Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…

Mae Elizabeth II, Brenhines Lloegr, wedi marw’n 96 oed

Liz Truss yw Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig

Mabon ap Gwynfor: ‘Bydd mwy o bobl yn cefnogi annibyniaeth i Gymru dan arweinyddiaeth Liz Truss’

YesCymru yn penodi Prif Weithredwr

Rhoi cap ar filiau ynni – £2,500 y flwyddyn o fis Hydref


Elizabeth II, Brenhines Lloegr, wedi marw’n 96 oed

Mae Elizabeth II, Brenhines Lloegr, wedi marw’n 96 oed.

Roedd Palas Buckingham wedi cyhoeddi’r newyddion nos Iau, Medi 8.

“Bu farw’r Frenhines yn dawel yn Balmoral brynhawn heddiw,” meddai Palas Buckingham.

Roedd yn dilyn adroddiadau yn y bore am iechyd y Frenhines. Roedd aelodau’r teulu wedi teithio i Balmoral yn ystod y prynhawn.

Bywyd

Daeth Elizabeth yn frenhines ar ôl marwolaeth ei thad, Siôr VI, ar Chwefror 6, 1952.

Does neb wedi teyrnasu am fwy na’i 70 o flynyddoedd ar yr orsedd.

Cafodd ei choroni yn Abaty Westminster ar Fehefin 2, 1953.

Roedd 15 o brif weinidogion y Deyrnas Unedig wedi mynd a dod yn ystod ei theyrnasiad. Winston Churchill oedd y cyntaf. Roedd hi wedi cwrdd â Liz Truss, y Prif Weinidog newydd, yr wythnos hon.

Bu farw ei gŵr, Dug Caeredin, fis Ebrill y llynedd yn 99 oed.

Bydd Charles, eu mab hynaf, yn arwain y cyfnod o alar. Mae o’n dod yn frenin a phennaeth ar 14 o wledydd y Gymanwlad.

Teyrnged y Brenin Charles III

Mae mab y Frenhines – y Brenin Charles III – wedi rhoi teyrnged iddi. Dywedodd fod ei marwolaeth “yn adeg o’r tristwch mwyaf i mi a holl aelodau fy nheulu”.

“Rydym yn galaru’n fawr farwolaeth Sofran annwyl a Mam gariadus iawn,” meddai.

Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi rhoi teyrnged iddi.

“Hynod o drist clywed am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II,” meddai.

“Fel y Frenhines a deyrnasodd hiraf, roedd hi’n cynnal gwerthoedd a thraddodiadau teulu Brenhinol Prydain.

“Ar ran pobol Cymru, dwi’n estyn fy nghydymdeimlad dwysaf â theulu Ei Mawrhydi ar yr adeg drist hon.”

Mae Elin Jones, Llywydd y Senedd, yn dweud ei bod wedi teyrnasu gydag “urddas”.

“Daeth i seremoni agoriadol pob Senedd ers ei hagor, gan adlewyrchu ei chydnabyddiaeth o gyfraniad y Senedd hon i fywyd Cymru.


Liz Truss yw Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig

Liz Truss yw Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig, ac arweinydd y Blaid Geidwadol.

Roedd ras wedi bod rhwng Liz Truss a Rishi Sunak am yr arweinyddiaeth. Daeth y cyhoeddiad ar Fedi 5 bod Liz Truss wedi ennill.

Roedd Rishi Sunak wedi cael 60,399 o bleidleisiau gan aelodau’r blaid, ond cafodd Liz Truss 81,326 o bleidleisiau.

Dywedodd Liz Truss ei bod yn “anrhydedd” bod yn arweinydd y Blaid Geidwadol. Roedd hi hefyd wedi diolch i Boris Johnson.

“Boris, fe wnes di gwblhau Brexit, fe wnes di chwalu Jeremy Corbyn, fe wnes di ddarparu’r rhaglen frechu, a herio Vladimir Putin. Roedd pobol yn dy edmygu o Kyiv i Carlisle.”

Mae hi wedi addo torri trethi, tyfu’r economi, a delio gyda’r argyfwng ynni a biliau pobol.


Annibyniaeth

Mabon ap Gwynfor: ‘Bydd mwy o bobl yn cefnogi annibyniaeth i Gymru dan arweinyddiaeth Liz Truss’

Bydd mwy o bobl yn cefnogi annibyniaeth i Gymru dan arweinyddiaeth Liz Truss. Dyna beth mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, Mabon ap Gwynfor yn dweud.

Mae e’n credu y bydd pobol yn gweld bod dim dyfodol i Gymru fel rhan o’r Deyrnas Gyfunol.

