Dyna oedd y pedwerydd tro iddi gael ei dal yn goryrru. Roedd hi hefyd wedi cael ei dal yn 2019, 2020 a 2021.

Roedd y pwyllgor safonau ymddygiad wedi penderfynu y dylai hi gael cerydd swyddogol.

Ymddiheuro

Mae Eluned Morgan wedi ymddiheuro am ei hymddygiad. Dywedodd wrth y Siambr ei bod yn ymddiheuro am “unrhyw embaras dw i wedi achosi i’r sefydliad”.


Rhun ap Iorwerth

Cwmni adeiladu tai ar Ynys Môn wedi cael ei feirniadu am newid enw tŷ

Mae cwmni adeiladu tai yn Ynys Môn wedi cael ei feirniadu am newid enw tŷ.

Roedd y cwmni, Anglesey Homes, wedi adeiladu’r tai yn Gwel-yr-Wyddfa ym mhentref Llanfaelog.

Roedd enw un o’r tai wedi newid o 9 Gwel-yr-Wyddfa i 9 Sandy Retreat.

Rhun ap Iorwerth ydy llefarydd iechyd Plaid Cymru. Roedd o wedi beirniadu’r cwmni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd: “Efallai y gallwch chi esbonio beth sy’n digwydd yn fan hyn?

“Yr eiddo hwn yw 9 Gwel-yr-Wyddfa, ac rydych chi wedi’i newid i 9 Sandy Retreat, do?

“Ydy dileu iaith a diwylliant Cymru’n rhan o’ch cynllun busnes?

Roedd Rhun ap Iorwerth hefyd wedi beirniadu’r cwmni am alw traeth Llanddwyn yn “Newborough Beach”.

“Does yna ddim y fath le â Newborough Beach. Ei enw yw Llanddwyn,” meddai Rhun ap Iorwerth.

Roedd Dirprwy Arweinydd Cyngor Môn, Carwyn Jones, hefyd wedi beirniadu’r cwmni.

Mae Jeff Smith yn llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith. Mae o’n dweud y gall Llywodraeth Cymru stopio pobl rhag newid enw tŷ neu dir.

Mae llawer o alwadau wedi bod i ddiogelu enwau lleoedd, meddai Jeff Smith.

Ymateb Anglesey Homes

Mae Anglesey Homes wedi ymateb i hyn mewn datganiad. Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi cyhoeddi ar eu cyfryngau cymdeithasol ar Fehefin 20 eu bod nhw wedi ailenwi eu heiddo Gwel-yr-Wyddfa. Ond maen nhw’n dweud bod “camddealltwriaeth” wedi bod.

Roedd y cwmni wedi gorffen adeiladu Gwel-yr-Wyddfa yn 2019. Roedden nhw wedi cytuno gyda Chyngor Ynys Môn a grwpiau lleol i ddefnyddio’r enw ‘Gwel-yr-Wyddfa’.

“Rydym yn falch iawn o’r enw a’r datblygiad,” meddai Anglesey Homes.

Maen nhw’n dweud bod bob un o’r naw tŷ wedi eu gwerthu i drydydd partïon. Roedd  y tŷ sydd wedi newid ei enw hefyd wedi cael ei werthu i drydydd parti.

Mae Anglesey Homes yn dweud bod y perchnogion wedi penderfynu rhoi plac ar eu tŷ a’i alw’n ‘Sandy Retreat’. Mae eu cyfeiriad swyddogol yn aros yr un fath sef ‘Gwel yr Wyddfa’.

“Fel perchnogion yr eiddo, mae ganddyn nhw’r hawl, fel unrhyw un arall, i osod plac ar eu heiddo a rhoi enw arno.”

Maen nhw’n dweud fod hyn ddim yn effeithio cyfeiriad y datblygiad na’r stryd sy’n aros yn ‘Gwel-yr-Wyddfa’.


Tywysog Charles

46% o bobol yng Nghymru eisiau i’r teitl Tywysog Cymru barhau

Mae 46% o bobol yng Nghymru eisiau i’r teitl Tywysog Cymru barhau, meddai arolwg.

Mae’n debyg y bydd yr enw yn cael ei basio ymlaen i’r Tywysog William pan fydd ei dad, y Tywysog Charles, yn dod yn Frenin Lloegr.

Does neb wedi bod yn Dywysog Cymru am fwy o amser na Charles – 64 mlynedd fis nesaf.

Ond mae’r teitl Tywysog Cymru o fewn teulu brenhinol Lloegr yn un dadleuol yng Nghymru.

Roedd protestiadau y 1960au oherwydd y syniad o Dywysog Cymru newydd a’r seremoni arwisgo yng Nghastell Caernarfon.

Roedd ITV Cymru a YouGov wedi gofyn i bobl oedden nhw’n credu y dylai’r teitl Tywysog Cymru barhau ar ôl i Charles ddod yn Frenin.

Roedd 46% o’r rhai oedd wedi ateb yn credu y dylai’r teitl barhau ar ôl Charles. Roedd 31% yn erbyn, a 23% ddim yn siŵr.


Coron yr Eisteddfod

Dadorchuddio Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion

Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion wedi cael eu dadorchuddio.

Roedd hyn wedi digwydd mewn seremoni arbennig yng Nghanolfan Rhiannon, Tregaron.

Mae’r Goron wedi ei rhoi eleni gan Fridfa Ryngwladol Cobiau Cymreig Derwen. Mae wedi cael ei chynllunio gan yr artist Richard Molineux.

Y testun ar gyfer y cerddi eleni ydy ‘Gwres’. Mae’r enillydd yn cael y Goron a gwobr o £750.

Y beirniaid eleni yw Cyril Jones, Glenys Mair Roberts a Gerwyn Wiliams.

Mae’r Goron wedi’i hysbrydoli gan ddiwylliant yr ardal a Chymru gyda darnau o wydr sydd wedi’u paentio.

Cadair yr Eisteddfod

Y Gadair

Mae’r Gadair wedi cael ei gwneud gan Rees Thomas. Mae e’n gyn-athro gwaith coed yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth.

Mae’r Gadair yn cael ei rhoi eleni am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd ar y testun ‘Traeth’.

Y beirniaid yw Idris Reynolds, Emyr Lewis a Twm Morys.

Mae’r Gadair wedi ei noddi gan Gylch Cinio Dynion Aberystwyth.

Mae Rees Thomas yn dweud ei fod wedi ei ysbrydoli gan yr Afon Teifi a’r barcud coch.

Mae’r Gadair wedi’i chreu o goedyn derw.

Bydd seremoni’r Coroni yn cael ei chynnal ddydd Llun, Awst 1 am 16.30, a seremoni’r Cadeirio ddydd Gwener, Awst 5 am 16.30.