Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…
Cynnal protest wrth-frenhiniaeth wrth i Frenin Lloegr ddod i Gaerdydd.
Gwilym Bowen Rhys eisiau gweld llythyr Owain Glyndŵr yn dod yn ôl i Gymru.
Disgwyl cannoedd o bobol yn rali Cymdeithas yr Iaith yn Llangefni.
Eddie Butler, y chwaraewr rygbi a sylwebydd, wedi marw yn 65 oed.
Cynnal protest wrth-frenhiniaeth wrth i Frenin Lloegr ddod i Gaerdydd
Roedd llawer o brotestwyr wrth-frenhiniaeth wedi bod yn protestio y tu allan i Gastell Caerdydd ddoe (dydd Gwener, Medi 16).
Roedd y brotest wedi digwydd wrth i Frenin Lloegr ddod i Gaerdydd.
Roedd y dorf wedi gweiddi wrth i’r car oedd yn cludo’r Brenin Charles III gyrraedd y castell.
Dyma’r tro cyntaf i Charles III ddod i Gymru ers dod yn Frenin Lloegr. Ei fab, William, fydd Tywysog Cymru ar ôl i Elizabeth II, Brenhines Lloegr, farw.
Roedd y Brenin a Camilla, y Frenhines Gydweddog, wedi mynd i Eglwys Gadeiriol Llandaf, Castell Caerdydd a’r Senedd. Roedden nhw wedi dod i Gymru ar ôl bod yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yr wythnos hon hefyd.
Roedd y protestwyr eisiau dangos bod yna “farn wahanol”. Maen nhw’n gofyn a oes yna ddyfodol gwahanol i Gymru sydd ddim yn rhan o frenhiniaeth.
Gwilym Bowen Rhys eisiau gweld llythyr Owain Glyndŵr yn dod yn ôl i Gymru
Roedd ddoe (dydd Gwener, 16 Medi) yn Ddiwrnod Owain Glyndŵr, ac mae’r canwr a cherddor Gwilym Bowen Rhys yn dweud ei fod eisiau gweld Llythyr Pennal yn dod yn ôl i Gymru.
Ar Fawrth 31, 1406, roedd Owain Glyndŵr wedi anfon y llythyr at Siarl VI, Brenin Ffrainc. Roedd wedi gofyn i’r brenin am help gyda’i wrthryfel yn erbyn y Saeson.
Roedd Owain Glyndŵr wedi ysgrifennu’r llythyr yn ystod synod yr Eglwys Gymreig ym Mhennal. Roedd Owain Glyndŵr eisiau creu Cymru hunanlywodraethol, oedd yn cynnwys ei Heglwys ei hun a dwy brifysgol.
Cafodd copïau o’r llythyr hanesyddol eu rhoi i chwe sefydliad Cymreig. Roedd y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn un o’r chwech.
Mae’r llythyr gwreiddiol wedi’i gadw yn yr Archives Nationales ym Mharis.
Daeth y llythyr gwreiddiol i’r Llyfrgell Genedlaethol yn 2000 ar gyfer Arddangosfa Owain Glyndŵr.
Roedd Gwilym Bowen Rhys wedi bod ym Mharis ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr.
“Ro’n i’n digwydd pasio’r archif, a wnes i feddwl, dw i’n siŵr mai dyma le mae Llythyr Pennal,” meddai.
“Dydi o ddim yn cael ei arddangos, a dyna ydi’r peth, dydi o ddim yn bwysig yn hanes Ffrainc, ond mae o’n bwysig iawn, iawn yn ein hanes ni.
“Achos roedd o’n ddatganiad, yn fwy na dim byd, o hyder Glyndŵr a hyder Cymru ar y pryd o fod yn wlad annibynnol.
“Yn y llythyr, mae Owain yn gosod allan ei fwriad o sefydlu dwy brifysgol yng Nghymru, un yn y gogledd ac un yn y de. Ar ddechrau’r bymthegfed ganrif, fyse rheina wedi bod yn brifysgolion eitha’ cynnar yn Ewrop.
“A hefyd, roedd o’n dweud fysa’r Eglwys yn annibynnol a chanolfan yr Eglwys yng Nghymru fysa Tyddewi.
“Mae’r teimlad yn un diddorol o gael bod yn yr adeilad lle mae’r llythyr yn cael ei gadw, ac yn fy atgoffa i fod o’n golygu llawer mwy i ni nag ydi o i bobol Ffrainc,” meddai wedyn.
“Felly fysa fo’n gwneud synnwyr i ddychwelyd y llythyr yn ôl i Gymru.”