Daeth Liz Truss yn Brif Weinidog newydd y Deyrnas Gyfunol ar 6 Medi.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor ei bod hi “wedi gwneud addewidion i’r blaid Geidwadol” allai fod yn “hynod o niweidiol” i bobol yng Nghymru a’r Deyrnas Gyfunol.

Mae un pôl piniwn wedi dangos y byddai arweinyddiaeth Liz Truss yn arwain at fwy o bobol yn cefnogi annibyniaeth. Mae Mabon ap Gwynfor yn dweud mai “dyna’r unig olau” sydd.

Mae e hefyd yn gobeithio y bydd yr Alban yn gweld annibyniaeth dan ei harweinyddiaeth.

“Mae annibyniaeth yn yr Alban yn bosibilrwydd am fod y galw am annibyniaeth yn cynyddu, ond mae’n dibynnu os ydy Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn caniatáu refferendwm ac yn gwrando ar bobol yr Alban.”

Meddai: “Dw i’n meddwl gyda Liz Truss fel Prif Weinidog, fydd pobol yn gweld nad oes dyfodol i Gymru fel rhan o’r Deyrnas Gyfunol. Byddwn ni’n gweld cynnydd mawr yn y galw am annibyniaeth.”


YesCymru yn penodi Prif Weithredwr

Mae YesCymru wedi penodi Prif Weithredwr newydd llawn amser.

Mae’r mudiad yn cynnal gorymdaith fawr dros annibyniaeth yng Nghaerdydd ar 1 Hydref.

Fe fydd Gwern Gwynfil yn rhedeg YesCymru o ddydd i ddydd ac yn gweithredu ei strategaeth.

Mae’r mudiad yn dweud bod Gwern, sy’n 48 oed, wedi “ymrwymo’n gadarn” i achos annibyniaeth i Gymru.

Mae wedi bod yn Rheolwr Gyfarwyddwr y busnes gemwaith teuluol yn Nhregaron, Rhiannon Cyf, am 18 mlynedd.

Roedd ei fam, Rhiannon Ifans, wedi dechrau’r busnes dros 50 mlynedd yn ôl.

Roedd Gwern wedi graddio mewn Hanes yn Rhydychen. Cafodd ddiploma ôl-raddedig o Brifysgol Aberystwyth, a bu’n gweithio gyda sawl sefydliad cyn mynd yn ol i’r busnes teuluol yn 2004.

“Rwy’n edrych ymlaen at chwarae rhan allweddol ym mhennod nesaf datblygiad YesCymru,” meddai Gwern.

“Mae cyfrannu tuag at yr ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru mewn rôl llawn amser yn gyfle cyffrous. Mi fydda’i yn gallu gwneud gwahaniaeth go-iawn i ymgyrch sydd mor agos at fy nghalon.”


Rhoi cap ar filiau ynni – £2,500 y flwyddyn o fis Hydref

Mae Liz Truss wedi rhoi cap ar filiau ynnicartref. Fyddan nhw ddim yn costio mwy na £2,500 y flwyddyn o fis Hydref, meddai’r Prif Weinidog.

Roedd Liz Truss wedi addo taclo’r cynnydd mawr mewn costau ynni yn ei hwythnos gyntaf yn y swydd.

Mae’r cynllun yn golygu y bydd y cartref arferol yn arbed £1,000, meddai’r Llywodraeth.

Bydd cymorth ar gael i fusnesau a chyrff cyhoeddus hefyd.

Bydd cynllun y ‘Gwarant Pris Ynni’ yn para am ddwy flynedd, gan ddechrau ar Hydref 1.

Roedd disgwyl i filiau ynni godi i tua £3,549 y flwyddyn o fis Hydref.

Mi fydd pecyn cymorth y Llywodraeth yn costio tua £100bn. Mae’r Llywodraeth yn bwriadu benthyg yr arian.

Ond mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon, yn dweud bod Liz Truss wedi “cefnogi’r cwmnïau ynni yn lle cefnogi pobol gyffredin.”

“Beth maen nhw’n mynd i’w wneud ydy gwarantu benthyciad i’r cwmnïau ynni er mwyn i rheiny gadw eu prisiau lawr, ac wedyn ein bod ni’n talu’r benthyciad yn ôl dros bump i ddeng mlynedd,” meddai.

Mae hyn yn golygu bod y cwmnïau ynni yn “cael gwarant o bris a’n bod ni’n talu.”

Mae Hywel Williams yn dweud y bydd hyn yn golygu bod prisiau ynni yn aros yn uchel am bump i ddeng mlynedd wrth i ni dalu’r benthyciad yn ôl.

“Dydy pobol ddim yn sylwi hynna eto, y ffaith eu bod nhw’n mynd i fod yn talu a bod y cwmnïau ynni yn cael beth maen nhw eisiau.”