Mae Gwilym Bowen Rhys hefyd yn credu y dylai eitemau hanesyddol eraill gael eu dychwelyd i’r wlad lle maen nhw’n dod.
Disgwyl cannoedd o bobol yn rali Cymdeithas yr Iaith yn Llangefni
Mae disgwyl cannoedd o bobol yn rali Nid yw Cymru ar Werth Cymdeithas yr Iaith yn Llangefni heddiw (dydd Sadwrn, Medi 17).
Bydd y rali’n cael ei chynnal tu allan i swyddfeydd Cyngor Ynys Môn am 1yp.
“Yn y rali byddwn yn lansio rhan nesaf ein hymgyrch,” meddai Jeff Smith o grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith.
“Mae’r Llywodraeth yn amlwg yn gwrando ar y miloedd o bobl sydd wedi dod i ralïau, ymateb i ymgynghoriadau ac ymgyrchu i sicrhau cartrefi i bobl leol yn eu cymunedau.”
Ym mis Gorffennaf eleni, cafodd mesurau newydd eu cyhoeddi i drio taclo’r broblem o ail gartrefi.
Mae Cymdeithas yr Iaith nawr yn teimlo mai’r cam nesaf yw pwyso ar awdurdodau lleol. Maen nhw eisiau iddyn nhw ddefnyddio’r pwerau fydd ganddyn nhw.
Ond mae Jeff Smith yn dweud bydd yn rhaid i Awdurdodau Lleol wneud rhywbeth yn syth er mwyn cael dylanwad ar y farchnad dai yn 2023.
Mae’n dweud bod Llywodraeth Cymru yn ara’ deg wrth ddelio efo’r mater hefyd.
Meddai: “Byddwn yn galw ar y Llywodraeth i symud yn gynt ar y materion hyn gan fod cymunedau lleol yn colli eu stoc tai’n wythnosol.”
Eddie Butler wedi marw
Mae Eddie Butler wedi marw’n 65 oed. Roedd e’n chwaraewr rygbi, sylwebydd a darlledwr.
Roedd e’n chwaraewr rygbi gyda thîm Pont-y-pŵl. Roedd wedi ennill 16 o gapiau dros Gymru gan arwain ei wlad chwe gwaith a sgorio dau gais rhwng 1980 a 1984. Roedd e hefyd wedi cynrychioli’r Llewod yn Seland Newydd yn 1983.
Roedd e wedi ymddeol o rygbi yn 1985. Roedd wedi bod yn athro, cyn ymuno gyda Radio Wales.
Roedd e’n golofnydd gyda’r Sunday Correspondent, yr Observer a’r Guardian, cyn mynd yn sylwebydd a darlledwr gyda’r BBC. Roedd e’n sylwebu ym maes chwaraeon ond hefyd yn lleisio rhaglenni ar hanes Cymru.
Roedd e hefyd yn awdur ac yn ymgyrchydd tros annibyniaeth i Gymru.
Roedd e wedi marw yn ei gwsg yn ystod taith elusennol i ddringo mynyddoedd Periw.
Mae elusen Prostate Cymru wedi dweud mai “Ed oedd llais Cymru”, a’i bod hi’n “fraint” ei gael yn rhan o’r elusen.
Mae’n gadael ei wraig, Susan, a chwech o blant.
“Rydym yn torri’n calonnau o glywed am golli Eddie ac mae pawb yn y byd rygbi yng Nghymru’n anfon eu cydymdeimlad dwysaf i deulu ac anwyliaid Eddie,” meddai Undeb Rygbi Cymru wrth dalu teyrnged iddo.
“I nifer, Eddie oedd llais rygbi Cymru a bydd colled fawr ar ei ôl ymhlith cefnogwyr o amgylch y byd, yn ogystal â’i ffrindiau yn y gêm ac yma yn Undeb Rygbi Cymru,” meddai Rob Butcher, cadeirydd yr Undeb.
“Am newyddion trist o golled: cawr o ddyn rygbi a gwir gyfaill Cymru,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
Mae YesCymru’n dweud eu bod nhw wedi clywed am ei farwolaeth “gyda thristwch mawr”. Mae AUOB Cymru, sy’n trefnu’r gorymdeithiau annibyniaeth, hefyd wedi talu teyrnged iddo.
“Gyda thristwch mawr clywn am farwolaeth Eddie Butler,” meddai’r mudiad.
“Diolch am roi gobaith i ni mewn cyfnod roedd wir ei angen.
“Cwsg mewn hedd.”